Brech y mwnci
Clefyd heintus a achosir gan firws brech y mwnci yw brech y mwnci (a enwyd yn mpox gan Sefydliad Iechyd y Byd[1]) sydd yn effeithio ar rai anifeiliaid, gan gynnwys bodau dynol.[2] Mae symptomau yn dechrau gyda thwymyn, cur pen, poen yn y cyhyrau, chwyddo'r chwarennau lymff, a theimlo wedi blino,[3] ac yna ceir brech sydd yn ffurfio pothelli ac yn ymgrawennu.[3] Ymddangosir y symptomau cyntaf rhyw ddeng niwrnod wedi cysylltiad â'r firws,[3] a pharheir y symptomau am ddwy i bedair wythnos, gan amlaf.[3]
Lledaenir brech y mwnci trwy sawl modd, gan gynnwys cyffwrdd cig y gwyllt, brathiad neu grafiad gan anifail, hylifau'r corff, gwrthrychau heintiedig, neu gysylltiad agos â rhywun sydd wedi ei heintio.[4] Credir i'r firws darddu o gnofilod yn Affrica.[4] Gellir cadarnhau diagnosis drwy brofi anaf ar y croen am DNA y firws.[5] Gall yr afiechyd ymddangos yn debyg i frech yr ieir.[6]
Gallai brechlyn y frech wen atal haint brech y mwnci gydag effeithioldeb o 85%.[5][7] Yn 2019, derbyniwyd defnydd y brechlyn Jynneos yn erbyn brech y mwnci ar gyfer oedolion yn Unol Daleithiau America.[8] Nid oes yr un briod feddyginiaeth ar gyfer brech y mwnci feddygol;[9] gall y cyffuriau cidofovir a brincidofovir fod yn effeithiol i raddau.[6][9] Yn Affrica, gall y gyfradd marwolaeth fod mor uchel â 10% heb driniaeth.[3]
Ymddengys y clefyd fel arfer yng Nghanolbarth a Gorllewin Affrica.[10] Darganfyddwyd y firws yn gyntaf ymhlith mwncïod mewn labordai ym 1958.[11] Canfuwyd yr achosion cyntaf ymhlith bodau dynol ym 1970 yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.[11] Yn 2003 cafwyd 71 o achosion yn yr Unol Daleithiau o ganlyniad i lygod codog a fewnforiwyd o Ghana i siopau anifeiliaid.[5] Yn 2022 cafwyd yr achosion cyntaf o drosglwyddo brech y mwnci rhwng bodau dynol y tu hwnt i Affrica, a hynny yn y Deyrnas Unedig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "WHO recommends new name for monkeypox disease". www.who.int (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-11-28.
- ↑ "About Monkeypox". CDC (yn Saesneg). 11 May 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 October 2017. Cyrchwyd 15 October 2017.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 "Signs and Symptoms Monkeypox". CDC (yn Saesneg). 11 May 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 October 2017. Cyrchwyd 15 October 2017.
- ↑ 4.0 4.1 "Transmission Monkeypox". CDC (yn Saesneg). 11 May 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 October 2017. Cyrchwyd 15 October 2017.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "2003 U.S. Outbreak Monkeypox". CDC (yn Saesneg). 11 May 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 October 2017. Cyrchwyd 15 October 2017.
- ↑ 6.0 6.1 "Human monkeypox". Clinical Infectious Diseases 58 (2): 260–267. January 2014. doi:10.1093/cid/cit703. PMID 24158414.
- ↑ "Treatment | Monkeypox | Poxvirus | CDC". www.cdc.gov (yn Saesneg). 2021-07-18. Cyrchwyd 2022-05-18.
- ↑ "FDA approves first live, non-replicating vaccine to prevent smallpox and monkeypox". FDA (yn Saesneg). 24 September 2019. Cyrchwyd 27 September 2019.
- ↑ 9.0 9.1 "Treatment | Monkeypox | Poxvirus | CDC". www.cdc.gov (yn Saesneg). 28 December 2018. Cyrchwyd 11 October 2019.
- ↑ Bunge, Eveline M.; Hoet, Bernard; Chen, Liddy; Lienert, Florian; Weidenthaler, Heinz; Baer, Lorraine R.; Steffen, Robert (11 February 2022). "The changing epidemiology of human monkeypoxNodyn:SndA potential threat? A systematic review" (yn en). PLOS Neglected Tropical Diseases 16 (2): e0010141. doi:10.1371/journal.pntd.0010141. ISSN 1935-2735. PMC 8870502. PMID 35148313. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=8870502.
- ↑ 11.0 11.1 "Monkeypox". CDC (yn Saesneg). 11 May 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 October 2017. Cyrchwyd 15 October 2017.