C.P.D. Inter Caerdydd
Lliwiau cartref Clwb pêl-droed oedd Inter Caerdydd (neu, Inter Cardiff F.C.). Roeddynt yn chwarae ac yn llwyddiannus yn ystod degawd gyntaf Uwch Gynghrair Cymru. Sefydlwyd y clwb fel Inter Caerdydd 1990, trwy uno A.F.C. Cardiff a Sully F.C, newidiodd y clwb ei henw i Inter CabelTel ym 1996 cyn mynd yn ôl i'w enw gwreiddiol dair blynedd yn ddiweddarach.
Enw llawn | Inter Cardiff FC | |
---|---|---|
Llysenwau | The Divs, The Gulls | |
Sefydlwyd | 1990 | |
Daeth i ben | 2000 (amlyncu gan Met Caerdydd | |
CabelTel (1996–99) | ||
|
Nid gyfieithwyd enw'r clwb fyth i Rhyng Caerdydd. Gellir tybio fod enw'r clwb Eidaleg enwog, Inter Milan, yn ysbrydoliaeth i'r enw, daeth pêl-droed Eidalaidd yn adnabyddus i bobl Cymru yn yr 1980au a'r 1990au yn rannol oherwydd llwyddiant rhaglenni fel Sgorio i ddarlledu uchafbwyntiau o gemau'r Seria A.
Roeddynt yn chwarae ar feysydd chwaraeon ger Lecwydd, Caerdydd.
Arddelwyd yr enw Inter Caerdydd yn y wasg a'r cyfryngau Cymraeg mai Inter Cardiff oedd yr enw a ddefnyddiwyd yn swyddogol gan y clwb.
Hanes
golyguMae gan y clwb hanes brith, byr a chymleth gan brofi llwyddiant a methiant. Bu'r clwb drwy sawl newid enw, ac ymunodd cnewyllyn y clwb gyda thîm yr hyn sydd nawr yn Brifysgol Metropolitan Caerdydd i sefydlu tîm C.P.D. Met Caerdydd.[1]
Blynyddoedd ffurfiannol
golyguFfurfiwyd y clwb gan gyfres o gyfuniadau a newidiadau enwau. Yn gyntaf, ail-enwi Lake United eu hunain A.F.C. Caerdydd ym 1984. Yn 1990, fe aethant i uno â Sully F.C i ffurfio Inter Cardiff. Ym 1996, ail-enwyd y clwb Inter CableTel A.F.C. (ar ôl eu noddwyr), ond aeth yn ôl i Inter Caerdydd yn 1999.
Blwyddyn Olaf Inter Caerdydd
golyguYn dilyn eu tymor gorau erioed, gadawodd dyfodol y tîm yn ddiamau ar ôl i'r prif noddwr, CabelTel, sydd bellach yn gweithredu fel ntl, dynnu eu nawdd yn ôl. Er gwaethaf eu hymgais i gystadlu Ewropeaidd yng Nghwpan UEFA 1999-2000, buont yn gorffen y tymor un lle uwchlaw'r llall ac yn colli eu dal ar y Cwpan Cymreig yn y Pedwerydd Rownd.
Inter CabelTel
golyguYn 2000, cyfunodd Inter Caerdydd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd (UWIC) i ffurfio UCIC Inter Caerdydd (UWIC Inter Cardiff F.C). Mae enwau'r tîm gan gefnogwyr yn cynnwys The International, The Divs (o Car-DIFF). Dechreuodd y Gavag ar logo'r tîm o'r cysylltiad Sili (enwir 'The Seagulls'). Fe wnaethon nhw newid eu henw eto yn haf 2012 i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd F.C.
Datblygu Tîm Prifysgol Metropolitan Caerdydd
golyguEr mwyn deall yr hyn ddigwyddodd i ran o waddol Inter Caerdydd, rhaid deall iddi ymuno gyda thîm yr hyn ddaeth yn Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd tîm Coleg Addysg Caerdydd yn datblygu (bellach Prifysgol Fetropolitan Caerdydd). Aeth y tîm trwy gyfres o newidiadau enwau, gan adlewyrchu newidiadau enw'r sefydliad a gynrychiolwyd ganddo. Gelwid y tîm yn wreiddiol fel Coleg Addysg Caerdydd (Cardiff College of Education F.C.) yna yn Sefydliad De Morgannwg (South Glamorgan Institute F.C.) yn 1979; Sefydliad Addysg Uwch Caerdydd (Cardiff Institute of Higher Education F.C.) yn 1990 ac UWIC ym 1996.
Yn dilyn tymor gwael penderfynwyd uno gydag Athrofa Prifysgol Cymru, tîm pêl-droed dynion Caerdydd, neu UWIC am gyfnod byr, a ffurfio clwb newydd, UWIC Inter Caerdydd A.F.C. Parhaodd enw Inter Caerdydd tan y tymor 2008-09 cyn iddo gael ei ollwng, gan adael y tîm i barhau o 2009 i 2010 fel U.W.I.C. Cafodd y Sefydliad ei hun newid enw yn 2012, ac yn dilyn siwt, felly wnaeth y tîm, yn dod yn C.P.D. Prifysgol Met Caerdydd.
Gwobrau
golyguRoedd Inter Caerdydd yn lled llwyddiannus fel clwb, er gwaethaf y ffaith nad oedd iddi gefnogaeth dorfol fawr o gofio maint Caerdydd.
Cynghrair
golygu- Cynghrair Cymru[a]
- Ail: 1992–93, 1993–94, 1996–97, 1998–99
Cwpanau
golygu- Cwpan Cymru
- Pencampwyr: 1998–99
- Cwpan Cynghrair Cymru
- Pencampwyr: 1996–97
1999-2000 - Aethant i chwarae yn Cwpan Premier CBD Cymru (yr FAW Premier Cup) oedd yn cynnwys timau o Uwch Gynghrair Cymru a goreuon timau Cymru oedd yn chwarae yn Lloegr. Ond methasant a pasio'r cymal grŵp.
Ewrop
golyguCynrychiolodd Inter Caerdydd Gymru tair gwaith yng Nghwpan UEFA ond heb fawr o lwc.
- 1994–95 colli 0–8 dros dau gymal Katowice o Wlad Pwyl yn y rownd rhagbrogol.
- 1997-1998 - colli 8-0 dros dau gymal i Celtic F.C. o'r Alban. Chwarae o dan yr enw Inter Cable Tel.
- 1999–2000 colli 1–2 i Gorica o Slofenia dros dau gymal yn y rownd 1af.