Côr Aelwyd yr Ynys

Côr ieuenctid Cymreig yw Côr Aelwyd yr Ynys, a leolir ym mhentref Bodedern yn Ynys Mon, Cymru. Fe'i sefydlwyd yn 2004 ac mae’n rhan o Urdd Gobaith Cymru. Mae aelodau rhwng 11-25 oed yn rhan o'r Aelwyd.

Côr Aelwyd yr Ynys
Enghraifft o'r canlynolcôr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ffurfiwyd Côr Aelwyd Yr Ynys yn 2004, er mwyn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd 2004 yn Mona Ynys Môn. Roedd yr Aelwyd yn dathlu deng mlynedd fel côr yn 2014.

Nia Wyn Efans yw arweinydd y côr. Mae hi’n hannu o Talwrn, Ynys Môn ac yn athrawes yn Ysgol Gynradd Bodedern. Gwobrwywyd Nia gyda medel John a Ceridwen Hughes yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2008 yng Nghonwy am ei gwaith gwirfoddol.[1]

Mae’r Aelwyd wedi cystadlu mewn amryw o gystadlaethau yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd dros y blynyddoedd ac wedi dod i’r brîg yn sawl un gan gynnwys cyflwyno detholiad o sioe gerdd, cyflwyno chwarter awr o adloniant, Côr SATB a Chôr Meibion.

Gwobrau golygu

Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2004 golygu

  • 1af yng nghystadleuaeth y Chwarter Awr o Adloniant

BBC Radio 1 golygu

Un o'u profiadau amlycaf oedd yn ôl yn 2006, pan ddewiswyd iddynt berfformio ar gyfer DJs BBC Radio 1 JK a Joel ym Mhorthdafarch ger Bae Trearddur. Gofynnwyd i tua 20 o'i aelodau recordio eu fersiwn eu hunain o hoff glasur Cymraeg, Sosban Fach, yn ogystal â chynhyrchu jingle ar gyfer y cyflwynydd sioe frecwast, Chris Moyles.[2]

Cyn aelodau golygu

Mae rhai o gyn-aelodau’r aelwyd yn gantorion unigol adnabyddus megis Meilir Jones, Steffan Lloyd Owen[1] ,Llio Evans [3] a’r diweddar Aeron Gwyn Jones. Roedd Aeron yn enedigol o Ynys Mon a ganwyd yng Nghaergeiliog. Cydnabuwyd ef gyntaf yn 18 oed pan enillodd y gystadleuaeth dan 19 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ynghyd â'r ysgoloriaeth fel yr unawdydd mwyaf addawol. Datblygodd yr addewid hwn ymhellach wrth iddo ennill yr unawd operatig, Lieder a oratorio dan 25 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyflawnodd binacl ei lwyddiant cystadleuol yn 2005 yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri pan ganodd yr unawd bariton agored ac yna aeth ymlaen i ennill y rhuban glas, Gwobr Goffa David Ellis. Yn 2006, cafodd ei anwytho i Orchymyn y bardd (Gorsedd y beirdd).[4] Bu farw o gancr yn 2009.

Tra yn aelodau o’r aelwyd, bu i dair aelod ennill gwobr fawr yr Urdd sef Ysgoloriaeth Bryn Terfel i unigolion rhwng 19 a 25 oed. Manon Wyn Williams yn 2007 [5], Catrin Angharad Roberts 2009 [6] a Gwen Elin 2015 [7].

Yn ogystal â hyn mae sawl aelod o'r côr wedi bod yn actio yn broffesiynol ar y teledu. Sion Trystan Roberts (Porc Peis Bach, Mr Broc), Manon Wyn Williams (Cei Bach), Aaron Morris (Pobol y Cwm, Blodau), Arwyn Morris Williams (Talcen Caled,Mandel), Trystan Elis - Morris (cyflwynydd Can i Gymru), Huw Alun Ffowcs (Newyddion (S4C),Porc Peis Bach), a Lois Meleri-Jones (Craith/Hidden, Rownd a Rownd).

Dolen allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Crump, Eryl (2015-01-09). "Choir celebrate 10th anniversary with special concert". northwales. Cyrchwyd 2018-08-01.
  2. Crump, Eryl (2015-01-09). "Choir celebrate 10th anniversary with special concert". northwales. Cyrchwyd 2018-08-02.
  3. "Llio Evans | BIOGRAPHY". Llio Evans (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-08-02.
  4. Post, North Wales Daily (2008-07-02). "Tributes to Anglesey blue ribbon winner after death, 31". northwales. Cyrchwyd 2018-08-01.
  5. Post, North Wales Daily (2007-09-23). "Actress Manon is Bryn's winner". northwales. Cyrchwyd 2018-08-01.
  6. "Prize-winner's rainbow dreams" (yn Saesneg). 2009-10-19. Cyrchwyd 2018-08-01.
  7. "Gwen Elin yn ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel". BBC Cymru Fyw (yn Saesneg). 2015-10-26. Cyrchwyd 2018-08-01.