Brian Stowell
Roedd Thomas Brian Stowell (6 Medi 1936 – 18 Ionawr 2019 ) yn bersonoliaeth radio, ieithydd, ffisegydd ac awdur o Ynys Manaw. Roedd yn gyn Yn Lhaihder (Darllenydd) y Tynwald, Senedd Ynys Manaw. Ystyrir ef yn un o'r bobl blaenaf yn yr ymgyrch dros adfywiad yr iaith Manaweg.[1]
Brian Stowell | |
---|---|
Ganwyd | Thomas Brian Stowell 6 Medi 1936 Douglas |
Bu farw | 18 Ionawr 2019 Douglas |
Dinasyddiaeth | Ynys Manaw |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, cyflwynydd radio, darlithydd, ffisegydd |
Cefndir
golyguGanwyd Stowell yn Douglas ym 1936. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Douglas a Phrifysgol Lerpwl, lle dderbyniodd gradd mewn ffiseg niwclear.
Yn ei arddegau darllenodd traethawd gan Douglas Faragher a oedd yn gofidio bod y Fanaweg yn cael ei hanwybyddu. Penderfynodd rhoi gais ar ddysgu'r iaith a mynychodd ysgol nos, lle mae ef oedd yr unig ddisgybl. Bu'n cynorthwyo Faragher i recordio'r ychydig o siaradwyr cynhenid a oedd dal yn fyw. Wrth wneud y recordiadau daeth yn rhugl yn yr iaith lafar.[2]
Gyrfa
golyguWedi ymadael a'r brifysgol arhosodd ar lannau Merswy i weithio fel darlithydd ffiseg ac i ennill doethuriaeth mewn ffiseg gymhwysol. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n ymweld ag Ynys Manaw yn rheolaidd ac yn parhau i hyrwyddo'r iaith. Ym 1979 cafodd gais gan weinidog addysg y Tynwald i baratoi cwrs dysgu Manaweg. Dychwelodd i Ynys Manaw ym 1991 wedi iddo gael ei benodi yn ddeiliad cyntaf swydd Swyddog yr Iaith Manaweg yn yr Adran Addysg. Bu'n gyfrifol am gyflwyno'r Fanaweg i ysgolion yr ynys. Bu'r galw am rywfaint o addysg Manaweg yn ysgubol gyda thua 40% o ddisgyblion ysgolion cynradd a 10% o ddisgyblion uwchradd yn derbyn gwersi.[2]
Ysgrifennodd Stowell nifer o gyrsiau Manaweg a chyhoeddodd nifer o erthyglau yn ymwneud â materion Manawaidd a Cheltaidd. Roedd yn gyfieithydd lluosog mewn amrywiaeth o gyfryngau, ac mae'n arbennig o adnabyddus am ei gyfieithiad o Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud (Contoyryssyn Ealish ayns Cheer ny Yindyssyn). Roedd yn aelod o'r Pwyllgor Darlledu Gaeleg, a bu'n cyflwyno sioe radio ac eitemau newyddion Manawaidd a Manaweg ar Radio Manx gan gynnwys bod yn brif gyflwynydd Moghrey Jedoonee (Bore Sul) am dros ugain mlynedd. Yn 2006, cyhoeddodd nofel lawn gyntaf y Fanaweg, Dunveryssyn yn Tooder-Folley (Llofruddiaethau'r Fampir).[1]
Anrhydeddau
golyguGwasanaethodd Stowell fel Yn Lhaihder (Darllenydd) ar Ddydd Tynwald rhwng 2001-2012, rôl sy'n dathlu'r iaith Manaweg ac sy’n ganolog i gadarnhau hunaniaeth Manw a pharhad cysylltiad ffurfiol llywodraeth Manaw a Bryn Tynwald dros nifer fawr o ganrifoedd.[3]
Yn 2008 anrhydeddwyd Dr Stowell gyda gwobr Reih Bleeaney Vanannan (Dewis y Flwyddyn Manaw), prif anrhydedd ddiwylliannol yr ynys am gyfraniadau eithriadol i ddiwylliant Manaw. Yn 2010 enillodd Anrhydedd y Tynwald, prif anrhydedd ddinesig yr ynys.[4]
Cyhoeddiadau
golygu- 1968: Gaelg Trooid Jallooghyn
- 1973: Chronicle of The Kings of Mann and The Isles / Recortys Reeaghyn Vannin as ny hEllanyn gyda George Broderick
- 1974: Bunneydys: A Course in Spoken Manx (wedi ei selio ar Buntús Cainte)[5]
- 1986: Abbyr Shen
- 1990: Contoyrtyssyn Ealish ayns Çheer ny Yindyssyn
- 1996: Bun-Choorse Gaelgagh
- 1996: A Short History of the Manx Language
- 1998: Y Coorse Mooar
- 2005: Dunveryssyn yn Tooder-Folley
- 2006: Ealish ayns Çheer ny Yindyssyn
- 2010: Contoyrtyssyn Ealish ayns Çheer ny Yindyssyn[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Dr Brian Stowell (1936-2019) Manx Speaker, Teacher, and Broadcaster". Y Tynwald. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-13. Cyrchwyd 22 Ionawr 2019.
- ↑ 2.0 2.1 "First Person: Brian Stowell". Financial Times. 10 Chwefror 2012. Cyrchwyd 22 Ionawr 2019.
- ↑ "President of Tynwald pays tribute to Dr Brian Stowell RBV TH". Y Tynwald. 21 Ionawr 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-22. Cyrchwyd 22 Ionawr 2019.
- ↑ "Tributes paid to Manx Gaelic revival 'pioneer'". BBC. 21 Ionawr 2019. Cyrchwyd 22 Ionawr 2019.
- ↑ O'Néill, Diarmuid (2005). Rebuilding the Celtic languages. Y Lolfa. t. 403. ISBN 978-0862437237.
- ↑ Everson, Michael (21 June 2010). "Contoyrtyssyn Ealish ayns Çheer ny Yindyssyn - Alice's Adventures in Wonderland in Manx" (yn Manaweg a Saesneg). Evertype. Cyrchwyd 20 January 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)