Agor y brif ddewislen

Bridget Riley

Prif artist y symudiad celfyddyd Celf Op (optical art)

Arlunydd yw Bridget Louise Riley (ganwyd 24 Ebrill 1931 yn Norwood, Llundain). Adnabyddir fel prif artist y symudiad celfyddyd 'Celf Op' (optical art).[1] Ar hyn o bryd mae hi'n byw ac yn gweithio'n Llundain, Cernyw a Ffrainc.[2]

Bridget Riley
Ganwyd 24 Ebrill 1931 Edit this on Wikidata
West Norwood Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Loughborough
  • Goldsmiths, Prifysgol Llundain
  • Y Coleg Celf Brenhinol
  • Coleg y Merched, Cheltenham Edit this on Wikidata
Galwedigaeth arlunydd Edit this on Wikidata
Mudiad Op art, celf gyfoes Edit this on Wikidata
Gwobr/au CBE, Goslarer Kaiserring, Praemium Imperiale, Gwobr Sikkens, Rubenspreis Edit this on Wikidata

Bywyd cynnarGolygu

Roedd ei thad, John Fisher Riley, o Swydd Efrog yn wreiddiol, yn argraffwr fel oedd ei dad yntau. Ym 1938 symudodd ei fusnes a theulu i Swydd Lincoln.[3] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu rhaid i Bridget Riley, ei chwaer a mam fynd fel ifaciwis i Gernyw.[4]

Addysgwyd Bridget Riley yn Cheltenham Ladies' College ac wedyn yng Ngholeg Gelf Goldsmiths, Llundain (1949–52), a'r Royal College of Art, Llundain (1952–55).[5]

Rhwng 1956 a 1958 bu rhaid iddi ofalu am ei thad yn dilyn damwain car. Fe weithiodd yn rhan amser yn yr asiantaeth hysbysebu enwog J. Walter Thompson tan 1962. Ym 1958 fe gynhaliwyd arddangosfa bwysig o waith Jackson Pollock yn Llundain a gafodd ddylanwad mawr arni.[6]

Roedd gwaith cynnar Bridget Riley yn ffigurol, gyda steil wedi'i ddylanwadu gan Argraffiadaeth (impressionism), ond rhwng 1958 a 1959 datblygodd dechneg mwy 'pointillist'.[7] O dua 1960 datblygodd ei harddull 'Op' enwog gyda phatrymau a siapiau du a gwyn deinamig yn archwilio'r modd gall rhythmau o liw chwarae a drysu'r llygaid.[5]

GwaithGolygu

Yn ystod y 1960au cynnar fe ddaeth Riley yn enwog am ei pheintiadau du a gwyn 'Op'. Gydag amrywiaeth eang o ffurfiau geometrig yn creu'r teimlad o symudiad neu liw. Bu rhai o ymwelwyr i'w harddangosfeydd yn dweud eu bod teimlo'n chwil neu'n disgyn trwy'r awyr.[8]

Mae'r gweithiau yma'n ymdrin â rhai cwestiynau'r cyfnod: yr angen i gynulleidfaoedd cymryd rhan yn nigwyddiadau celfyddydol; arbrofion gydag ehangu ymwybyddiaeth; a chreu moderniaeth.[9]

Wrth siarad am ei chelf mewn ffilm dywedodd Riley:

Mae rhythm ac ail-adrodd wrth wraidd symudiad. Maen nhw'n creu sefyllfa ble ynddi mae ffurfiau syml, elfennol yn dechrau gweithio'n weledol. Trwy eu casglu ac yn eu hail-adrodd, maent yn dod yn fwy amlwg. Mae ail-adrodd yn dod yn fath o 'ampliffyer' ar gyfer digwyddiadau gweledol sydd bron heb eu gweld ar ben eu hunain. Ond i wneud y ffurfiau elfennol yma cyflawni eu hegni gweledol, mae rhaid iddynt anadlu, fel petai – i agor ac i gau, neu i dynhau ac wedyn ymlacio. Mae rhythm sy'n byw'n gorfod newid cyflymdra a theimlad sut mae'r cyflymdra gweledol yn lledu ac yn crynhoi – weithiau i fynd yn araf ac weithiau’n sydyn. Mae rhaid i'r holl beth fyw. [10]

 
Esiampl o liwiau'r Aifft

Nes ymlaen yn y degawd dechreuodd arbrofi gyda llwyd yn ychwanegol i'r du a gwyn ac ym 1967 gyda lliw llawn.[11] Fe'i hysbrydolwyd gan daith i'r Aifft a'r lliwiau a defnyddiwyd ar beintiadau hanesyddol a thirwedd gan ddatblygu palet o liwiau 'Eifftaidd' ar ddechrau'r 1980au[12] Yn ei chynfas Delos (1983), er enghraifft, mae gleision, turquoise, and a gwyrddion i'w weld bob yn ail gyda melynion cyfoethog, cochion a gwyn.[13]

Marchnad gelfGolygu

Yn 2006, fe brynwyd ei Untitled (Diagonal Curve) (1966), cynfas du a gwyn gyda llinellau chwil, yn Sotheby's am $2.1 miliwn [14] Yn 2008, fe prynwyd Static 2 (1966) cynfas smotiog, am £1,476,500 ($2.9 miliwn).

Llyfryddiaeth ddetholGolygu

  • Bridget Riley: The Stripe Paintings 1961–2012 (Llundain: Ridinghouse; Berlin: Holzwarth Publications and Galerie Max Hetzler, 2013). Testun gan John Elderfield, Robert Kudielka a Paul Moorhouse.[15]
  • Bridget Riley: Works 1960-1966 (London: Ridinghouse, 2012). Bridget Riley yn sgwrsio gyda David Sylvester (1967) a Maurice de Sausmarez (1967).
  • Bridget Riley: Complete Prints 1962-2012 (Llundain: Ridinghouse, 2012). Traethodau gan Lynn MacRitchie a Craig Hartley; golygwyd gan Karsten Schubert.
  • The Eye’s Mind: Bridget Riley. Collected Writings 1965–1999 (Thames & Hudson, Serpentine Gallery a Phrifysgol De Montfort, 1999). Yn cynnwys sgyrisau gydag Alex Farquharson, Mel Gooding, Vanya Kewley, Robert Kudielka, a David Thompson. Golygwyd gan Robert Kudielka.
  • Bridget Riley: Paintings from the 60s and 70s (Serpentine Gallery, 1999). Gyda thestun gan Lisa Corrin, Robert Kudielka, a Frances Spalding.
  • Bridget Riley: Selected Paintings 1961–1999 (Düsseldorf: Kunstverein für die Rheinlande und Westfalen; Ostfildern: Cantz Publishers, 1999). Gyda thestun gan Michael Krajewski, Robert Kudielka, Bridget Riley, Raimund Stecker, a sgyrsiau gydag Ernst H. Gombrich a Michael Craig-Martin.
  • Bridget Riley: Dialogues on Art (Zwemmer, 1995). Sgyrsiau gyda Michael Craig-Martin, Andrew Graham Dixon, Ernst H. Gombrich, Neil MacGregor, aBryan Robertson. Golygwyd gan Robert Kudielka a gyda chyflwyniad gan Richard Shone.
  • Bridget Riley: Paintings and Related Work (National Gallery, 2010). Testun gan Colin Wiggins, Michael Bracewell, Marla Prather a Robert Kudielka. ISBN 978 1 85709 497 8.

CyfeiriadauGolygu

  1. Tate Biography
  2. Bridget Riley: Reconnaissance, September 21, 2000 - June 17, 2001 Dia Art Foundation, Efrog Newydd.
  3. Olly Payne (2012). "Bridget Riley". op-art.co.uk. Cyrchwyd 1 March 2013.
  4. Mary Blume (June 19, 2008), Bridget Riley retrospective opens in Paris New York Times.
  5. 5.0 5.1 Chilvers, Ian & Glaves-Smith, John eds., Dictionary of Modern and Contemporary Art, Oxford: Oxford University Press, 2009. pp. 598-599
  6. Kudielka, R., "Chronology" in Bridget Riley: Paintings and Related Work, London: National Gallery Company Limited, 2010, pp. 67-72. ISBN 978 1 85709 497 8.
  7. Bridget Riley Museum of Modern Art, New York.
  8. Bridget Riley, Fall (1963)
  9. Introduction to Frances Follin, Embodied Visions: Bridget Riley, Op Art and the Sixties, Thames and Hudson 2004
  10. http://painters-table.com/blog/bridget-riley-repetition-rhythm-learning-look-video#.VBGwA-fakVk Bridge Riley yn siarad am ei chelf: "Rhythm and repetition are at the root of movement. They create a situation within which the most simple basic forms start to become visually active. By massing them and repeating them, they become more fully present. Repetition acts as a sort of amplifier for visual events which seen singly would hardly be visible. But to make these basic forms release the full visual energy within them, they have to breathe, as it were - to open and close, or to tighten up and then relax. A rhythm that's alive has to do with changing pace and feeling how the visual speed can expand and contract - sometimes go slower and sometimes go faster. The whole thing must live."
  11. Tate Press Release
  12. Things to Enjoy, Bridget Riley, talking to Bryan Robertson in Bridget Riley, Dialogues on Art, p.87
  13. Jörg Heiser (May 2011), Bridget Riley at Galerie Max Hetzler, Berlin, Frieze.
  14. Carol Vogel (June 26, 2006), Prosperity Sets the Tone at London Auctions New York Times.
  15. "Bridget Riley: The Stripe Paintings 1961-2012".

Dolenni allanolGolygu