Brân goesgoch
Brân goesgoch | |
---|---|
Recordiad o'r Frân goesgoch yng Ngheredigion | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Corvidae |
Genws: | Pyrrhocorax |
Rhywogaeth: | P. pyrrhocorax |
Enw deuenwol | |
Pyrrhocorax pyrrhocorax (Linnaeus, 1758) |
Aelod o'r genws Pyrrhocorax yn nheulu'r brain yw'r Frân goesgoch (enw gwyddonol: Pyrrhocorax pyrrhocorax; Saesneg: Red-billed chough).
Mae'n aderyn gweddol fawr, 37–41 cm o hyd a 68–80 cm ar draws yr adenydd, ac mae'r pig a choesau coch yn ei wneud yn hawdd ei adnabod. Mae'n nythu ym Mhrydain, de Ewrop yn enwedig yr Alpau, rhannau mynyddig o ganolbarth Asia ac yn yr Himalaya, lle gall fod yn gyffredin iawn, er enghraifft yn Bhutan mae'n un o'r adar mwyaf cyffredin. Ceir hefyd boblogaeth yn ucheldiroedd Ethiopia. Fel rheol mae'n nythu mewn creigiau, un ai yn y mynyddoedd neu ar yr arfordir.
Fe'i ceir hefyd o gwmpas arfordir Ynys Môn, Llŷn a Sir Benfro ac yn y mynyddoedd, yn enwedig yn Eryri.
Yng ngwledydd Prydain mae'n aderyn sy'n gyfyngedig i'r ardaloedd Celtaidd, gorllewin yr Alban, Ynys Manaw, Cymru a Chernyw. Mae'n ymddangos ar arfbais Cernyw ac yn cael ei ystyried yn symbol o'r wlad, ond dim ond yn ddiweddar y mae ychydig o barau wedi dychwelyd i nythu yno ar ôl bod yn absennol am flynyddoedd lawer.
Ymddengys y frân goesgoch ar arfbais Sir Fflint, yn ogystal â bod yn aderyn cenedlaethol Cernyw. Caiff ei dangos hefyd ar arfbais Ysgol Maelor, Llannerch Banna oherwydd roedd y pentref ei hun unwaith oyn cael ei gynnwys yn ffiniau hen Sir Fflint.
Dosbarthiad hanesyddol
golyguDyma ysgrifennodd Gilbert White yn 1778:
- Cornish choughs abound, and breed on Beechy Head, and on the cliffs of the Sussex coast.
Dyma brawf i frain coesgoch ymledu llawer yn ehangach ar un adeg, gan gynnwys yr ardal yn nrama’r Brenin Llŷr gan Shakespeare, sef Caint. Mae’r mosaic Rufeinig yma [1] o Fila Rufeinig Brading hefyd yn dangos bod brain coesgoch yn byw yn ardal Ynys Wyth ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, tan yr 1880au meddai haneswyr lleol[1]. Ac yng Nghaersallwg (Salisbury) bu tafarn o’r enw The Chough Inn (The Blue Boar erbyn heddiw) sydd yn dyddio’n ôl i’r 19g.
Y frân goesgoch yng Nghymru
golyguAelodau eraill o deulu'r brain
golyguRhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Q28872863 | Cyanocorax morio | |
Brân goesgoch Alpaidd | Pyrrhocorax graculus | |
Chwibanwr mangrof | Pachycephala cinerea | |
Malwr cnau | Nucifraga caryocatactes | |
Piod-sgrech yddfwen | Cyanocorax formosus | |
Pioden las Fformosa | Urocissa caerulea | |
Sgrech lwyd | Perisoreus canadensis | |
Sgrech-bioden gynffon-raced | Crypsirina temia |
Cofnodion unigol
golygu- Yn 2014 daeth Anet Thomas o Lanengan hyd i gorff bran goesgoch wedi ei reibio gyda modrwy am y goes. Gyrrodd y fodrwy i arbenigwr lleol a fu’n monitro brain ers blynyddoedd. Cadarnhaodd hi mai gweddillion “Mrs Sant Tudwal”, 16oed, oedd yma wedi ei modrwyo yn giw yn Rhoscolyn yn 1997. Bu’n nythu yn Nhrwyn Cilan, ac yna ar Ynys Tudwal o 2000 i 2013.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alan Phillips (dyddiad?) Cock and Bull Stories
- ↑ Bwletin Llên Natur rhifyn 71