Gwlad Tai

gwlad annibynnol yn ne-ddwyrain Asia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Siam)

Gwlad annibynnol yn ne-ddwyrain Asia yw Teyrnas Gwlad Tai neu Gwlad Tai (hefyd weithiau Gwlad y Thai). Mae hi'n ffinio â Laos a Chambodia i'r dwyrain, Laos a Myanmar i'r gogledd, Maleisia a Gwlff Gwlad Tai i'r de a Myanmar a'r Môr Andaman i'r gorllewin. Mae ei ffiniau morwrol yn cynnwys Fietnam yng Ngwlff Gwlad Tai i'r de-ddwyrain, ac Indonesia a'r India yn y Môr Andaman i'r de-orllewin. Siam oedd enw'r wlad hyd 11 Mai 1949. Ystyr "Tai" yn yr iaith genedlaethol yw "rhyddid" a dyna yw enw prif grŵp ethnig y wlad hefyd. Bangkok yw prifddinas a dinas fwyaf y wlad a hi hefyd yw canolfan wleidyddol, fasnachol, diwydiannol a diwylliannol y wlad.

Gwlad Tai
Emblem of Thailand.svg
Mathbrenhiniaeth gyfansoddiadol, gwladwriaeth sofran, gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasBangkok Edit this on Wikidata
Poblogaeth65,931,550 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 28 Rhagfyr 1768 (Thonburi Kingdom)
  • 1238 (Sukhothai Kingdom) Edit this on Wikidata
AnthemAnthem Genedlaethol Gwlad Tai Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethPrayut Chan-o-cha Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+07:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Thaieg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDe-ddwyrain Asia Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Tai Gwlad Tai
Arwynebedd513,119.5 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLaos, Cambodia, Maleisia, Myanmar, Gweriniaeth Khmer, Kedah Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau14°N 101°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Gwlad Tai Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholDeddfwrfa Cenedlaethol Gwlad Tai (2014) Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Brenin Gwlad Tai Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethMaha Vajiralongkorn Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Gwlad Tai Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethPrayut Chan-o-cha Edit this on Wikidata
LocationThailand.svg
ArianBaht Edit this on Wikidata
Canran y diwaith0.9 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.54 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.755 Edit this on Wikidata

Gwlad Tai yw 50fed gwlad fwyaf y byd o ran arwynebedd (er ychydig yn llai na Iemen ac ychydig yn fwy na Sbaen), gydag arwynebedd o tua 513,000 km2 (198,000 milltiroedd sgwâr). Hi yw'r 20fed wlad fwyaf poblog, gyda 65,931,550 (31 Rhagfyr 2016)[1] o bobl yn byw ynddi. Mae 75% o'r boblogaeth yn bobl gynhenid o Wlad Tai, 14% o gefndir Tsieineaidd, a 3% o dras ethnig Malay; daw'r gweddill o grwpiau ethnig lleiafrifol yn cynnwys Mons, Khmers ac amryw o lwythau mynyddig. Iaith swyddogol y wlad yw Tai. Mae tua 95% o'r boblogaeth yn dilyn Bwdhaeth.

Mae Gwlad Tai yn un o'r gwledydd mwyaf defosiynol i Fwdhaeth yn y byd. Crefydd genedlaethol y wlad yw Bwdhaeth Theravada sy'n cael ei ddilyn gan 95% o holl drigolion y wlad. Mae diwylliannau a thraddodiadau Gwlad Tai wedi'u dylanwadu i raddau helaeth gan yr India, Tsieina a gwledydd gorllewinol eraill.

Ceir brenhiniaeth gyfansoddiadol yng Ngwlad Tai gyda'r Brenin Bhumibol Adulyadej, y nawfed brenin o Dŷ Chakri, yn teyrnasu. Mae'r Brenin wedi bod yn teyrnasu am dros hanner canrif, sy'n golygu mai ef yw'r brenin sydd wedi teyrnasu hiraf yn y byd. Ystyrir y Brenin yn Bennaeth ar y Wladwriaeth, yn Bennaeth ar y Lluoedd Arfog, Cynhaliwr y ffydd Bwdhaeth am Amddiffynnwr y Ffydd. Gwlad Tai yw'r unig wlad yn Ne-ddwyrain Asia na chafodd ei goloneiddio gan wledydd Ewropeaidd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fodd bynnag, meddiannwyd y wlad gan Fyddin Imperialaidd Japan.

Profodd Wlad Tai dwf economaidd cyflym rhwng 1985 a 1995 ac erbyn heddiw mae'n wlad newydd-ddiwydiannol gyda phwyslais ar allforion a diwydiant twristiaeth lewyrchus, o ganlyniad i gyrchfannau gwyliau byd-enwog fel Pattaya, Bangkok, a Phuket.

GeirdarddiadGolygu

Mae'r wlad, drwy'r canrifoedd, wedi cael ei galw'n Mueang Thai gan ei dinasyddion, ond gan bobl o'r tu allan, cyn 1949,fe'i gelwid yn Siam (hefyd wedi'i sillafu'n Siem, Syâm, neu Syâma). Efallai bod y gair Siam wedi tarddu o Pali (suvaṇṇabhūmi, sef 'gwlad o aur') neu o'r Sansgrit श्याम (śyāma, sef 'tywyll') neu Mon ရာမည (rhmañña, sef 'dieithryn').

Yn ôl George Cœdès, mae'r gair Thai yn golygu 'person rhydd' yn yr iaith Tai (Thaieg) ond mae'n bosib hefyd ei fod yn wreiddiol wedi golygu 'person', 'dyn'.[2]

Tra bydd pobl Gwlad Thai yn aml yn cyfeirio at eu gwlad gan ddefnyddio'r ffurf gwrtais prathet Thai, maent fel arfer yn defnyddio'r term tafodieithol mueang Thai neu'n syml Thai. Defnyddid y gair mueang yn y gorffennol i gyfeirio at ddinas-wladwriaeth, yn gyffredin i gyfeirio at ddinas neu dref fel canol y rhanbarth. Ystyr Ratcha Anachak Thai yw 'teyrnas Gwlad Thai'. O ran ei eirdarddiad, ei gydrannau yw: ratcha (Sanskri, rājan, 'brenin, brenhinol, teyrnas'); -ana- (o'r Pali āṇā sef 'awdurdod, gorchymyn, pŵer', sy'n ei dro'n tarddu o'r Sansgrit आज्ञा, ājñā, o'r un ystyr) -chak (o Sansgrit चक्र cakra- 'olwyn', symbol o bŵer a rheol). Mae Anthem Genedlaethol Gwlad Thai, a ysgrifennwyd gan Luang Saranupraphan yn ystod y 1930au, yn cyfeirio at genedl Gwlad Thai fel prathet Thai. Llinell gyntaf yr anthem genedlaethol yw: prathet thai ruam lueat nuea chat chuea thai sef 'Mae Gwlad Thai yn uno cnawd a gwaed (ein pobl)i'.

DaearyddiaethGolygu

Gellir cymharu siâp Gwlad Tai â siâp eliffant. Mae rhan fwyaf o'r tir mawr i'r gogledd o'r Gwlff Thai â rhan gul yn ymestyn i lawr i Maleisia, gan ffinio â Myanmar i'r gorllewin am rai cannoedd o gilomedrau. Yn ogystal, mae nifer fawr o ynysoedd ym Môr Andaman ac yn y Gwlff, gan gynnwys ynysoedd Phi Phi, Samui a Krabi.

 
Phra Achana, Wat Si Chumin ym mharc hanesyddol Sukhothai, Ardal Mueang Sukhothai, Talaith Sukhothai, gogledd Gwlad Tai.

Gydag arwynebedd o 514,000 km2 (198,000 milltir sgwâr), Gwlad Tai yw'r 50fed wlad fwyaf yn y byd o ran daearyddiaeth, tra'i bod yr 20fed wlad fwyaf o ran poblogaeth. Gellir cymharu poblogaeth y wlad i wledydd fel Ffrainc a'r Deyrnas Unedig, tra bod arwynebedd ei thir yn debyg i Ffrainc neu Galiffornia yn yr Unol Daleithiau; mae ychydig dros ddwywaith maint y Deyrnas Unedig ac 1.4 gwaith yn fwy na'r Almaen. Mae'r hinsawdd leol yn drofannol a nodweddir hyn gan fonsynau. Ceir monsŵn yn y de-orllewin sy'n gymylog a glawog o ganol Mai tan fis Medi, yn ogystal â monsŵn yn y gogledd-ddwyrain sy'n sychach ac oerach o fis Tachwedd tan ganol mis Mawrth. Mae'r culdir deheuol bob amser yn boeth ac yn glos.

Mae Gwlad Tai yn gartref i nifer o ardaloedd daearyddol penodol. Mae gogledd y wlad yn fynyddig, gyda'r man uchaf Doi Inthanon 2,565 medr uwch lefel y môr (8,415 troedfedd). Mae'r gogledd-ddwyrain, Isan, yn cynnwys y Llwyfandir Khorat, sy'n ffinio gyda'r Afon Mekong i'r dwyrain. Yn gyffredinol, dominyddir canol y wlad gan ddyffryn llyfn yr afon Chao Phraya sy'n llifo i mewn i Gwlff Gwlad Tai. Mae'r de yn cynnwys Culdir Kra sy'n lledaenu i mewn i Benrhyn Malay. Yn wleidyddol, ceir chwe ardal ddaearyddol sy'n wahanol o ran poblogaeth, adnoddau naturiol, ffurfiannau naturiol a lefel eu datblygiad cymdeithasol ac economaidd. Y gwahaniaeth hwn yn yr ardaloedd sy'n amlygu gwahaniaethau ffisegol Gwlad Tai yn fwyaf amlwg.

Mae'r afonydd Chao Phraya a'r Mekong yn adnodd adnewyddadwy yng nghefn gwlad Gwlad Tai. Mae cynhyrchu cnydau ar lefel ddiwydiannol yn dibynnu ar yr afonydd hyn a'r afonydd sy'n eu bwydo. MAe Gwlff Gwlad Tai yn gorchuddio 320,000 km² a chaiff ei fwydo gan yr afonydd Chao Phraya, Mae Klong, Bang Pakong a'r Tapi. Cyfranna hyn at y diwydiant twristiaeth yn sgil eu dyfroedd bas a chlir ar hyd arfordiroedd y De a'r Culdir Kra. Mae Gwlff Gwlad Tai hefyd yn ganolfan ddiwydiannol yng Ngwlad Tai gyda phrif borthladd y deyrnas yn Sattahip yn fan mynediad i Borthladd Morol Mewndirol Bangkok. Ystyrir y Môr Andaman fel adnodd naturiol mwyaf gwerthfawr Gwlad Tai am mai yno y ceir y mwyafrif o gyrchfannau gwyliau a chyrchfannau mwyaf moethus Asia. Lleolir Phuket, Krabi, Ranong, Phang Nga a Trang a'u traethau godidog ar hyd arfordir y Môr Andaman ac er gwaethaf Tsunami 2004, parha'r traethau i fod yn gyrchfan i gyfoethogion Asia a thwristiaid eraill ledled y byd.

HanesGolygu

  Prif erthygl: Hanes Gwlad Tai

Mae pobl wedi bod yn byw yn yr ardal a adwaenir fel Gwlad Tai ers y cyfnod paleolithig, tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Cyn cwymp yr Ymerodraeth Khmer yn y 13g, mae sawl talaith wedi datblygu yno, megis yr amryw deyrnasoedd Tai, Mon, Khmer a Malay, a gwelir hyn yn y safleoedd archaeolegol amrywiol a'r gwrthrychau sydd i'w darganfod yn y dirwedd Siamese. Cyn y 12g fodd bynnag, yn draddodiadol ystyrir mai'r dalaith Tai neu Siamese cyntaf oedd y deyrnas Fwdhaidd Sukhothai, a gafodd ei sefydlu ym 1238.

Ar ôl dirywiad a chwymp y deyrnas Khmer yn y 13eg - 14g, esgynnodd y deyrnas Fwdhaidd Tai - Sukhothai, Lanna a Lan Chang. Fodd bynnag, ganrif yn ddiweddarach, lleihawyd pŵer Sukhothai gan deyrnas newydd Ayutthaya, a gafodd ei sefydlu yng nghanol y 14g yn ardal isaf yr Afon Chao Phraya, neu'r ardal Menam. Canolbwyntiai ehangiad Ayutthaya ar yr ardal ar hyn y Menam tra bod Teyrnas Lanna a dinas-daleithiau bychain eraill yn y dyffryn gogleddol yn rheoli'r ardal.

Wedi cwymp yr Ayutthaya yn 1767 i Bwrma, symudodd y Brenin Taksin Fawr brifddinas Gwlad Tai i Thonburi am tua 15 mlynedd. Dechreuodd y cyfnod Rattanakosin presennol yn hanes Gwlad Tai ym 1782, wedi i Bangkok gael ei sefydlu fel prifddinas yr ymerodraeth Chakri o dan reolaeth y Brenin Rama Fawr 1.

Parhaodd Gwlad Tai ei thraddodiad o fasnachu gyda thaleithiau cyfagos, o Tsieina i'r India, Persia a thiroedd Arabaidd. Datblygodd Ayutthaya yn un o ganolfannau masnachu mwyaf blaenllaw Asia. Cyrhaeddodd masnachwyr Ewropeaidd yn ystod y 16g, gan gychwyn gyda'r Portigeaid, ac yna'r Ffrancod, Iseldirwyr a'r Saeson.

Er gwaethaf y dylanwadau Ewropeaidd, Gwlad Tai oedd yr unig genedl yn Ne-ddwyrain Asia nas wladychwyd. Y ddau brif reswm am hynny oedd bod gan Wlad Tai hanes hir o arweinwyr abl iawn yn ystod y 1880au, a llwyddodd y wlad i gymryd mantais o'r tensiwn a'r elfen gystadleuol rhwng Ffrainc a Phrydain. O ganlyniad, parhaodd y wlad yn rhyw fath o dalaith byffer rhwng y rhannau o Dde-ddwyrain Asia a wladychwyd gan y ddwy wlad. Er hyn, arweiniodd dylanwad gwledydd y gorllewin at newidiadau mawr yn ystod y 19g a chyfaddawdau sylweddol ar ran Gwlad Tai, yn fwyaf amlwg drwy golli darn helaeth o dir ar ochr ddwyreiniol y Mekong i Ffrainc ac yna Prydain yn cipio Taleithiau Shan (Thai Yai) States (yn Bwrma bellach) a Phenrhyn Malay. I ddechrau, roedd eu colledion yn cynnwys Penang a Tumasik ac yn y pen draw roedd yn cynnwys colli pedair talaith ddeheuol. Yn ddiweddarach, daeth y taleithiau hyn yn bedair talaith ogleddol Maleisia, o dan Gytundeb Eingl-Siamese 1909.

EconomiGolygu

  Prif erthygl: Economi Gwlad Tai
 
Bangkok, dinas fwyaf a chanolfan busnes a diwydiannol fwyaf y wlad

Mae Gwlad Tai yn economi datblygol ac ystyrir y wlad yn Wlad Newydd Ddiwydiannu. Wedi cyfnod o dwf lle Gwlad Tai oedd y wlad a oedd yn tyfu yn gyflymaf yn y byd o 1985 tan 1996 - ar gyfartaledd o 9.4% yn flynyddol - arweiniodd pwysau ychwanegol ym 1997 ar arian y wlad, y baht i'r economi grebachu o 1.9%. Arweiniodd hyn yn ei dro at argyfwng lle gwelwyd gwendidau yn y sector ariannol a gorfodwyd gweinyddiaeth Chavalit Yongchaiyudh i godi benthyciad ar arian cyfredol y wlad. Gorfodwyd y Prif Weinidog Chavalit Yongchaiyudh i ymddiswyddo pan feirniadwyd ei gabinet am eu hymateb araf i'r argyfwng. Arhosodd y baht ar 25 i'r ddoler Americanaidd o 1978 tan 1997. Fodd bynnag, cyrhaeddodd y baht ei fan isaf o 56 i'r ddoler Americanaidd ym mis Ionawr 1998 a chrebachodd yr economi o 10.8% eleni. Arweiniodd hyn ar argyfwng ariannol Asia.

Dechreuodd economi Gwlad Tai gryfhau ym 1999, gan ehangu o 4.2% a 4.4% yn 2000, o ganlyniad i allforion cadarn i raddau helaeth. Lleihawyd twf yr economi gan economi byd-eang gwannach yn 2001, ond tyfodd yn y blynyddoedd olynol yn sgil twf cryf yn Asia, gyda baht cymharol wan yn annog allforion a chynnydd mewn gwariant mewnwladol o ganlyniad i brosiectau mawrion y Prif Weinidog Thaksin Shinwatra, a adwaenir fel Thaksinomics. Yn 2002, 2003 a 2004 gwelwyd twf o 5 -7% yn flynyddol. Arhosodd y twf tua'r un peth o 2005 i 2007. Yn sgil y ddoler Americanaidd yn gwanhau ac arian cyfredol Gwlad Tai yn cryfhau, erbyn mis Mawrth 2008, roedd y ddoler oddeutu 33 baht.

Mae'r sector twristiaeth yn bwysig iawn i economi'r wlad, sy'n denu nifer o ymwelwyr, yn bennaf o wledydd Ewrop, Japan ac o Awstralia.

Lluoedd arfogGolygu

 
The HTMS Chakri Naruebet, cludwr awyrennau Llynges Frenhinol Gwlad Thai

Rhennir Lluoedd Arfog Brenhinol Gwlad Thai (กองทัพ ไทย; RTGS : Kong Thap Thai) yn Fyddin Benhinol Gwlad Thai (กองทัพ บก ไทย), Llynges Brenhinol Gwlad Thai (กองทัพ เรือ ไทย), a Llu Awyr Brenhinol Gwlad Thai (กองทัพ อากาศ ไทย). Mae hefyd yn cynnwys lluoedd parafilwrol amrywiol.

Mae gan Lluoedd Arfog Gwlad Thai weithlu o tua 306,000 o bersonél ar ddyletswydd gweithredol a 245,000 arall o bersonél wrth gefn.[3] Pennaeth Lluoedd Arfog Gwlad Thai (จอมทัพ ไทย, Chom Thap Thai) yw'r brenin,[4] er mai enwol yn unig yw'r swydd hon, fel yn Lloegr hefyd. Rheolir y lluoedd arfog gan Weinyddiaeth Amddiffyn Gwlad Thai, dan arweiniad y Gweinidog Amddiffyn (sy'n aelod o gabinet Gwlad Thai) ac mae Pencadlys Lluoedd Arfog Brenhinol Gwlad Thai yn bennaeth, sydd yn ei dro yn cael ei arwain gan y Pennaeth Amddiffyn. Lluoedd Gwlad Thai.[5] Bu bron i gyllideb amddiffyn flynyddol Gwlad Thai gael ei dreblu o 78 biliwn baht yn 2005 i 207 biliwn baht yn 2016, gan gyfrif am oddeutu 1.5% o GDP Gwlad Thai 2019. Roedd Gwlad Thai yn 16ed ledled y byd yn y Mynegai Cryfder Milwrol yn seiliedig ar yr adroddiad Credit Suisse ym mis Medi 2015.

AddysgGolygu

 
Prifysgol Chulalongkorn, a sefydlwyd ym 1917, yw'r brifysgol hynaf yng Ngwlad Thai.

Cyfradd llythrennedd ieuenctid Gwlad Thai oedd 98.1% yn 2015.[6] Darperir addysg gan system ysgolion drefnus o ysgolion meithrin, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd is ac uwchradd uwch, nifer o golegau galwedigaethol a phrifysgolion. Mae'r sector preifat o addysg wedi'i ddatblygu'n dda ac mae'n cyfrannu'n sylweddol at y ddarpariaeth gyffredinol o addysg. Gwlad Thai sydd â'r ail nifer uchaf o ysgolion rhyngwladol preifat cyfrwng Saesneg yng Nghenhedloedd De-ddwyrain Asia . [7] Mae addysg yn orfodol hyd at 14 oed, gyda'r llywodraeth yn darparu addysg am ddim hyd at 17 oed.

Mae addysgu'n dibynnu'n fawr ar ailadrodd a chofio ffeithiau yn hytrach nag ar ymchwil myfyriwr-ganolog. Mae'r wlad hefyd yn mynnu bod disgyblion a myfyrwyr yn gwisgo gwisg ysgol, ond mae hyn yn ddadl barhaus. Mae ansawdd addysg y wlad yn aml yn cael ei gwestiynu.

Mae nifer y sefydliadau addysg uwch yng Ngwlad Thai wedi tyfu'n gryf dros y degawdau diwethaf i 156 yn swyddogol. Y ddwy brifysgol sydd ar y brig yng Ngwlad Thai yw Prifysgol Chulalongkorn a Phrifysgol Mahidol.[8] Mae allbwn ymchwil prifysgolion Gwlad Thai yn dal i fod yn gymharol isel, er bod cyhoeddiadau cyfnodolion academaidd y wlad wedi cynyddu 20% rhwng 2011 a 2016.[9] Mae'n ymddangos bod mentrau diweddar, fel y Brifysgol Ymchwil Genedlaethol [10] a phrifysgol ymchwil graddedig ddwys: VISTEC, a ddyluniwyd i gryfhau prifysgolion ymchwil cenedlaethol Gwlad Thai, yn llwyddo.

 
Mae Gwlad Thai yn wlad lle mae gwisg ysgol yn orfodol .

Mae myfyrwyr mewn ardaloedd lleiafrifoedd ethnig yn gyson yn sgorio'n is mewn profion cenedlaethol a rhyngwladol safonol.[11][12][13] Credir fod hyn yn debygol oherwydd dyraniad anghyfartal o adnoddau addysgol, hyfforddiant gwanach athrawon, tlodi, a sgil iaith Tai isel, a iaith y profion. [11] [14] [15]

Gwlad Thai yw'r trydydd cyrchfan astudio fwyaf poblogaidd yn ASEAN. Cynyddodd nifer y myfyrwyr gradd rhyngwladol yng Ngwlad Tai 9.7 gwaith rhwng 1999 a 2012, o 1,882 i 20,309 o fyfyrwyr. Daw mwyafrif y myfyrwyr rhyngwladol o wledydd cymdogol [7] o Tsieina, Myanmar, Cambodia a Fietnam.[16]

EconomiGolygu

 
Cynrychiolaeth gyfrannol o allforion Gwlad Thai, 2019

Mae economi Gwlad Tai'n ddibynnol iawn ar allforio, gydag allforion yn cyfrif am fwy na dwy ran o dair o'r cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP). Mae Gwlad Thai yn allforio dros US $105 biliwn o nwyddau a gwasanaethau yn flynyddol. Ymhlith yr allforion mawr mae: ceir, cyfrifiaduron, offer trydanol, reis, tecstilau ac esgidiau, cynhyrchion pysgodfeydd, rwber a gemwaith.

Mae Gwlad Tai yn economi sy'n dod i'r amlwg ac fe'i hystyrir yn wlad sydd newydd ei diwydiannu. Roedd gan Wlad Tai GDP 2017 o US $ 1.236 triliwn (ar sail cydraddoldeb pŵer prynu).[17] Gwlad Tai yw'r ail economi fwyaf yn Ne-ddwyrain Asia ar ôl Indonesia. Mae Gwlad Tai hanner ffordd y rhestr o sut mae cyfoeth wedi'i wasgaru drwy Dde-ddwyrain Asia gan mai hi yw'r 4edd genedl gyfoethocaf yn ôl CMC y pen, ar ôl Singapore, Brunei, a Malaysia.

 
Mae Sathorn yn Bangkok yn ardal fusnes llawn gyda sawl nendwr sy'n gartref i westai a llysgenadaethau mawr.

Profodd Gwlad Thai gyfradd twf economaidd uchaf y byd rhwng 1985 a 1996 - ar gyfartaledd 12.4% yn flynyddol. Ym 1997, cynyddodd y pwysau ar y baht at argyfwng a ddatgelodd wendidau yn y sector ariannol ac a orfododd gweinyddiaeth Chavalit Yongchaiyudh i arnofio’r arian cyfred. Gorfodwyd y Prif Weinidog Chavalit Yongchaiyudh i ymddiswyddo ar ôl i’w gabinet fynd gael ei gyhuddo o ymateb yn llawer rhy araf i’r argyfwng economaidd. Cafodd y baht ei sodro ar 25 i bob doler yr UD rhwng 1978 a 1997. Cyrhaeddodd y baht ei bwynt isaf o 56 i bob doler yr UD yn Ionawr 1998 a lleihaodd yr economi 10.8% y flwyddyn honno, gan sbarduno argyfwng ariannol Asia.

Dechreuodd economi Gwlad Tai wella ym 1999, gan ehangu 4.2–4.4% yn 2000, diolch i allforion cryf i raddau helaeth. Lleihawyd twf (2.2%) wrth feddalu'r economi fyd-eang yn 2001, ond fe'i codwyd yn y blynyddoedd dilynol oherwydd twf cryf yn Asia, baht cymharol wan yn annog allforion, a mwy o wariant domestig o ganlyniad i sawl prosiect enfawr a chymhellion y Prif Weinidog Thaksin Shinawatra, a elwir yn "Thaksinomics". Roedd y twf yn 2002, 2003, a 2004 yn 5–7% yn flynyddol.

Gyda'r ansefydlogrwydd yn ymwneud â phrotestiadau mawr yn 2010, setlodd twf CMC Gwlad Tai ar oddeutu 4-5%, o'r uchafbwyntiau o 5–7% o dan y weinyddiaeth sifil flaenorol. Nodwyd ansicrwydd gwleidyddol fel prif achos dirywiad yn hyder buddsoddwyr a defnyddwyr. Rhagwelodd yr IMF y byddai economi Gwlad Tai yn adlamu’n gryf o’r twf CMC isel o 0.1% yn 2011, i 5.5% yn 2012 ac yna 7.5% yn 2013, oherwydd polisi ariannol Banc Gwlad Tai, yn ogystal â phecyn cyllidol. mesurau ysgogi a gyflwynwyd gan gyn-lywodraeth Yingluck Shinawatra. [18]

Incwm, tlodi a chyfoethGolygu

Mae gan bobl Gwlad Tai gyfoeth canolrifol fesul un oedolyn o $1,469 yn 2016,[19] gan gynyddu o $605 yn 2010.[19]  Yn 2016, roedd Gwlad Thai yn 87fed yn y Mynegai Datblygiad Dynol, ac yn 70fed yn y HDI a addaswyd gan anghydraddoldeb.[20]

Yn 2014, adroddodd Credit Suisse mai Gwlad Thai oedd trydydd gwlad fwyaf anghyfartal y byd, y tu ôl i Rwsia ac India.[21] Roedd y 10% cyfoethocaf uchaf yn dal 79% o asedau'r wlad.[21] Roedd yr 1% cyfoethocaf uchaf yn dal 58% o'r asedau,[21] ac roedd gan 50 o deuluoedd cyfoethocaf Gwlad Tai gyfanswm gwerth net o 30% o'r CMC.[21]

Yn 2016, roedd 5.81 miliwn o bobl yn byw mewn tlodi, neu 11.6 miliwn o bobl (17.2% o'r boblogaeth) os cynhwysir "bron yn dlawd".[22]  Yn 2017, gwnaeth 14 miliwn o bobl gais am les cymdeithasol (roedd angen incwm blynyddol o lai na ฿100,000).[21] Ar ddiwedd 2017, cyfanswm dyled cartref Gwlad Thai oedd ฿11.76 triliwn.[23]  Yn 2010, roedd 3% o'r holl aelwydydd yn fethdalwr.[24] Yn 2016, amcangyfrifwyd bod 30,000 o bobl ddigartref yn y wlad.[25]

Allforion a gweithgynhyrchuGolygu

Mae economi Gwlad Tai yn ddibynnol iawn ar allforio, gydag allforion yn cyfrif am fwy na dwy ran o dair o'r cynnyrch domestig gros (GDP). Mae Gwlad Tai yn allforio dros US $105 biliwn o nwyddau a gwasanaethau yn flynyddol, gyda'r allforion mawr yn cynnwys ceir, cyfrifiaduron, offer trydanol, reis, tecstilau ac esgidiau, cynhyrchion pysgodfeydd, rwber a gemwaith.

Mae'r rhan fwyaf o'r cerbydau a adeiledir yng Ngwlad Tai yn cael eu datblygu a'u trwyddedu gan gynhyrchwyr tramor, Japaneaidd ac Americanaidd yn bennaf. Mae diwydiant ceir Gwlad Thai yn manteisio ar Ardal Masnach Rydd ASEAN (AFTA) i ddod o hyd i farchnad ar gyfer llawer o'i gynhyrchion. Ceir wyth gweithgynhyrchydd, pum Japaneaidd, dau o'r UD, a Tata India, yn cynhyrchu tryciau codi (pick-ups) yng Ngwlad Tai.[26]

TwristiaethGolygu

Mae twristiaeth yn cyfrif am oddeutu 6% o economi'r wlad. Gwlad Tai oedd y wlad yr ymwelwyd â hi fwyaf yn Ne-ddwyrain Asia yn 2013, yn ôl Sefydliad Twristiaeth y Byd. Mae amcangyfrifon o dderbyniadau twristiaeth sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at CMC Gwlad Tai o 12 triliwn baht yn amrywio o 9% (1 triliwn baht) (2013) i 16%.[27] Wrth gynnwys effeithiau anuniongyrchol twristiaeth, dywedir ei fod yn cyfrif am 20.2 % (2.4 triliwn baht) o gynnyrch mewnwladol crynswth Gwlad Thai. [28]

Mae twristiaid Asiaidd yn ymweld â Bangkok yn bennaf, a'r golygfeydd hanesyddol, naturiol a diwylliannol yn ei chyffiniau a hefyd mae llawer yn teithio i draethau ac ynysoedd y de. Y gogledd yw'r prif gyrchfan ar gyfer merlota a theithio antur, gyda'i grwpiau lleiafrifoedd ethnig amrywiol a mynyddoedd coediog yn atynnu. Y rhanbarth sy'n cynnal y nifer lleiaf o dwristiaid yw Isan. I ddarparu ar gyfer ymwelwyr tramor, sefydlwyd heddlu twristiaeth ar wahân gyda swyddfeydd yn y prif ardaloedd twristiaeth a rhif ffôn brys.

 
Merched a staff y dafarn yn disgwyl eu cwsmeriaid; Pattaya.

Gwlad Tai yw'r 5ed cyrchfan twristiaeth feddygol fwyaf o ran gwariant twristiaeth feddygol, yn ôl Cyngor Teithio a Thwristiaeth y Byd, gan ddenu dros 2.5 miliwn o ymwelwyr yn 2018.[29] Y wlad hefyd yw rhif un yn Asia.[30] Mae'r wlad yn boblogaidd am yr arfer cynyddol o lawdriniaeth ailbennu rhyw (SRS) a llawfeddygaeth gosmetig. Yn 2010–2012, teithiodd mwy na 90% o dwristiaid meddygol i Wlad Tai ar gyfer SRS. [31]

Ystyrir puteindra yng Ngwlad Tai a thwristiaeth rhyw hefyd yn rhan de facto o'r economi. Ceir ymgyrchoedd hysbysebu sy'n hyrwyddo Gwlad Tai fel fel un egsotig, er mwyn denu twristiaid.[32] Roedd un amcangyfrif a gyhoeddwyd yn 2003 yn gosod y fasnach ar UD $4.3 biliwn y flwyddyn neu oddeutu 3% o economi Gwlad Tai. Credir bod o leiaf 10% o ddoleri twristiaid yn cael ei wario ar y fasnach ryw yn flynyddol.[33]

Amaethyddiaeth ac adnoddau naturiolGolygu

 
Mae Gwlad Thai wedi bod yn un o'r allforwyr reis mwyaf yn y byd ers amser maith. Mae 49% o weithlu Gwlad Tai yn cael ei gyflogi mewn amaethyddiaeth.

Mae 49% o weithlu Gwlad Tai'n cael ei gyflogi mewn amaethyddiaeth. Mae hyn i lawr o 70% ym 1980.[34] Reis yw'r cnwd pwysicaf yn y wlad a Gwlad Tai oedd prif allforiwr reis y byd ers blynydoedd, tan yn ddiweddar; mae bellach wedi ei goddiweddu ganIndia a Fietnam.[35] Defnyddir tua 55% o'r arwynebedd tir âr i gynhyrchu reis.[36]

YnniGolygu

Roedd 75% o ynni trydanol Gwlad Tai yn cael ei bweru gan nwy naturiol yn 2014.[37] Mae gweithfeydd pŵer glo yn cynhyrchu 20% ychwanegol o drydan, gyda'r gweddill yn dod o fiomas, hydro a bio-nwy.[37]

Cynhyrcha'r wlad tua thraean o'r olew y mae'n ei defnyddio. Dyma'r ail fewnforiwr olew mwyaf yn Ne-ddwyrain Asia. Mae Gwlad Thai yn gynhyrchydd mawr o nwy naturiol, gyda chronfeydd wrth gefn o 10 triliwn troedfedd giwbig o leiaf. Ar ôl Indonesia, hi yw'r cynhyrchydd glo mwyaf yn Ne-ddwyrain Asia, ond rhaid iddi fewnforio glo ychwanegol i ateb y galw domestig.

Grwpiau ethnigGolygu

 
Merched llwythau'r bryniau yng Ngogledd-ddwyrain Gwlad Thai

Gwladolion Gwlad Thai yw mwyafrif poblogaeth Gwlad Thai, sef 95.9% yn 2010. Mae'r 4.1% sy'n weddill o'r boblogaeth o Burma (2.0%), eraill yn 1.3%, ac yn 0.9% amhenodol.

Yn ôl Adroddiad Gwlad 2011 Llywodraeth Frenhinol Gwlad Tai i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig caiff 62 o gymunedau ethnig eu cydnabod yn swyddogol.[38]

Mae Adroddiad Gwlad Gwlad Thai 2011 yn darparu nifer y bobl fynyddig ('llwythau mynydd') a chymunedau ethnig yn y Gogledd-ddwyrain. Y prif gyflewr data yw Prifysgol Mahidol.[38]

Mewn trefn ddisgynnol, y mwyaf (sy'n hafal i neu'n fwy na 400,000) yw:

a) 15,080,000 Lao (24.9 y cant) sy'n cynnwys y Lao Thai (14 miliwn) a grwpiau Lao llai eraill, sef y Thai Loei (400-500,000), Lao Lom (350,000), Lao Wiang / Klang (200,000), Lao Khrang (90,000), Lao Ngaew (30,000), a Lao Ti (10,000;

b) chwe miliwn Khon Muang (9.9 y cant, a elwir hefyd yn Tai'r Gogledd);

c) 4.5 miliwn Pak Tai (7.5 y cant, a elwir hefyd yn Tai'r De);

d) 1.4 miliwn Khmer Leu (2.3 y cant, a elwir hefyd yn Gogledd y Khmer);

e) 900,000 Maleieg (1.5%);

f) 500,000 Nyaw (0.8 y cant);

g) 470,000 Phu Thai (0.8 y cant);

h) 400,000 Kuy / Kuay (a elwir hefyd yn Suay) (0.7 y cant), ac

i) 350,000 Karen (0.6 y cant). : 7–13 

Mae Tsieineaidd Thai, y rhai o dreftadaeth Tsieineaidd sylweddol, yn 14% o'r boblogaeth, tra bod Thais â llinach Tsieineaidd rhannol yn cynnwys hyd at 40% o'r boblogaeth.[39]

Mae niferoedd cynyddol o ymfudwyr o Myanmar, Laos a Cambodia cyfagos, yn ogystal ag o Nepal ac India, wedi gwthio cyfanswm nifer y preswylwyr nad ydynt yn wreiddiol o'r wlad i oddeutu 3.5 miliwn(2009), i fyny o amcangyfrif o 2 filiwn yn 2008, a thua 1.3 miliwn yn 2000. Mae tua 41,000 o Brydeinwyr ac 20,000 o Awstraliaid yn byw yng Ngwlad Thai.[40][41]

IechydGolygu

 
Ysbyty Siriraj yn Bangkok, yr ysbyty hynaf a mwyaf yng Ngwlad Tai.

Gosodir Gwlad Tai yn 6ed y byd, ac yn 1af drwy Asia ym Mynegai Diogelwch Iechyd Byd-eang 2019 - allan o 195 o wledydd,[42] gan ei gwneud yr unig wlad sy'n datblygu ar ddeg uchaf y byd. Roedd gan Wlad Thai 62 o ysbytai wedi'u hachredu gan y Joint Commission International.[43] Yn 2002, daeth Bumrungrad yr ysbyty cyntaf yn Asia i gyrraedd y safon.

Ym mis Rhagfyr 2018 pleidleisiodd y senedd dros dro i gyfreithloni defnyddio canabis am resymau meddygol. Roedd defnydd hamdden yn parhau i fod yn anghyfreithlon. Roedd gan y Cynulliad Deddfwriaethol Cenedlaethol 166 pleidlais o blaid y gwelliant i'r Mesur Narcotics, tra na chafwyd unrhyw bleidleisiau yn erbyn ac 13 yn ymatal. Mae'r bleidlais yn golygu mai Gwlad Thai yw'r wlad gyntaf yn Ne-ddwyrain Asia i ganiatáu defnyddio canabis meddygol

DiwylliantGolygu

Mae diwylliant a thraddodiadau Gwlad Tai yn ymgorffori llawer iawn o ddylanwad o India, China, Cambodia, a gweddill De-ddwyrain Asia. Mae crefydd genedlaethol Gwlad Thai, Bwdhaeth Theravada, yn ganolog i hunaniaeth fodern Gwlad Tai. Esblygodd Bwdhaeth Gwlad Tai dros amser i gynnwys llawer o gredoau rhanbarthol sy'n tarddu o Hindŵaeth, yn ogystal ag addoli hynafiaid. Mae'r calendr swyddogol yng Ngwlad Tai yn seiliedig ar fersiwn Ddwyreiniol y Cyfnod Bwdhaidd (BE). Gellir dweud fod hunaniaeth Gwlad Thai heddiw yn ddarlun cymdeithasol o drefn Phibun yn 1940au.

 
Pobl yn arnofio rafftiau krathong yn ystod gŵyl Loi Krathong yn Chiang Mai, Gwlad Thai

Cyfryngodd sawl grŵp ethnig gryn newid rhwng eu diwylliant lleol traddodiadol, dylanwadau cenedlaethol Gwlad Tai a diwylliannol byd-eang. Mae Tsieineiaid Tramor hefyd yn rhan sylweddol o gymdeithas Gwlad Tai, yn enwedig yn Bangkok a'r cyffiniau. Drwy eu hintegreiddio’n llwyddiannus i gymdeithas Gwlad Tai daliant swyddi grymus o bŵer economaidd a gwleidyddol. Mae busnesau Tsieineaidd Tai yn ffynnu fel rhan o'r "rhwydwaith bambŵ" ehangach.[44]

Mae parchu henoed ac uwch swyddogion (yn ôl oedran, safle, mynachod, neu broffesiynau penodol) yn allweddol i'w cymdeithas. Yn yr un modd â diwylliannau Asiaidd eraill, mae parch tuag at hynafiaid yn rhan hanfodol o ymarfer ysbrydol Gwlad Tai. Mae ganddyn nhw ymdeimlad cryf o hierarchaeth gymdeithasol, sy'n cael ei adlewyrchu mewn sawl dosbarth o anrhydeddau. Yn ôl traddodiad, mae'r hynafiaid yn dyfarnu mewn penderfyniadau teuluol neu seremonïau.

Mae tabŵs yn niwylliant Gwlad Thai yn cynnwys cyffwrdd â phen rhywun neu bwyntio gyda'r traed, gan fod y pen yn cael ei ystyried y mwyaf cysegredig a'r droed yn rhan isaf o'r corff.

CyfeiriadauGolygu

  1. http://stat.dopa.go.th/stat/statnew/statTDD/.
  2. Pain, Frédéric (2008). "An Introduction to Thai Ethnonymy: Examples from Shan and Northern Thai". Journal of the American Oriental Society 128 (4): 641–662. JSTOR 25608449.
  3. "Thailand Military Strength". Global Firepower. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 February 2015. Cyrchwyd 15 December 2014.
  4. Chapter 2 of the 2007 Constitution of Thailand
  5. Pike, John (27 April 2005). "Ministry of Defense". GlobalSecurity.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 April 2010. Cyrchwyd 25 April 2010.
  6. "Thailand-Youth literacy rate". knoema.
  7. 7.0 7.1 "Education in Thailand". WENR. 6 February 2018.
  8. "University Ranking". topuniversities.
  9. Buasuwan, Prompilai (2018). "Rethinking Thai higher education for Thailand 4.0". Asian Education and Development Studies (emerald) 7 (2): 157–173. doi:10.1108/AEDS-07-2017-0072. https://www.emerald.com/insight/content/doi/10.1108/AEDS-07-2017-0072/full/html.
  10. ""9 มหาวิทยาลัยวิจัยแห่งชาติ" มีสถาบันไหนในไทยบ้างที่ถูกยกให้เป็นสถาบันที่เด่นด้านวิจัย". Sanook.
  11. 11.0 11.1 Draper, John (2012), "Revisiting English in Thailand", Asian EFL Journal 14 (4): 9–38, ISSN 1738-1460, http://asian-efl-journal.com/quarterly-journal/2012/12/01/revisiting-english-in-thailand/
  12. OECD (2013), Structural Policy Country Notes: Thailand, OECD, http://www.oecd.org/dev/asia-pacific/Thailand.pdf
  13. Khaopa, Wannapa (12 December 2012). "Thai students drop in world maths and science study". The Nation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 March 2014.
  14. Draper, John (12 December 2011). "Solving Isaan's education problem". The Isaan Record. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 February 2013.
  15. Draper, John (21 February 2014). "PISA Thailand regional breakdown shows inequalities between Bangkok and Upper North with the rest of Thailand". The Isaan Record. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 March 2014.
  16. "สถิติอุดมศึกษา Higher Education Statistics 2558–2560" (PDF). Ofice of The higher Education Commission.
  17. "GDP (PURCHASING POWER PARITY)". CIA.gov. Central Intelligence Agency. Cyrchwyd 25 January 2019.
  18. Phromchanya, Phisanu (24 February 2012). "Thailand Economy To Rebound Strongly In 2012". The Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 October 2015. Cyrchwyd 26 April 2012.
  19. 19.0 19.1 Global Wealth Report 2016. Zurich: Credit Suisse AG. November 2016. Cyrchwyd 1 July 2017.
  20. "Table 3: Inequality-adjusted Human Development Index". Human Development Report Office, United Nations Development Programme. Cyrchwyd 25 April 2018.
  21. 21.0 21.1 21.2 21.3 21.4 พงศ์พิพัฒน์ บัญชานนท์ (18 June 2017). BBC Thailand (yn Thai) http://www.bbc.com/thai/thailand-40317663. Cyrchwyd 25 April 2018. Missing or empty |title= (help)
  22. (PDF) (yn Thai). Office of the National Economic and Social Development Board. 2016 https://web.archive.org/web/20180426213301/http://social.nesdb.go.th/social/Portals/0/PDF%20%E0%B8%A3%E0%B8%B2%E0%B8%A2%E0%B8%87%E0%B8%B2%E0%B8%99%E0%B8%84%E0%B8%A7%E0%B8%B2%E0%B8%A1%E0%B8%A2%E0%B8%B2%E0%B8%81%E0%B8%88%E0%B8%99%E0%B8%AF%202559.pdf. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 April 2018. Cyrchwyd 24 April 2018. Missing or empty |title= (help)
  23. (PDF) (yn Thai). Office of the National Economic and Social Development Board https://web.archive.org/web/20180426213417/http://social.nesdb.go.th/social/Portals/0/Documents/%E0%B8%A3%E0%B8%B2%E0%B8%A2%E0%B8%87%E0%B8%B2%E0%B8%99%E0%B8%A0%E0%B8%B2%E0%B8%A7%E0%B8%B0%E0%B8%AA%E0%B8%B1%E0%B8%87%E0%B8%84%E0%B8%A1%20Q4-2560_final_1253.pdf. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 26 April 2018. Cyrchwyd 23 April 2018. Missing or empty |title= (help)
  24. เสรีวรวิทย์กุล, ชนาภรณ์; รุ่งเจริญกิจกุล, ภูริชัย (July 2011). (PDF) (yn Thai). Bank of Thailand https://www.bot.or.th/Thai/MonetaryPolicy/ArticleAndResearch/WE_MPG/WE_MPG_July2554.pdf. Cyrchwyd 24 April 2018. Missing or empty |title= (help)
  25. posttoday.com (yn Thai). 16 June 2017 https://www.posttoday.com/social/PR/498823. Cyrchwyd 25 April 2018. Missing or empty |title= (help)
  26. Takahashi, Toru (27 November 2014). "Thailand's love affair with the pickup truck". Nikkei Asian Review. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 January 2015. Cyrchwyd 4 January 2015.
  27. "Government moves to head off tourist fears". Bangkok Post. 24 August 2015. Cyrchwyd 24 August 2015.
  28. Travel and Tourism, Economic Impact 2014: Thailand (PDF) (arg. 2014). London: World Travel & Tourism Council. 2014. Cyrchwyd 10 March 2015.
  29. "Medical Tourism in Thailand". MyMediTravel. Cyrchwyd 17 February 2019.
  30. "Medical Tourism Report". WTTC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 May 2020. Cyrchwyd 15 May 2020.
  31. Chokrungvaranont, Prayuth, Gennaro Selvaggi, Sirachai Jindarak, Apichai Angspatt, Pornthep Pungrasmi, Poonpismai Suwajo, and Preecha Tiewtranon. "The Development of Sex Reassignment Surgery in Thailand: A Social Perspective". The Scientific World Journal. Hindawi Publishing Corporation, 2014. Web. 23 March 2017.
  32. Ocha, Witchayanee. "Transsexual emergence: gender variant identities in Thailand". Culture, Health & Sexuality14.5 (2012): 563–575. Web.
  33. Martin, Lorna (25 January 2006). "Paradise Revealed". Taipei Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 December 2014. Cyrchwyd 29 January 2015.
  34. Henri Leturque and Steve Wiggins 2010. Thailand's progress in agriculture: Transition and sustained productivity growth Archifwyd 27 April 2011 yn y Peiriant Wayback.. London: Overseas Development Institute
  35. "CIA World Factbook – Greater Mekong Subregion". Cia.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 March 2014. Cyrchwyd 3 November 2011.
  36. "Rice Around The World. Thailand". Irri.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 March 2008. Cyrchwyd 25 April 2010.
  37. 37.0 37.1 "International Index of Energy Security Risk" (PDF). Institute for 21st Century Energy. Institute for 21st Century Energy. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 4 January 2015. Cyrchwyd 14 September 2014.
  38. 38.0 38.1 Ethnolinguistic Maps of Thailand (PDF) (yn Thai). Office of the National Culture Commission. 2004. Cyrchwyd 8 October 2016.
  39. Luangthongkum, Theraphan (2007). "The Position of Non-Thai Languages in Thailand". Language, Nation and Development in Southeast Asia: 191.
  40. McGeown, Kate (14 December 2006). "Hard lessons in expat paradise". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 June 2011. Cyrchwyd 1 March 2015.
  41. "Speech to the Australian-Thai Chamber of Commerce". Australian Minister for Foreign Affairs and Trade. 3 July 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 June 2019. Cyrchwyd 12 November 2019.
  42. "2019 Global Health Security Index". GHS INDEX.
  43. "Search for JCI-Accredited Organizations". JCI.
  44. Murray L Weidenbaum (1996). The Bamboo Network: How Expatriate Chinese Entrepreneurs are Creating a New Economic Superpower in Asia. Martin Kessler Books, Free Press. tt. 4–8. ISBN 978-0-684-82289-1.