Bwrdeistref Burnley
ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerhirfryn
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Burnley (Saesneg: Borough of Burnley).
Neuadd y Dref, Burnley | |
Math | ardal an-fetropolitan, bwrdeisdref |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Gaerhirfryn |
Prifddinas | Burnley |
Poblogaeth | 88,527 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerhirfryn (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 110.684 km² |
Yn ffinio gyda | Bwrdeistref Pendle |
Cyfesurynnau | 53.78°N 2.25°W |
Cod SYG | E07000117 |
Cod post | BB10-12 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Burnley Borough Council |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 111 km², gyda 88,920 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar bedair ardal arall yn Swydd Gaerhirfryn, sef Bwrdeistref Rossendale i'r de, Bwrdeistref Hyndburn i'r gorllewin, Bwrdeistref Cwm Ribble i'r gogledd-orllewin, a Bwrdeistref Pendle i'r gogledd. Mae hefyd yn ffinio ar Orllewin Swydd Efrog i'r dwyrain.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir y fwrdeistref yn wyth plwyf sifil, gydag un ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Burnley ei hun, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys tref Padiham.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 10 Hydref 2020