Brech ieir
Afiechyd heintus ydy brech ieir (Saesneg: Chickenpox) sy'n tarddu o'r feirws varicella zoster (VZV). Brech (Saesneg: rash) pothellog sy'n ymddangos yn gyntaf ar y pen a gweddill y corff mewn dwy neu dair ton. Mae'r frech yma'n cosi'n arw ac mae'r claf yn wirioneddol angen crafu'r pothellau hyn sy'n diflannu ohonynt eu hunain heb adael creithiau, fel arfer.
Enghraifft o'r canlynol | clefyd heintus, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | clefyd heintus firol, haint ar y croen, varicella zoster infection, Herpesviridae infectious disease, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r cyfnod heintus yn para rhwng 10 a 21 diwrnod ac mae'r frech yn ymledu drwy besychu neu dishan neu gyffyrddiad.
Pur anaml mae'r claf yn marw o'r afiechyd hwn. Yn eironig iawn, mae'n llawer gwaeth mewn oedolyn nag ydyw mewn plentyn. Mae'r risg yn waeth, wrth gwrs, i ferch feichiog neu berson gydag imiwnedd isel e.e. cleifion sydd ar chemotherapi.
Un cymhlethdod a all godi yn hwyr yn y dydd ydy'r eryr (neu'r shingles) sef y feirws varicella zoster yn ailgodi, flynyddoedd yn ddiweddarach ar ôl y frech goch gwreiddiol gan ailheintio'r claf. Ymddengys fod y feirws yma'n medru cysgu yn y corff am gyfnod hir cyn ailgodi.
Mae rhai anifeiliaid eraill yn medru dal y frech ieir e.e. epaod.[1]