Un Nos Ola Leuad
Nofel enwog gan Caradog Prichard yw Un Nos Ola Leuad, a gyhoeddwyd yn 1961.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Caradog Prichard |
Iaith | Cymraeg |
Dechrau/Sefydlu | 1961 |
Lleoliad y gwaith | Bethesda |
- Erthygl am y nofel yw hon. Am y ffilm o'r un enw gweler Un Nos Ola Leuad (ffilm).
Adroddir y stori gan brif gymeriad y nofel sy'n dychwelyd i'r ardal ac yn cerdded ar daith ar hyd y lôn ar noson ola leuad, a llifa'r atgofion amdano yn blentyn yn ôl. Mae'r cefndir a nifer o'r digwyddiadau yn ymdebygu i fywyd personol yr awdur ei hun, Caradog Prichard. Cyhoeddwyd y nofel yn 1961. Yn ôl nifer o feirniaid llenyddol mae hi gyda'r nofel Gymraeg orau erioed.[1][2]
Ysgrifennwyd y nofel yn y person cyntaf, yn nhafodiaith ardal chwareli Bethesda. Mae arddull y nofel yn ymylu ar arddull 'llif yr ymwybod'. Gosodir y nofel yng nghyfnod plentyndod Caradog Prichard yn Nyffryn Ogwen ar ddechrau'r 20g ac fe ddigwyddodd rhai o ddigwyddiadau'r nofel i'r awdur ei hun. Cymerwyd mam y prif gymeriad a mam yr awdur fel ei gilydd i'r seilam.
Mae dylanwad James Joyce ar y nofel, yn arbennig Finnegans Wake.[3]
Ymhlith prif themau'r nofel mae gwallgofrwydd, tlodi a diniwedrwydd plentyn.
Mae'r nofel hon yn llyfr gosod yn arholiad TAG UG/U CBAC.
Cymeriadau
golygu- Yr Adroddwr
- Y Bachgen
- Y Fam
- Tada
- Brenhines y Llyn Du
- Moi
- Huw
- Nain
- Anti Elin
- Guto
- Canon
- Ceri
- Jini Bach Pen Cae
- Yncl Wil
- Wmffra Tŷ Top
- Elwyn Pen Rhes
- Em Brawd Now Bach Glo
- Ffranc Bee Hive
- Harri Bach Clocsia
- Preis Sgŵl
- Wil Elis Portar
- Yncl Now Moi
- Wil Colar Starts
- John Elwyn
- Leusa Tŷ Top
- Gres Elin Siop Sgidia
Rhan o adolygiad Gwales
golyguO ddarllen y nofel ar ei hyd, yn hytrach na fesul gwers, mae’r undod yn dod yn amlwg a’r llif yn cyflymu wrth inni glosio tuag at y diwedd anorfod.
I mi, mae hi’n nofel dristach nag oedd hi ddeng mlynedd yn ôl hefyd, a’r tywyllwch yn fy llyncu’n fwy cyfan gwbl rywsut. Pry cop ar drugaredd ei we yw’r bachgen, yn union fel hwnnw sy’n ceisio dianc drwy ffenest ar ddechrau’r bedwaredd bennod ar ddeg. ‘Dyna lle oedd o’n cerddad ar hyd y gwydyr . . . cerddad am dipyn bach a cael codwm, a mynd yn ei ôl a cerddad a cael codwm wedyn. Ond oedd o byth yn syrthio ar lawr achos oedd gwe pry cop run fath a lastig yn ei ddal o’n hongian pan oedd o’n cael codwm, a dyna sud oedd o’n medru dŵad yn ei ôl ar ffenast bob tro.’ Ond breuo y mae’r lastig gyda phob ergyd a ddaw i ran y bachgen, hyd nes nad oes dim i’w godi wedi’r codwm olaf.[4]
Cyfieithiadau
golygu- Full Moon (1973), Saesneg, gan Menna Gallie
- One Moonlit Night (1995) Saesneg, gan Philip Mitchell
- Une nuit de pleine lune, Ffrangeg
- Za úplnku, Tsieceg
- Una noche de luna, Sbaeneg
- In einer mondheller Nacht, Almaeneg
- Mia núhta me fengári, Groeg
- In de maneschijn, Iseldireg
- En manelys nat, Daneg
- Jedna księżycowa noc, Pwyleg, gan Marta Listewnik[5]
Ffilm
golygu- Un Nos Ola Leuad (1991), Cwmni Gaucho
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986)
- ↑ Llyfr y Ganrif, Gwyn Jenkins, Andy Misell, Tegwyn Jones (Llyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Lolfa, 1999)
- ↑ Emyr Llywelyn yn Y Faner Newydd 2013
- ↑ gan Nia Peris http://www.gwales.com/goto/biblio/cy/9781871734003/?session_timeout=1
- ↑ https://waleslitexchange.org/cy/news/view/polish-translation-of-un-nos-ola-leuad-by-caradog-prichard-published