Byddin Fodel Newydd
Byddin sefydlog oedd y Fyddin Fodel Newydd a ffurfiwyd yn 1645 gan y Seneddwyr yn ystod Rhyfel Cartref Cyntaf Lloegr, a gafodd ei diddymu wedyn ar ôl Adferiad y Stiwartiaid yn 1660. Roedd yn wahanol i fyddinoedd eraill a gyflogwyd yn Rhyfeloedd y Tair Teyrnas (1639–1653) yn yr ystyr bod aelodau yn atebol am wasanaeth unrhyw le yn y wlad, yn hytrach na chael eu cyfyngu i un ardal neu garsiwn. Er mwyn sefydlu corfflu swyddogion proffesiynol, gwaharddwyd arweinwyr y fyddin rhag cael seddau yn Nhŷ'r Arglwyddi neu Dŷ'r Cyffredin. Roedd hyn er mwyn eu hannog i wahanu oddi wrth y carfannau gwleidyddol neu grefyddol ymhlith y Seneddwyr.
Catecism y Milwr | |
Enghraifft o'r canlynol | byddin |
---|---|
Daeth i ben | 1660 |
Dechrau/Sefydlu | 1645 |
Pencadlys | Llundain |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Codwyd y Fyddin Fodel Newydd yn rhannol o blith cyn-filwyr a oedd eisoes â chredoau crefyddol Piwritanaidd selog, ac yn rhannol o gonscriptiaid a ddaeth â llawer o gredoau cyffredin am grefydd neu gymdeithas gyda nhw. Felly roedd llawer o'i filwyr cyffredin yn anghydffurfwyr a radicaliaid. Er nad oedd uwch swyddogion y Fyddin o reidrwydd o'r un farn wleidyddol â'u milwyr, arweiniodd eu hannibyniaeth oddi wrth y Senedd at barodrwydd y Fyddin i gyfrannu at awdurdod y Senedd ac i ddymchwel y Goron, ac i sefydlu Gwerinlywodraeth Lloegr o 1649 hyd 1660, a cynnwys cyfnod o reolaeth filwrol uniongyrchol.
Llyfryddiaeth
golygu- Ian Gentles, The New Model Army: The New Model Army in England, Ireland and Scotland, 1645–1653 (Rhydychen: Blackwell, 1992)