Agor y brif ddewislen

Ysgrifenwyd Llyfr Coch Talgarth tua'r flwyddyn 1400. Mae'n cynnwys casgliad o destunau rhyddiaith a barddoniaeth grefyddol Cymraeg Canol a gopîwyd gan ysgrifenwyr Llyfr Coch Hergest.[1]

Mae'n bosibl y bu Llyfr Coch Talgarth yn eiddo Hopcyn ap Tomas (fl. tua 1337 - tua 1408) o Ynysdawe. Mewn cerdd gan Dafydd y Coed dywed y bardd iddo weld casgliad llawysgrifau Hopcyn ap Tomas ac yn eu plith roedd copi o'r Elucidarium; gwyddys mai ysgrifenwyr Llyfr Coch Hergest, a noddwyd gan Hopcyn, a ysgrifenodd y testun o'r Elucidarium sydd yn Llyfr Coch Talgarth, felly mae'n bosibl mai Llyfr Coch Talgarth a welodd y bardd ym mhlasdy ei noddwr. Gwelwyd y llawysgrif gan y bardd Ieuan Llwyd ab y Gargam yn nes ymlaen hefyd.[2]

Bu'r llawysgrif ar gadw yn Nhalgarth, Brycheiniog am ganrifoedd wedi'i rhwymo mewn cloriau lledr coch a dyna sut y cafodd y llyfr ei enw. Daeth yn eiddo y casglwr llawysgrifau enwog John Williams ac fe'i trosglwyddwyd ganddo, gyda gweddill Llawysgrifau Llansteffan, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1909. Diogelir Llyfr Coch Talgarth heddiw yn Adran Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle mae'n cael ei hadnabod fel Llawysgrif Llanstephan 27.

Mae'r testunau rhyddiaith a geir yn y Llyfr Coch yn cynnwys yr Elucidarium a chopi o Y Gysegrlan Fuchedd. Ymhlith y cerddi ceir Mab Mair, rhan o Cyssul Addaon ac Englynion y Clywaid.

CyfeiriadauGolygu

  1. Clifford Charles-Evans, 'The scribes of the Red Book of Hergest', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 21 (1979-80), 245-56.
  2. J. E. Caerwyn Williams', 'Rhyddiaith Grefyddol Cymraeg Canol (I)', Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol, gol. Geraint Bowen (Gwasg Gomer, 1974), tud. 339.

Gweler hefydGolygu