Côr Rhuthun
Sefydlwyd Côr Rhuthun yn 1981; fel rhan o Aelwyd yr Urdd, Rhuthun a gweithgareddau 'Urdd 2000'. Roedd gan y côr yn wreiddiol ddau arweinydd: Beryl Lloyd Roberts a Morfydd Vaughan Evans. Daethpwyd a'r arweinyddion at ei gilydd gan drefnydd yr Urdd ar y pryd, sef Robin Llwyd ab Owain. Ar ôl tipyn newidiwyd yr enw i Gôr Ieuenctid Rhuthun ac yna yn syml: Côr Rhuthun a'r Cylch.
Enghraifft o'r canlynol | côr |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1981 |
Cyhoeddwyd nifer o gryno-ddisgiau gan y côr gan gynnwys efallai yr enwocaf: 'Atgof o'r Sêr' gyda Bryn Terfel yn unawdydd amlwg. Dyma'r côr cyntaf i ganu caneuon poblogaidd gan gantorion modern megis Caryl Parry Jones a Dafydd Iwan; dilynwyd hwy gan eraill megis Côr Llanelli'n canu 'Y Dref Wen'. Roedd eu cyfraniad cyntaf ar LP a recordiwyd gan Gwmni Recordiau Sain yn 1982, sef Aelwydydd ar Dân.
Yn Ionawr 2008 penodwyd y cyfansoddwr Robat Arwyn fel arweinydd (a chyfeilydd) i'r côr yn dilyn marwolaeth Morfydd Vaughan Evans.
Disgograffi
golygu- Aelwydydd ar Dân (ambell gân) (Sain 1982)
- Chwarae'n Troi'n Chwerw (Sain 1985)
- Hwylio 'Mlaen (Sain 1987)
- Mynyddoedd y Meseia (Sain 1991)
- Wyth ar y Dot (Sain 1994)
- Llawenydd y Gân (Sain 1997)
- Atgof o'r Sêr (Sain 2002)
- Pedair Oed (ambell gân) (Sain 2004)
- Nadolig Newydd (ambell gân) (Sain 2006)
- Er Hwylio'r Haul (ambell gân) (Sain 2006)