Gwynegon

(Ailgyfeiriad o Arthritis)

Grŵp o gyflyrau sy'n ymwneud â niwed i gymalau'r corff ydy cricymalau (neu'r gwynegon yn y de; cryd cymalau yn y gogledd, neu cricmala ar lafar; yn ddiweddar: arthritis). Daw'r gair arthritis o'r Groeg arthro-, cymal + -itis, llid; lluosog: arthritides). Mae gwynegon yn un o brif achosion anabledd mewn pobl sy'n hŷn na 55 mlwydd oed.

Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae sawl ffurf o gricymalau; ac mae gan pob un achos gwahanol. Y ffurf mwyaf cyffredin o gricymalau yw osteoarthritis (clefyd dirywiol y cymalau), mae'n ganlyniad o henaint, trawma neu haint i'r cymal. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gall anatomeg annormal gyfrannu at ddatblygiad cynnar osteoarthritis. Y ffurfiau eraill o arthritis yw arthritis rhiwmatoid ac arthritis psoriatic, clefyd awtoimiwn lle mae'r corff yn ymosod ar ei hun. Mae arthritis septig yn cael ei achosi gan haint yn y cymal. arthritis cymalwstog yn cael ei achosi gan dyddodiad o grisialau asid wrig yn y cymal, gan achosi llid. Mae hefyd ffurf anghyfredin o gymalwst a achosir gan ffurfiad crisialau rhomboid o chalsiwm pyroffosffad. Adnabyddir y cymalwst hwn o dan yr enw ffug-gymalwst.

Meddygaeth naturiol

golygu

Credir y gall y llysiau canlynol gynorthwyo rhai mathau o wynegon: Lafant, Penrhudd (Oregano), Rhosmari a Seleri.

Dengys ymchwil diweddar [1] fod rhai bwydydd (gan gynnwys cigoedd) yn ffyrnigo'r anhwylder, ac nad yw llysieuwyr yn dioddef cymaint. Ymhlith y rhain y mae: ŷd, corn, siwgwr, caffîn, orenau,grawnffrwyth, lemonau a thomato. Y cigoedd gwaethaf yw: cig moch, porc, cig eidion a chig oen.

Ar y llaw arall, credir fod pysgod olewllyd, megis macrell, eog, sardins a phennog yn llesol ac yn lleddfu'r symptomau. Mae bwyta deiet vegan yn lleihau'r nifer o gymalau gryn dipyn. Mae troi at olew yr olewyddan (olive oil) yn beth da, a bwydydd llawn Omega-3.

Mae rhai pobl hefyd yn sensitif i lysiau un teulu yn arbennig, sef y Solanaceae: tatws, pupur melys, paprica, cayenne a bron pob math arall o bupur ar wahan i bupur du.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Overcoming Arthritis gan Dr Sahara Brewer; Cyhoeddwyd gan Duncan Baird.