Byd Go Iawn: Un Nos Ola Leuad

Llyfr ac astudiaeth lenyddol, Gymraeg gan yr awdur J. Elwyn Hughes yw Byd Go Iawn: Un Nos Ola Leuad. Cyhoeddiadau Barddas a gyhoeddodd y gyfrol a hynny ar 30 Awst 2012. Yn 2018 roedd y gyfrol mewn print ac ar gael.[1]

Byd Go Iawn: Un Nos Ola Leuad
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJ. Elwyn Hughes
CyhoeddwrCyhoeddiadau Barddas
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncAstudiaethau Llenyddol
Argaeleddmewn print ac ar gael
ISBN9781900437998
Tudalennau326 Edit this on Wikidata
GenreLlenyddiaeth Gymraeg

Disgrifiad byr golygu

Cyfrol sy'n bwrw golwg ar y byd a oedd yn sail i'r nofel enwog Un Nos Ola Leuad sydd yma. Ceir taith ddarluniadol o gymdeithas, llefydd a chymeriadau Bethesda a Dyffryn Ogwen fel yr oeddynt yn nyddiau Caradog Prichard.

Adolygiad Gwales golygu

Er bod Byd Go Iawn: Un Nos Ola Leuad yn gyfrol gyflawn ynddi’i hun, mae’n deg dweud ei bod hefyd yn chwaer-gyfrol, ac, ar ryw ystyr, hyd yn oed yn ddilyniant i Byd a Bywyd Caradog Prichard a gyhoeddwyd [yn 2005]. Ychydig o ofod a neilltuwyd i fynd i’r afael â chefndir y nofel yn y fan honno, ac er mai prin y byddai’r darllenydd wedi sylwi ar y "diffyg" mewn cyfrol gynhwysfawr 198 o dudalennau, fe honna’r awdur mai ceisio "gwneud iawn am hynny" a wnaeth y tro hwn.

Yma, fe ganolbwyntir yn gyfan gwbl ar Un Nos Ola Leuad – ei lleoliadau, ei chymeriadau a’i digwyddiadau, a chynseiliau’r rheini yn y "byd go iawn". Fel y dywed J. Elwyn Hughes yn ei Ragarweiniad:

Yn Nyffryn Ogwen ei blentyndod y cafodd Caradog ei ysbrydoliaeth ac y mae rhannau helaeth o’r gwaith wedi ei seilio ar ddigwyddiadau, pobl a llefydd gwirioneddol yn y fro honno, a hynny er gwaethaf yr honiad yn "Nodyn yr Awdur" ar ddechrau’r nofel: “Er bod brith-gofion bore oes yn sail i ambell ddigwyddiad yma, ystumiwyd cymaint gan amser a dychymyg fel nad oes unrhyw gysylltiad uniongyrchol ag unrhyw berson yn yr un o’r cymeriadau, ac y mae "eu dydd yn gelwydd i gyd".

Eir ati, yn gwbl systematig, i gyfosod, yn gyntaf "Lefydd ac Adeiladau", yna "Bobl a Chymeriadau" ac yna ddigwyddiadau penodol â’u cymheiriaid hanesyddol. Llwyddwyd i gywain casgliad rhyfeddol o ddarluniau a ffotograffau i gyd-fynd â’r cyfan – rhai wedi ymddangos o’r blaen yn y gyfrol flaenorol, ond y rhan fwyaf o ddigon yn gwbl "newydd".

Mae trwch y gyfrol yn canolbwyntio ar y cymeriadau, a dyma lle y mae hyd a lled ymchwil J. Elwyn Hughes yn dod i’r amlwg, ynghyd â’i adnabyddiaeth o bobl ei ardal. Cyfeiriaf yn benodol at "Now Gwas Gorlan, Robin Gwas Bach Gorlan a Now Bach Glo", tri chymeriad sy’n "ymgorffori elfennau" o gymeriad Wil Rîtsh (y cynhwyswyd rhai o’i ffraethebau yn y gyfrol Glywsoch Chi Hon? gan Fudiad Adfer yn 1978, ond na chofnodwyd hanes ei fywyd mor gyflawn cyn hyn), a’r bennod honno ar "Mister Vinsent Bank a’i Wraig a’u Hogyn Bach, Cyril", y mae hiwmor yn byrlymu drwyddi. Cefais flas arbennig ar y rhain, ac, mewn ffordd wahanol, ar y bennod ar "Defi Difas Snowdon View", lle y cynhwysir dau lythyr yn llaw T. Rowland Hughes yn holi’r gŵr a fu’n gynsail i Defi Difas, sef David D. Evans, am gefndir y Streic Fawr wrth iddo baratoi i ysgrifennu Chwalfa. Dyma gymeriadau y bu’n golled enfawr i’m cenhedlaeth i beidio â chael eu hadnabod, a dyma gymwynas fawr J. Elwyn Hughes yn y gyfrol hon. Oherwydd y mae’n fwy na chyfeirlyfr i’w gael wrth eich penelin wrth i chi fodio drwy Un Nos Ola Leuad; mae’n gofnod tu hwnt o werthfawr o hanes cymdeithasol, ac yn diogelu straeon am bobl y gellid yn hawdd fod wedi eu hanghofio cyn pen cenhedlaeth eto.

Erbyn i ni droi i’r drydedd adran, cawn mai dim ond un ‘digwyddiad’ sydd yma, mewn gwirionedd, sef hanes y gêm bêl-droed gythryblus rhwng yr Holyhead Railway Institute Reserves a’r Bethesda Comrades – neu’r Cybi Wanderers a "Celts ni", fel y’u gelwir yn y nofel. Daeth achlysuron cymdeithasol eraill, fel yr orymdaith i anrhydeddu’r milwr a enillodd fedal y D.C.M., dadorchuddio’r gofgolofn ar derfyn y rhyfel, ac ymweliad Côr y Sowth, eisoes dan y chwyddwydr wrth edrych ar leoliadau a chymeriadau, a’r ffaith honno’n tystio i anawsterau cynllunio astudiaeth o’r fath, lle y mae ailadrodd a chroesgyfeirio bron yn anorfod. Ond hanes yr ornest bêl-droed yw pinacl y gyfrol, ac roedd yn werth neilltuo lle i’w thrafod ar ei phen ei hun.

Gwen Gruffudd



Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 22 Mawrth 2018