Butlins Pwllheli

gwersyll gwyliau yng Nghymru

Roedd Butlins Pwllheli yn wersyll wyliau wedi ei leoli ger tref Pwllheli, Gwynedd. Mae'r safle bellach yn cael ei ddefnyddio gan gwmni Haven Holidays ar gyfer parc carafanau statig o'r enw Hafan y Môr.

Butlins Pwllheli tua 1961

Cefndir golygu

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cymerodd y weinyddiaeth amddiffyn meddiant o wersylloedd gwyliau Butlins ar gyfer eu defnyddio fel gwersylloedd milwrol. Cynigiodd Billy Butlin, perchennog y gwersyllodd, canfod safleoedd eraill i'r weinyddiaeth ar gyfer gwersylloedd ac i'w hadeiladu o dan gontract, ar yr amod ei fod o'n cael eu prynu yn rhad wedi i'r rhyfel darfod. Un o'r gwersylloedd iddo adeiladu ar gyfer y Morlys oedd HMS Glendower ar 150 cyfer o dir ger Afon Wen ar Benrhyn Llŷn tua hanner ffordd rhwng Cricieth a Phwllheli. Ym 1946 prynodd Butlins y safle oddi wrth y Morlys ac ym 1947 agorodd Gwersyll Gwyliau Butlins Pwllheli i'r cyhoedd[1].

Darpariaeth i ymwelwyr golygu

 
Y Cotiau Cochion

Roedd Butlins Pwllheli yn cynnig yr un ddarpariaeth a gwersylloedd eraill y cwmni. Y Cotiau Cochion, reidiau ffair, neuadd fwyd, pyllau nofio[2], neuadd ddawns, llyn cychod bach, cyrtiau tenis, maes chwaraeon gwirion megis ras tri choes, ras wy ar lwy ac ati, byrddau ping pong a billiards, neuadd peiriannau slot, trên bach ac ati[3]

Y trip Ysgol Sul golygu

Er eu bod wedi gwrthwynebu anniweirdeb moesol y bathing beauties hanner noeth a gwerthu alcohol ar y safle a'r ymosodiad ar ddiwylliant Cymreig a'r iaith Gymraeg gan ymwelwyr Saesnig cyn agor y gwersyll[4]; daeth y gwersyll yn boblogaidd ymysg pobl gogledd Cymru ar gyfer tripiau dydd hefyd, ac yn arbennig tripiau Ysgol Sul y capeli anghydffurfiol Cymraeg[5][6].

Eisteddfod Butlins golygu

 
Côr yn disgwyl cystadlu, Eisteddfod Butlins 1959

Nodwedd Gymreig arall i Butlins Pwllheli oedd ei Eisteddfod flynyddol. Cynhaliwyd yr eisteddfod ym mis Medi, ar ôl i'r plant dychwelyd i'r ysgol, fel modd i ymestyn y tymor. Roedd Eisteddfod Butlins yn eisteddfod o bwys. Gan wybod nad oedd modd iddi gystadlu ag eisteddfodau mawr eraill o ran braint ac anrhydedd ennill, roedd eisteddfod Butlins yn cynnig gwell gwobrau ariannol na hyd yn oed y Genedlaethol, gan ddenu prif gorau ac unawdwyr Cymru i gystadlu am y cribddail. Gan nad oedd rheol iaith yn perthyn i'r eisteddfod bu hefyd yn denu corau, bandiau pres ac unawdwyr o ardaloedd diwydiannol Swydd Gaerhirfryn, a chanolbarth Lloegr i gystadlu.

Diwedd Butlins golygu

Yn ystod tymor yr haf 1989 trawyd y gwersyll gan drowynt, bu'n rhaid i'r 3,500 westai oedd yn aros yn y gwersyll ar y pryd ymadael, gan ofyn am ad-daliad ac iawndal. Gwnaed gwerth £2 miliwn o ddifrod i'r safle. Wedi lled adfer y safle ail agorwyd y gwersyll ym 1990 o dan yr enw newydd Starcoast World. Ni fu'r ail frandio'n llwyddiant a phenderfynodd cwmni Butlins gwerthu'r gwersyll i gwmni Haven ym 1999.

Gweler Hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu