Broga
Broga melyn | |
---|---|
Broga melyn yn Ynys Hir, Ceredigion | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Anura |
Teulu: | Ranidae |
Genws: | Rana |
Rhywogaeth: | R. temporaria |
Enw deuenwol | |
Rana temporaria Linnaeus, 1758 | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Broga sy'n byw rhan o'i amser mewn dŵr yw'r broga melyn (yn y Gogledd llyffant melyn; hefyd broga cyffredin (D) ~ llyffant cyffredin (G)), ac fe'i ceir ar draws y rhan fwyaf o Ewrop. Mae'n wyrdd, brown neu felyn gyda chroen llyfn. Mae'n bwydo ar bryfed, abwyd a gwlithod. Mae'n dodwy hyd at 4,000 o wyau (a elwir yn grifft) mewn pyllau dŵr croyw bychain.
Y man gorllewinol pellaf lle'i ceir yw Iwerddon; yn y gogledd: y gwledydd Llychlyn, ac i'r dwyrain, fe'i gwelir ym Mynyddoedd yr Wral. Nid yw i'w gael ym Mhenrhyn Iberia, fodd bynnag, nac yn ne'r Eidal na de'r Balcanau. Mae hefyd i'w gael yn Asia - mor bell i'r dwyrain a Japan.
Mae'r llyffant melyn yn trawsffurfio drwy dair cyfnod pendant: y penbwl (larfa) dyfrol ac yna'r llencyndod (ar dir) ac yn y diwedd y ffurf lawn dwf (dŵr a thir). Mae ganddo gorff tew, gyda ffroenau crwn, traed gweog a choesau-ôl hir a esblygodd dros amser i nofio mewn dŵr a sboncian ar dir. Fe'i cymysgir yn aml gyda'r llyffant dafadennog (Bufo bufo), ond mae'n hawdd gwahaniaethu rhyngddynt gan fod gan y broga melyn goesau hirach, mae'n nhw'n sboncian ac mae'r croen yn llaith. Gellir adnabod grifft y broga melyn yn hawdd hefyd gan ei fod yn cael ei ddodwy bob yn dipyn, mewn llwythi; mae grifft y llyffant dafadennog mewn rhesi hir fodd bynnag.