Caradog Prichard

newyddiadurwr, nofelydd a bardd

Newyddiadurwr, nofelydd a bardd oedd Caradog Prichard (3 Tachwedd 190425 Chwefror 1980). Cafodd ei eni a'i fagu yn Llwyn Onn, Allt Pen-y-bryn, ym Methesda, ond treuliodd hanner ei oes yn Llundain.

Caradog Prichard
Ganwyd3 Tachwedd 1904 Edit this on Wikidata
Bethesda Edit this on Wikidata
Bu farw25 Chwefror 1980 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
PlantMari Christina Prichard Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Roedd Chwarel y Penrhyn ym Methesda yn un o chwareli llechi mwyaf y byd, a dyna lle yr oedd tad Caradog yn gweithio. Bu streic fawr yn 1900 ac ymunodd ei dad John Prichard â'r streic gyda rhyw 2800 eraill, ond mae'n debyg iddo fynd yn ôl i weithio cyn i'r streic ddod i ben. Ar 4 Ebrill 1905 cafodd John Prichard ei ladd mewn damwain yn y chwarel. Roedd cysgod tlodi, Streic Fawr Chwarel y Penrhyn a Diwygiad 1904 yn drwm ar fagwraeth Caradog.

Roedd ei fam yn dioddef o iselysbryd difrifol ac yn 1923 dygwyd hi i ysbyty meddwl Dinbych lle y bu weddill ei bywyd. Roedd tlodi, gwallgofrwydd ac hunanladdiad yn themau cyson trwy waith Caradog Pritchard.

Gyrfa golygu

Bwrodd ei brentisiaeth fel newyddiadurwr ar yr Herald Cymraeg yng Nghaernarfon a'r Faner ac wedyn bu'n gweithio i'r Western Mail yng Nghaerdydd am gyfnod.

Yn 1934 daeth yn is-olygydd y News Chronicle yn Llundain. Aeth i weithio i'r Daily Telegraph yn 1947, a dyna lle bu tan ei ymddeoliad yn 1972. Ymdaflodd ef a'i wraig Mati i fywyd Cymraeg traddodiadol Cymry Llundain - cyngherddau, y capel a'r eglwys ac wrth gwrs ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

Gwaith llenyddol golygu

 
Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard gan Menna Baines

Ei waith mawr yw'r nofel Un Nos Ola Leuad a gyhoeddwyd yn 1961 ac a wnaethpwyd yn ffilm yn ddiweddarach. Enillodd y goron dair gwaith yn olynol: yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caergybi 1927, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Treorci 1928 ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru Lerpwl 1929.[1] Dyfarwnwyd ei gerdd Terfysgoedd Daear, oedd yn ymdrin a hunanladdiad, yn orau yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 1939, ond ataliwyd y Goron ar y sail ei bod yn annhestunol. Enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llanelli 1962. Cyhoeddodd hunangofiant Afal Drwg Adda yn 1973.

Llyfryddiaeth golygu

Gweithiau Caradog Pritchard golygu

  • Canu Cynnar (1937). Barddoniaeth
  • Terfysgoedd Daear (1939). Barddoniaeth
  • 'R wyf Innau'n Filwr Bychan (1943). Dan yr enw "Pte P."
  • Tantalus (1957). Barddoniaeth
  • Un Nos Ola Leuad (1961). Nofel
  • Llef Un yn Llefain (1963). Barddoniaeth
  • Y Genod yn ein Bywyd (1964). Cyfres o storiau byrïon.
  • Y Rhai Addfwyn (1971) Darlith Llyfrgell Sir Gaernarfon
  • Afal Drwg Adda (Dinbych, 1973) Hunangofiant
  • Cerddi Caradog Prichard (Abertawe, 1979). Casgliad cyflawn.

Cyfieithiadau o Un Nos Ola Leuad golygu

Almaeneg golygu

  • In einer mondhellen Nacht, gan Christel Dormagen (1999)

Daneg golygu

  • En månelys nat, Karsten Sand Iversen (2003)

Eidaleg golygu

  • Una notte di luna piena, gan Andrea Bianchi a Silvana Siviero (2008)

Ffrangeg golygu

  • Une nuit de pleine lune, gan Jean-Yves Le Disez (1990)

Groeg golygu

  • Μια νυχτα με φεγγαρι (Mia nyxta me fengari) (2000)

Iseldireg golygu

  • In de maneschijn, gan Frank Lekens (2003)

Pwyleg golygu

  • Jedna księżycowa noc, gan Marta Listewnik (2017)

Saesneg golygu

  • Full Moon, gan Menna Gallie (1973)
  • One Moonlit Night, gan Philip Mitchell (1995)

Sbaeneg golygu

  • Una noche de luna, gan Ismael Attrache (1999)

Tsieceg golygu

  • Za úplňku, gan Vladimíra Šatavová (1998)

Astudiaethau golygu

  • Mihangel Morgan, Llên y Llenor: Caradog Prichard (Gwasg Pantycelyn, 2000)
  • Menna Baines, Yng Ngolau'r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Pritchard (2005)
  • J. Elwyn Hughes, Byd a Bywyd Caradog Pritchard: Bywgraffiad Darluniadol (2005)
  • J. Elwyn Hughes, Byd Go Iawn: Un Nos Ola Leuad (Cyhoeddiadau Barddas, 2010)

Ffilm golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Davies, John (2008). Encyclopaedia. Caerdydd: University of Wales Press. t. 710. ISBN 978-0-7083-1953-6.