Ystâd o wisgo pan mae bronnau benyw i'w gweld, heb ddillad drostynt yw bod yn fronnoeth. Gellir hefyd dweud bron-nothdra, ond fel arfer mae'r gair 'merch' neu 'fenyw' yn rhagddodi'r gair hy 'merch fronnoeth'. Pan fo dyn yn gwneud hyn, dywedir ei fod 'heb ei grys'.

Bronnoeth
Mathnudity Edit this on Wikidata
Yn cynnwysmale toplessness, female toplessness Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwaith yr arlunydd Francesco Hayez o'r Eidal; 1850.

Mae gwledydd sydd wedi datblygu'n faterol, gan fwyaf, wedi deddfu i atal bron-nothdra, gyda'r arfordir yn eithriad, lle mae'n cael ei oddef a'i ganiatáu. Yn y gwledydd sy'n datblygu, yn aml, bod yn fronnoeth ydy'r norm. Fel arfer, hefyd, mae crefydd yn addysgu ac yn annog pobl yn erbyn hyn, gan ei droi'n dabŵ.

Mae Topfreedom yn fudiad sy'n ceisio newid deddfau er mwyn caniatáu bod yn fronnoeth yn cyhoeddus. Ceisiant newid y syniad (a'r deddfau) fod bronnau noeth yn gyfystyr a 'dinoethi anweddus'.

Mae'r rhan fwyaf o wledydd y byd yn caniatáu i fenywod fronfwydo, ond yn yr UDA, dim ond mewn llefydd cyhoeddus. Chewch chi ddim gwneud mewn siopau preifat ayb.

Dull o brotestio golygu

Mae mynd yn fronnoeth yn cael ei ddefnyddio fel dull o brotestiow. Mae FEMEN, yn fudiad protest o Wcrain sydd wedi defnyddio'r dull yma ers blynyddoedd, ac yn mecsico yn 2016 tynnwyd sylw at ddiflaniad 43 o fyfyrwyr mewn protest o'r enw Poner el Cuerpo, Sacar la Voz.

Mewn ffilm golygu

Yn y 1920au, cafodd noethni, gan gynnwys bronnoethni, sylw mewn ffilmiau di-sain yn Hollywood yn ogystal ag ar y llwyfan, ond gwrthwynebwyd hyn yn gynyddol gan llawer o grwpiau, a sefydlwyd sawl awdurdod yn yr Unol Daleithiau a mannau eraill i sensro ffilmiau.

  • Topless, Ffilm o Japan; 2008
  • Topless, drama lwyfan gan Miles Tredinnick; 1999

Mewn celf golygu

Mae'r arteffactau yn amgueddfa awyr agored Siam ger Bangkok yn darlunio menywod Gwlad Thai yn fronnoeth. Mae'r Murlun Ramakien sy'n cynrychioli bywydau'r trigolion lleol, a ddarganfuwyd yn Nheml Wat Phra Kaew, yn darlunio menywod yn gwisgo sgert yn unig a hynny'n gyhoeddus. O ganlyniad i'r Dadeni Dysg, mewn llawer o gymdeithasau Ewropeaidd, roedd arddull a diwylliant clasurol Gwlad Groeg yn dylanwadu'n gryf ar artistiaid. O ganlyniad, roedd delweddau o bynciau noethlymun a lled-noethlymun mewn sawl ffurf yn boblogaidd mewn celf a cherflunwaith.[1]

Yn ystod oes Fictoria, cyflwynodd peintwyr Ffrengig fel Jean-Léon Gérôme menywod harem Mwslimaidd noeth, tra poblogeiddiodd Eugène Delacroix, arlunydd rhamantus Ffrengig, y syniad o Ryddid ar ffurf menyw fronnoeth.

cyfeiriadau golygu

  1. "Toplessness defined". Bikini Science. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Ionawr 2010. Cyrchwyd 14 Ionawr 2010. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)