Briallen Fair Sawrus

Planhigyn bach lluosflwydd gyda blodau persawrus melyn yw Briallen Fair Sawrus (Saesneg: Cowslip). Mae'n perthyn i deulu'r friallen a elwir yn Lladin yn Primula veris.

Briallen Fair Sawrus
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonPrimula Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Briallen Fair Sawrus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Ericales
Teulu: Primulaceae
Genws: Primula
Rhywogaeth: P. veris
Enw deuenwol
Primula veris
L.
Primula veris

Enwau eraill

golygu

Allweddau Pedr, Briallu Mair Sawrus, Briallu Dwbl, Dagrau Mair, Llysiau'r Parlys, Teth y Fuwch, Sawdl y Fuwch, Troed y Fuwch, Tafod yr Ych, Sgemran yr Ych, Symylen, Shwmbwls, Tewbanog Fechan.

Rhinweddau meddygol

golygu

Dywedir bod rhoi poltis ohono ar yr arlais yn beth da at ddiffyg cwsg.[1]

Awgrym y sylw canlynol yw bod briallu Mair yn brin ym Môn yn hanner cyntaf yr 18g. a bod posibilrwydd bod y rhywogaeth wedi cael help llaw garddwyr i ymsefydlu:

Llanfechell, Mon Ebrill 1734: April 8: ’’I had a present of rare flower seeds from Cousin...April 10. This evening I sowed Cowslip seed in Cae'rhyd y Gaseg, etc.’’[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Yr Herald Cymraeg
  2. Trans. AAS&FC 1931 (The Diary of William Bulkeley of Brynddu, Anglesey)

Gweler hefyd

golygu