Bwlch y Groes
Bwlch y Groes yw'r rhan uchaf o'r ffordd fechan sy'n cysylltu Dinas Mawddwy a Llanuwchllyn yng Ngwynedd. Ar un adeg defnyddid y ffordd yma gan gwmni moduron Austin a Standard Triumph i arbrofi gyda cheir newydd.
Math | ffordd, bwlch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7958°N 3.6131°W |
O ben y bwlch ceir golygfa o ddyffryn Afon Dyfi, Cadair Idris ac Aran Fawddwy. I'r gogledd-ddwyrain mae mynyddoedd Y Berwyn yn ymestyn i gyfeiriad Llangollen.
Mae'r bwlch yn dynodi'r ffin rhwng cantref Penllyn a chwmwd Mawddwy. Mae ffin cwmwd Mochnant hefyd o fewn chwarter milltir i'r bwlch. Efallai fod croes yn sefyll arno i nodi hynny yn yr hen amser, neu fod rhywun wedi codi un yno mewn ysbryd diolchgarwch, ond does dim croes yn sefyll yno heddiw.