J. Elwyn Hughes

Awdur, athro, golygydd ac ieithydd o Gymro

Awdur, athro, golygydd ac ieithydd o Gymru oedd J. Elwyn Hughes (9 Mawrth 194025 Ionawr 2023)[1][2][3]. Am 30 mlynedd bu'n olygydd ‘Cyfansoddiadau a Beirniadaethau’ yr Eisteddfod Genedlaethol gan ofalu am 23 cyfrol rhwng 1985 a 2015. Roedd yn arbenigwr ar hanes y nofelydd Caradog Prichard.

J. Elwyn Hughes
Ganwyd9 Mawrth 1940 Edit this on Wikidata
Bethesda Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ionawr 2023 Edit this on Wikidata
Bethel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgolygydd, athro, llenor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganwyd a magwyd John Elwyn Hughes ym mhentref Braichmelyn, Bethesda yn fab i John a Myfanwy Hughes. Mynychodd Ysgol Dyffryn Ogwen. Graddiodd mewn[4] Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac yna gradd Meistr mewn Addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor.

Wedi gadael y brifysgol bu'n Bennaeth Adran Gymraeg Ysgol Dyffryn Ogwen, ei hen ysgol. Yna daeth yn Ddirprwy Brifathro ac wedi hynny'n Brifathro’r ysgol rhwng 1983 ac 1987. Rhwng 1987 a 1996 roedd yn Gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Iaith. Wedi hynny bu'n Ymgynghorydd Iaith hunangyflogedig.

 

Yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl, 1985 y cyhoeddwyd y Cyfansoddiadau cyntaf dan ei olygyddiaeth, cyfrol sy'n cael ei chyhoeddi'n flynyddol ar brynhawn Gwener olaf yr Eisteddfod. Ymddeolodd o'r swydd er mwyn canolbwyntio ar sgwennu am Ddyffryn Ogwen, ei fro enedigol a diddordebau eraill. Penodwyd W. Gwyn Lewis yn ei le.

Yn 1993 anrhydeddwyd ef i'r Wisg Wen yn Eisteddfod Llanelwedd am ei gyfraniad i'r Gymraeg.[5]

Bywyd personol

golygu

Roedd yn byw ym Methel, Gwynedd ac yn briod â Deilwen. Roedd ganddo bedwar o blant - Gwyndaf, Garmon, Siôn a Manon.

Bu farw ym mis Ionawr 2023. Mewn teyrnged iddo dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol fod ei farwolaeth "yn ergyd drom i ni yma yng Nghymru. Yn ddyn iaith a gramadeg o'i goryn i'w sawdl, roedd o hefyd yn olygydd heb ei ail," meddai llefarydd. Ychwanegodd cyn-brif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones, ei fod yn "newyddion trist iawn. Un o gymwynaswyr mawr y Gymraeg," meddai.[6] Cynhaliwyd ei angladd ar ddydd Mercher, 8 Chwefror 2023 gyda gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Jerusalem, Bethesda am 11.00 o'r gloch. Fe'i gladdwyd ym Mynwent Coetmor, Bethesda.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dogfen am achos yn trafod llain o dir ym Methesda
  2.  Hysbyseb marwolaeth Dr John Elwyn Hughes. Daily Post (25 Ionawr 2023). Adalwyd ar 31 Ionawr 2023.
  3. Yr awdur Dr J Elwyn Hughes wedi marw , Newyddion S4C, 25 Ionawr 2022.
  4. www.linkedin.com[dolen farw]
  5. Gwefan Gomer;[dolen farw] adalwyd 6 Gorffennaf 2015
  6. "Marwolaeth yr awdur J Elwyn Hughes 'yn ergyd drom'". BBCCymru Fyw. Cyrchwyd 25 Ionawr 2023.