Bylchau (barddoniaeth)

argraffiad; a gyhoeddwyd yn 2016

Cyfrol o gerddi Aneirin Karadog a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas a gyhoeddwyd yn 2016 yw Bylchau.

Bylchau
Math o gyfrwngfersiwn, rhifyn neu gyfieithiad Edit this on Wikidata
AwdurAneirin Karadog Edit this on Wikidata
CyhoeddwrCyhoeddiadau Barddas Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2016 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiy Bala Edit this on Wikidata

Colled bersonol wnaeth sbarduno Aneirin Karadog i ddwyn ynghyd ei ail gyfrol o gerddi, sef marwolaeth ei gyfnither Cathryn bron i ddwy flynedd yn ôl.

Mae’r gyfrol hon hefyd yn myfyrio ar y bylchau sy’n cael eu gadael ym mywyd y genedl yn dilyn marwolaeth rhai o gewri ein llên a’n diwylliant. Ond wrth ystyried goblygiadau colled, mae’r bardd hefyd yn cael ei gymell i feddwl am yr hyn sy’n tyfu yn y bylchau hynny ac i ddathlu yr hyn sy’n cael ei feithrin o’r newydd – genedigaeth ei ferch, Sisial, cael ei benodi’n Fardd Plant Cymru, arwyr megis Nigel Owens, Jamie Bevan, Chris Coleman ac Osian Roberts a sefydlu Radio Beca.

Mae Bylchau hefyd yn cynnwys cerddi sy’n archwilio perthynas y bardd â Llydaw, a’r ffaith iddo gael ei fagu ar aelwyd amlieithog yn sŵn y Gymraeg a’r Llydaweg. Mae'r gyfrol yn gofyn cwestiynau megis: Beth mae bod yn hanner Llydäwr yn ei olygu i Aneirin Karadog? A sut mae’n dylanwadu ar ei agwedd tuag at iaith a diwylliant Cymru? Sut mae byw yn rhan o fwy nag un diwylliant?

Trwy ei gerddi cynganeddol a’i gerddi rhydd telynegol, mae Aneirin Karadog yn fardd sy’n cynnig byd-olwg gwahanol i weddill beirdd Cymru.