Stryd Downing
Stryd yn Llundain sy'n gartref i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw Stryd Downing (Saesneg: Downing Street). Lleolir y stryd yn Westminster ger y Whitehall, cartref Gwasanaeth sifil y Deyrnas Unedig. Yma ceir cartref swyddogol Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn rhif 10 Stryd Downing a chartref Canghellor y Trysorlys y drws nesaf, yn 11 Stryd Downing. Cafodd y stryd enwog ei henwi ar ôl y gwladweinydd o Sais Syr George Downing (1623–1684). Ar lafar mae'r ymadrodd "Downing Street" bron yn gyfystyr â Llywodraeth y DU.
![]() | |
Math |
stryd ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Syr George Downing ![]() |
| |
Cysylltir gyda |
Whitehall ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Dinas Westminster ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.5033°N 0.1275°W ![]() |
![]() | |
Credir fod mynediad i rwydwaith mawr o dwneli a siambrau tanddaearol yn Stryd Downing, ar gyfer y llywodraeth a phwysigion eraill mewn amser argyfwng.
Ar un adeg bu'n bosibl i ddinasyddion cyffredin gael mynediad i'r stryd, ond ers dechrau'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth mae cordon metal o'i chwmpas a chyfyngir yn llym ar yr hawl i brotestio yn y cyffiniau.