Bwlch Pen Barras

bwlch rhwng Moel Famau a Moel Fenlli, Sir Ddinbych

Lleolir Bwlch Pen Barras ym Mryniau Clwyd, gogledd-ddwyrain Cymru. Mae'r bwlch 551 metr yn gorwedd rhwng bryniau Moel Fenlli (i'r de) a Moel Famau (i'r gogledd-ddwyrain).

Bwlch Pen Barras
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.137°N 3.251°W Edit this on Wikidata
Map
Y ffordd sy'n dringo llethrau Moel Fenlli i Fwlch Pen Barras

Croesir y bwlch gan ffordd gul. Hon oedd yr hen lôn hanesyddol rhwng Dyffryn Clwyd, Sir Ddinbych a'r Wyddgrug yn Sir y Fflint cyn i'r A494 gael ei adeiladau. Mae'n cysylltu Llanbedr Dyffryn Clwyd a Tafarn-y-Gelyn.

Cyfeiria'r hynafiaethydd Thomas Pennant at ryw "Fwlch Agricola" yn gorwedd rhwng Moel Fenlli a Moel Eithinen, gan honni mai dyma oedd llywbr Agricola ar ei ymgyrch yn erbyn yr Ordoficiaid.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Frank Price Jones, Crwydro Dwyrain Dinbych (Llyfrau'r Dryw, 1961), tud. 134.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato