Gŵyl Ban Geltaidd

Gŵyl gerddorol flynyddol a gynhelir yn Iwerddon ac a fynychir gan gynrychiolwyr o'r Gwledydd Celtaidd yw'r Ŵyl Ban Geltaidd (Gaeleg: Féile Pan Cheilteach).

Gŵyl Ban Geltaidd
Enillwyr yr Ŵyl Ban Geltaidd hyd at 2015
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad sy'n ailadrodd Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1971 Edit this on Wikidata

Cefndir a chystadlaethau golygu

Cynhaliwyd yr Ŵyl Ban Geltaidd gyntaf ym 1971, ac ers hynny, mae'r ŵyl wedi cael ei chynnal pob mis Ebrill yn flynyddol mewn amrywiol leoliadau yn yr ardaloedd Gaeltacht yn Iwerddon. Daw cynrychiolwyr o Gymru, Iwerddon, Yr Alban, Cernyw, Llydaw ac Ynys Manaw i gymryd rhan yn yr ŵyl a chynhelir sawl cystadleuaeth dros chwe diwrnod gan gynnwys Cân Wreiddiol, Cystadlaethau Canu Côr a Dawns.[1]

Cynrychiolwyr Cymru golygu

Enillwyr cystadleuaeth Cân i Gymru fydd yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn flynyddol. Yng nghystadleuaeth 2011, Cymru enillodd y wobr am y gân wreiddiol orau.[2]

Rhoddir y cynnig i dri unigolyn a thri grŵp gwerin fynd i'r Wyl i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth yr unawd gwerin traddodiadol, a'r grŵp gwerin traddodiadol. Mae nifer o Gymru wedi dod i'r brig yn y cystadlaethau hyn dros y blynyddoedd gan gynnwys y canlynol:

Unigolion:

Grwpiau

Ceir cystadlaethau corawl yn yr Wyl ac mae cynrychiolaeth gref bob blwyddyn o Gymru. Dyma gorau sydd wedi dod i'r brig yn yr amryw gategorïau.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu