Côr Llundain
Côr cymysg Cymraeg wedi ei leoli yn Llundain yw Côr Llundain. Mae nhw'n ymarfer yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain yn wythnosol. Maent yn ymarfer ac yn cymdeithasu yn y Gymraeg. Mae'r côr yn canu'n rheolaidd yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain a chapeli Cymreig eraill y ddinas. Maent wedi perfformio yn Rhif 10 Stryd Downing, yn Ysgol Harrow ac yng nghapel Coleg y Drindod Caer-grawnt. Yn 2024, perfformiodd y côr yn neuadd y Guildhall, Llundain. Yn 2023, enillodd y côr y wobr gyntaf yng Ngystadleuaeth Côr Cymysg Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023.[1] Yn 2024, enillodd y Côr wobr gyntaf am Gôr Cymysg a'r ail wobr am Gôr Agored yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.
Enghraifft o'r canlynol | côr |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2017 |
Hanes
golyguSefydlwyd Côr Llundain yn 2017 fel côr ieuenctid.
Yn 2024, yr arweinydd oedd Will Thomas a'r cyfeilydd oedd Manon Browning.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Canlyniadau Dydd Gwener 11 Awst // Results for Friday 11 August". BBC Cymru Fyw. 2023-08-11. Cyrchwyd 2024-08-07.