Bwytäwr pechodau
Person sy'n bwyta pryd defodol er mwyn cymryd pechodau person ymadawedig yw bwytäwr pechod. Credwyd bod y bwyd yn amsugno pechodau'r unigolyn a fu farw'n ddiweddar, ac felly'n rhyddhau enaid y person.
Mae anthropolegwyr diwylliannol a llên-gwerinwyr yn dosbarthu bwyta pechod fel math o ddefod. Fe'i cysylltir yn fwyaf cyffredin â'r Alban, Iwerddon, Cymru, siroedd Lloegr sy'n ffinio â Chymru, a diwylliant Cymru.[1]
Ardystiadau
golyguHanesyddol
golyguEr bod achosion tebyg o fwytawyr pechod wedi bod trwy gydol hanes, nid oes llawer o astudiaeth wedi ei wneud gan academyddion llên gwerin.
Felly mae cwestiynau yn parhau ynghylch pa mor gyffredin oedd yr arfer, pryd y'i harferwyd, a beth yw'r cysylltiadau rhwng bwytawyr pechod, pobl gyffredin, ac awdurdodau crefyddol.
Yng ngwareiddiad Meso-America, roedd yna ffigwr Astec o'r enw Tlazolteotl, duwes drygioni, puro, baddonau stêm, chwant a budreddi, a noddwr godinebwyr (ystyr ei henw yn llythrennol 'Budr Gysegredig'). Roedd ganddi rôl achubol mewn arferion crefyddol. Ar ddiwedd oes unigolyn, caniatawyd iddynt gyffesu camweddau i'r duwdod hwn, ac yn ôl y chwedl byddai'n glanhau'r enaid trwy "fwyta ei fudr".
Mae'r erthygl am fwytawyr pechod yn Encyclopædia Britannica 1911 yn nodi:
“ | A symbolic survival of [sin-eating] was witnessed as recently as 1893 at Market Drayton, Shropshire. After a preliminary service had been held over the coffin in the house, a woman poured out a glass of wine for each bearer and handed it to him across the coffin with a 'funeral biscuit.' In Upper Bavaria sin-eating still survives: a corpse cake is placed on the breast of the dead and then eaten by the nearest relative, while in the Balkan peninsula a small bread image of the deceased is made and eaten by the survivors of the family. The Dutch doed-koecks or 'dead-cakes', marked with the initials of the deceased, introduced into America in the 17th century, were long given to the attendants at funerals in old New York. The 'burial-cakes' which are still made in parts of rural England, for example Lincolnshire and Cumberland, are almost certainly a relic of sin-eating.[2] | ” |
Yng Nghymru a'r Gororau
golyguYmddengys fod y term "Bwytäwr Pechod" yn tarddu o ddiwylliant Cymreig ac fe'i cysylltir amlaf â Chymru ei hun ac yn siroedd Lloegr sy'n ffinio â Chymru.
Yr oedd gwahanol defodau ym mhob ardal:
Mae straeon lleol am y Goeden Bechod, ym Mhlwyf Llanllyfni, lle arferai teulu'r ymadawedig osod taten neu gacen oedd newydd ddod o’r popty, ar frest y corff marw a'i adael nes iddo oeri. Gosodid y bwyd hwn dan y Goeden Bechod, lle, ym mhen amser, bwytid ef i gyd gan y bwytawr pechodau, wrth iddo gymryd arno holl bechodau'r ymadawedig. Rhoddai'r teulu ddarn o arian i'r bwytawr pechodau a oedd, fel arfer, yn ddyn tu hwnt i gymdeithas parchus.[3]
Mae yna straeon tebyg o ardal y Waunfawr, lle roedd yna fwytäwr pechodau yn byw fel meudwy yn y coed rhwng tyddyn Gwredog Isaf, a fferm Plas Glanrafon, ar gyffiniau pentref y Waun. I sicrhau cael gwared â pechodau cyn angladd, byddai teulu’r ymadawedig yn mynd ati i wneud teisen. ‘Clompen’, fel cacen gri fawr wedi ei gwneud gyda phob dim gorau ynddi. Yn dilyn yr angladd, rhaid oedd mynd â’r deisen i’r Bwytawr Pechodau. Nid nepell o goed Plas Glanrafon, roedd carreg arbennig, ‘Carreg Pechodau’ fel y’i gelwid, lle gadawyd y deisen ar ei gyfer. Gyda’r deisen yn ei lle, yna byddai’r galarwyr yn cilio i ymguddio yn y llwyni i weld yr hen fwytawr yn dod i’r golwg.[4]
Ysgrifennodd y dyddiadurwr o'r ail ganrif ar bymtheg John Aubrey, yn y ffynhonnell gynharaf ar yr arferiad, fod "old Custome" yn bodoli yn sir Henffordd.
“ | at funerals to hire poor people, who were to take upon them all the sins of the party deceased. One of them I remember lived in a Cottage on Rosse-high way. (He was a long, lean, ugly, lamentable Raskel.) The manner was that when the corpse was brought out of the house, and laid on the Bière; a Loaf of bread was brought out, and delivered to the Sine-eater over the corpse, and also a Mazar-bowl of maple (Gossips bowl) full of beer, which he was to drink up, and sixpence in money, in consideration whereof he took upon him (ipso facto) all the Sinnes of the Defunct, and freed him (or her) from walking after they were dead.[5] | ” |
Mae John Bagford ( c. 1650–1716 ) yn cynnwys y disgrifiad a ganlyn o'r ddefod o fwyta pechodau yn ei Letter on Leland's Collectanea, i. 76. (fel y dyfynnwyd yn Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 1898)
“ | Notice was given to an old sire before the door of the house, when some of the family came out and furnished him with a cricket [low stool], on which he sat down facing the door; then they gave him a groat which he put in his pocket, a crust of bread which he ate, and a bowl of ale which he drank off at a draught. After this he got up from the cricket and pronounced the case and rest of the soul departed, for which he would pawn his own soul. | ” |
Erbyn 1838, nododd Catherine Sinclair fod yr arferiad yn dirywio ond ei fod yn parhau yn yr ardal:
“ | A strange popish custom prevailed in Monmouthshire and other Western counties until recently. Many funerals were attended by a professed "sin-eater," hired to take upon him the sins of the deceased. By swallowing bread and beer, with a suitable ceremony before the corpse, he was supposed to free it from every penalty for past offences, appropriating the punishment to himself.
Men who undertook so daring an imposture must all have been infidels, willing, apparently, like Esau, to sell their birthright for a mess of pottage.[6] |
” |
Mae chwedl leol yn Swydd Amwythig, Lloegr, yn ymwneud â bedd Richard Munslow, a fu farw yn 1906, a dywedir mai ef oedd un o fwytawyr pechod olaf yr ardal. Yn anarferol, nid oedd Munslow yn dlawd nac yn alltud, yn hytrach yn ffermwr cyfoethog o deulu sefydledig. Dichon fod Munslow wedi adfywio'r arferiad ar ôl i tri o'i blant faw o fwn wythnos yn 1870 oherwydd y dwymyn goch. Yng ngeiriau’r Parchedig Norman Morris lleol o Ratlinghope, “Roedd yn arferiad rhyfedd iawn ac ni fyddai wedi cael ei gymeradwyo gan yr eglwys ond rwy’n amau bod y ficer yn aml yn troi llygad dall at yr arferiad.”[7] Yn angladd unrhyw un oedd wedi marw heb gyffesu ei bechodau, byddai un sy'n bwyta pechod yn cymryd pechodau'r ymadawedig trwy fwyta torth o fara ac yfed cwrw allan o bowlen bren a drosglwyddwyd dros yr arch, a gwneud a araith fer: [7]
“ | I give easement and rest now to thee, dear man, that ye walk not down the lanes or in our meadows. And for thy peace I pawn my own soul. Amen.[8] | ” |
Mae llyfr 1926 Funeral Customs gan Bertram S. Puckle yn sôn am y bwytawr pechod:
“ | Professor Evans of the Presbyterian College, Carmarthen, allegedly saw a sin-eater about the year 1825, who was then living near Llanwenog, Cardiganshire. Abhorred by the superstitious villagers as a thing unclean, the sin-eater cut himself off from all social intercourse with his fellow creatures by reason of the life he had chosen; he lived as a rule in a remote place by himself, and those who chanced to meet him avoided him as they would a leper. This unfortunate was held to be the associate of evil spirits, and given to witchcraft, incantations and unholy practices; only when a death took place did they seek him out, and when his purpose was accomplished they burned the wooden bowl and platter from which he had eaten the food handed across, or placed on the corpse for his consumption.[9] | ” |
Mewn diwylliant poblogaidd
golyguCyhoeddodd William Sharp, yn ysgrifennu fel Fiona Macleod, chwedl ryfedd o'r enw "The Sin Eater" yn 1895.[10]
Mae "The Sin Eater" yn bennod o ddrama radio Suspense a ddarlledwyd yn wreiddiol ar 8 Gorffennaf 8 1962. Appalachia wledig yw'r lleoliad, gyda chymeriadau o dreftadaeth Gymreig.
Mae "The Sins of the Fathers", pennod ym 1972 o'r gyfres deledu Americanaidd Night Gallery, yn cynnwys Richard Thomas fel un sy'n bwyta pechodau yng Nghymru'r oesoedd canol.
Wedi'i gyhoeddi ym 1977 gan Duckworth Books, The Sin Eater oedd y gyntaf o nifer o nofelau'r awdur Prydeinig Alice Thomas Ellis. Roedd yn "datgelu chwerwder cudd Gwyddeleg, Cymraeg a Saesneg," yng ngeiriau'r newyddiadurwr a'r awdur Clare Colvin.[11] Wrth ysgrifennu ar gyfer Los Angeles Review of Books, dywed Abby Geni, "Mae'r stori'n troi o amgylch y Capten, pen-teulu sydd ar farw, a'r teulu sydd wedi ymgasglu wrth erchwyn ei wely. Nid oes ysbrydion na lleisiau heb gorff yma. Yn hytrach, mae Rose hyfryd yn trefnu prydau bwyd a gemau criced trwy'r llyfr fel niwl."[12]
Mae cyfres deledu 1978 The Dark Secret of Harvest Home yn cynnwys golygfa angladd lle mae'r holl alarwyr a oedd yn bresennol yn troi eu hwynebau wrth i gydymaith ymwrthod â dynodi'r bwytäwr pechod yn bwyta pryd o fwyd symbolaidd, sy'n cynnwys darn arian wedi'i wasgu i mewn i gaws, a thrwy hynny gymryd camweddau yr ymadawedig mewn bywyd ar ei hun.
Mae Sin-Eater yn enw dihiryn Marvel Comics.
Ysgrifennodd Margaret Atwood stori fer o'r enw "The Sin-Eater". Cafodd ei dramateiddio gan y Canadian Broadcasting Corporation yn eu cyfres radio Anthology yn 1981.[13]
Sin Eater yw teitl nofel ddirgelwch o 2020 gan Megan Campisi sydd wedi'i gosod yn Lloegr yn oes y Frenhines Elisabeth.[14]
Yn nofel Patrick O'Brian, Master and Commander, a osodwyd ar fwrdd llong llynges Brydeinig o'r 19eg ganrif, mae'r criw yn dysgu bod cyd-longwr newydd arfer bwyta pechodau, a mae nhw'n dechrau ei anwybyddu a'i erlid ar unwaith. Er mwyn ei amddiffyn, mae meddyg y llong, Stephen Maturin, yn rhoi swydd iddo fel ei gynorthwyydd.
Mae ffilm 2003 The Order yn stori arswyd ffuglennol sy'n troi o amgylch yr ymchwiliad i farwolaeth amheus offeiriad a gafodd ei ysgymuno a darganfyddiad person sy'n bwyta pechod sydd â'i bencadlys yn Rhufain.
Mae'r ffilm 2004 The Final Cut wedi'i gosod mewn byd lle mae atgofion yn cael eu cofnodi, ac yna "torri" i mewn i hagiograffau cadarnhaol ar farwolaeth y person; cyfeirir at y "torwyr" fel bwytawyr pechod.
Mae ffilm 2007 The Last Sin Eater yn adrodd hanes cymuned o fewnfudwyr Cymreig yn Appalachia, 1850. Gwelir pech-fwytawr y gymuned trwy lygaid Cadi Forbes, deg oed.
Yn y ffilm The Bourne Legacy (2012), mae cymeriad canolog sy'n arwain rhaglen gweithrediadau 'du' gan lywodraeth UDA yn disgrifio'i hun a'i dîm fel bwytäwr pechod, gan wneud y peth "moesol anamddiffynadwy" ond cwbl angenrheidiol, "fel bod gweddill ein hachos yn gallu aros yn bur."
Defnyddiodd y sioe deledu Americanaidd Sleepy Hollow y term Sin-Eater fel teitl Tymor 1, pennod 6, fel ffordd o gyflwyno cymeriad arall ar y sioe sy'n bwyta pechodau.
Defnyddiodd y sioe deledu Americanaidd Lucifer y term Sin-Eater fel teitl tymor 2, pennod 3, i gyfeirio at weithwyr cymedroli cynnwys cwmni cyfryngau cymdeithasol ffuglennol. Gwnaeth y sioe deledu Americanaidd Arrow hynny hefyd yn nhymor 5, pennod 14, gan gyfeirio at stori gefn-fflach o Anatoli Knyazev yn dweud wrth Oliver Queen ei fod yn bwyta pechodau.
Yn y sioe deledu Americanaidd Succession, mae Gerri, cwnsler cyffredinol Waystar Royco, yn awgrymu i Tom Wambsgans ei fod yn dod yn fwytäwr pechod i'r teulu ac yn dinistrio tystiolaeth o weithgareddau anghyfreithlon ar longau mordaith y cwmni, "Have you ever heard of the sin cake eater? He would come to the funeral and he would eat all the little cakes they’d lay out on the corpse. He ate up all the sins. And you know what? The sin cake eater was very well paid. And so long as there was another one who came along after he died, it all worked out. So this might not be the best situation, but there are harder jobs and you get to eat [an amazing amount] of cake."[15]
Mae gêm chwarae rôl gan ycwmni cyhoeddi White Wolf, Geist: The Sin-Eaters, wedi'i henwi ar gyfer y cysyniad, er nad yw byth yn cyfeirio'n uniongyrchol at yr arfer defodol gwirioneddol.
Mae'r gyfres gomig Finder yn cynnwys prif gymeriad sy'n bwyta pechodau, ac felly'n cael ei ddirmygu gan ddiwylliant ei fam fel aelod isaf eu cymdeithas.
Yn y MMORPG Final Fantasy XIV: Shadowbringers, mae pobl sy'n bwyta pechodau yn endidau gelyniaethus cyson sy'n anelu at ddifa'r holl fodau byw yn The First, angenfilod difeddwl sy'n cael eu gyrru gan newyn anniwall am aether byw. Mae'r rhai sy'n bwyta pechod cryfach yn gallu "maddeu" y creaduriaid y maen nhw'n ymosod arnyn nhw, gan eu hagru'n erchyll a pharhaol mewn i fwytawyr pechod newydd-anedig. Mae'r rhan fwyaf o'r creaduriaid hyn yn tueddu i gael eu henwi fel pechodau "maddeuol" (Llwfrdra Maddeugar, Creulondeb Maddeugar, Rhagrith Maddeugar, ac ati). Gelwir y rhai cryfaf sy'n bwyta pechodau yn Lightwardens.
Yn A Breath of Snow and Ashes, y chweched llyfr yn y gyfres Outlander o nofelau gan Diana Gabaldon, mae Roger Wakefield yn llywyddu angladd mam-yng-nghyfraith Hiram Crombie, Mrs. Wilson, lle mae un sy'n bwyta pechodau yn ymddangos.
Mae The Sin Eater's Daughter yn nofel ffantasi oedolion ifanc a ysgrifennwyd gan Melinda Salisbury sy'n cynnwys fersiwn o'r arfer ac a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror 2015.
Mae "My Soul's Demise", cân gan Blackbriar, yn ymwneud ag ofn rhywun sy'n bwyta pechod.
Yn y gyfres deledu Americanaidd Fargo - tymor 5, pennod 3, mae ôl-fflachiad yn portreadu ymgnawdoliad posibl o'r unfed ganrif ar bymtheg o'r cymeriad Ole Munch fel rhywun sy'n bwyta pechod, a gadarnhawyd yn bendant gan ei ddatganiadau pellach yn y diweddglo, pennod 10, o'r enw "Bisquik".
"Sin Eater", cân gan Penelope Scott o'r albwm cerddoriaeth Mysteries For Rats a gyhoeddwyd yn 2023.
Mae "SIN-EATER", gwaith o 2023 ar gyfer côr a phedwarawd llinynnol gan y cyfansoddwr Americanaidd David T. Little, yn tynnu ar adroddiadau hanesyddol o fwyta pechodau fel ffordd o archwilio annhegwch mewn diwylliant cyfoes.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Davidson, Hilda Ellis (1993). Boundaries & Thresholds. Thimble Press. t. 85. ISBN 9780903355414. Cyrchwyd 28 Mawrth 2022.
It is this fear of what the dead in their uncontrollable power might cause which has brought forth apotropaic rites, protective rites against the dead. [...] One of these popular rites was the funeral rite of sin-eating, performed by a sin-eater, a man or woman. Through accepting the food and drink provided, he took upon himself the sins of the departed.
- ↑ Chisholm, Hugh, gol. (1911). "Sin-eater". Encyclopædia Britannica. 25 (arg. 11th). Cambridge University Press. tt. 146–147.
- ↑ "Gwefan Swyddogol Dyffryn Nantlle > Hanes Pentref Llanllyfni > Y Bwytawr Pechodau". www.nantlle.com. Cyrchwyd 2024-08-15.
- ↑ "Eco'r Wyddfa, Mawrth 2021" (PDF). Papur Bro, Eco'r Wyddfa. Mawrth 2021. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
- ↑ Aubrey, John (1686–1687). The Remaines of Gentilisme and Judaisme. London: W. Satchell, Peyton.
- ↑ Sinclair, Catherine (1838). Hill and Valley: Or, Hours in England and Wales. Edinburgh: Robert Carter. t. 336.
- ↑ 7.0 7.1 "Last 'sin-eater' to be celebrated with church service". BBC News. 19 Medi 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-19. Cyrchwyd 2010-09-19.
- ↑ "Ratlinghope Churchyard". Shropshire Churches Tourism Group. n.d. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-31. Cyrchwyd 28 Mawrth 2022.
- ↑ Puckle, Bertram S. (1926). "Chapter IV: Wakes, Mutes, Wailers, Sin-Eating, Totemism, Death-Taxes". Funeral Customs. London, UK: T. Werner Laurie Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 January 2021. Cyrchwyd 16 Medi 2020 – drwy Sacred texts.com.
- ↑ Sharp, William (Hydref 1895). The Sin-Eater And Other Tales. Edinburgh, Scotland: Patrick Geddes & Colleagues. OL 14042178M.
- ↑ Colvin, Clare (10 March 2005). "Obituary: Alice Thomas Ellis". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Ionawr 2021. Cyrchwyd 3 Awst 2020.
- ↑ Geni, Abby (April 9, 2016). "The Sin Eater: Alice Thomas Ellis and the Gothic Tradition". Los Angeles Review of Books. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Hydref 2020. Cyrchwyd 3 Awst 2020.
- ↑ Atwood, Margaret (1982). Weaver, Robert (gol.). Small Wonders : New stories by twelve distinguished Canadian authors. Toronto: Canadian Broadcasting Corporation. tt. 11–23. ISBN 0887941044.
- ↑ "The Sin Eater by Megan Campisi". www.panmacmillan.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-09.
- ↑ HBO. (2018, Mehefin 24). "Sad Sack Wasp Trap". Succession. New York, New York.