Bwrdeistref Fetropolitan Oldham
Bwrdeistref fetropolitan ym Manceinion Fwyaf, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Fetropolitan Oldham (Saesneg: Metropolitan Borough of Oldham).
Math | bwrdeistref fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Manceinion Fwyaf |
Prifddinas | Oldham |
Poblogaeth | 237,628 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Manceinion Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 142.345 km² |
Uwch y môr | 542 metr |
Yn ffinio gyda | Dinas Manceinion, Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale, Bwrdeistref Fetropolitan Tameside, Bwrdeistref High Peak |
Cyfesurynnau | 53.5419°N 2.1186°W |
Cod SYG | E08000004 |
GB-OLD | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | gweithrediaeth Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Oldham |
Corff deddfwriaethol | cyngor Cyngor Bwrdeistref Fetropolitan Oldham |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | leader of Oldham Metropolitan Borough Council |
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 142 km², gyda 237,110 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Bwrdeistref Fetropolitan Tameside i'r de, Dinas Manceinion i'r de-orllewin, Swydd Gaer i'r de, Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale i'r gogledd-orllewin, Gorllewin Swydd Efrog i'r gogledd-ddwyrain, a Swydd Derby i'r de-ddwyrain.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Manceinion Fwyaf, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn ddau blwyf sifil (Saddleworth a Shaw and Crompton), gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Oldham lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Chadderton, Failsworth, Royton a Shaw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 23 Awst 2020