Bryn y Barwn

ystad rhestredig Gradd II* ym Miwmares

Stad a phlasdy gerllaw Biwmares ar Ynys Môn yw Bryn y Barwn (Saesneg: Baron Hill). Yma yr oedd prif breswylfa teulu Bulkeley, a fu'n eithriadol o ddylanwadol ar yr ynys am rai canrifoedd.

Bryn y Barwn
Mathplasty gwledig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1612 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBiwmares Edit this on Wikidata
SirCymuned Biwmares Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr46 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2669°N 4.1033°W Edit this on Wikidata
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map
PerchnogaethRichard Bulkeley (bu farw 1621), Thomas Bulkeley, 7fed is-iarll Bulkeley, Richard Bulkeley Williams-Bulkeley, teulu'r Bulkeley Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion

Daw'r enw o enw'r bryn lle saif y plasdy. Adeiladwyd y plasdy cyntaf yn 1618 gan Syr Richard Bulkeley. Bu ym meddiant teulu Bulkeley, yn ddiweddarach Williams Bulkeley, hyd nes i gostau cynnal yr adeilad fynd yn ormod i'r teulu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwed y plasdy gan garfan o'r Peirianwyr Brenhinol. Yn ddiweddarach, difrodwyd yr adeilad gan dân, a dim ond gweddillion sydd ar ôl.

Yn Awst 2008, cyhoeddwyd cynlluniau i adfer yr adeilad a'i droi yn fflatiau moethus.[1]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolen allanol

golygu