Cwpan Cynghrair Cymru
Cystadleuaeth i glybiau pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru yw Cwpan Cynghrair Cymru neu Cwpan Uwch Gynghrair Cymru;. Sefydlwyd y Gwpan yn 1992 a dyma'r ail gwpan bwysicaf i dimau sy'n chwarae pêl-droed yng Nghymru, wedi Cwpan Cymru a sefydlwyd yn nhymor 1877-78. Y gwahaniaeth fawr rhwng y ddau gwpan yw fod Cwpan Cymru yn agored i 135 tîm yn 2008-09, mae Cwpan Cynghrair Cymru ond yn agored i dimay sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru a rhai clybiau eraill. Enw'r gystadleuaeth yn Saesneg yw Welsh Premier League Cup (neu, wrth ei enw noddwr, Nathaniel MG Cup), yn flaenorol roedd yn Welsh League Cup.
Enghraifft o'r canlynol | league cup |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1992 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.faw.org.uk/FixturesCup.ink?team=w6 |
Ni ddylid cymysgu'r Cwpan gyda'r Welsh Football League Cup sy'n agored i dimau Cynghrair Cymru (Y De) h.y. timau o dde a canolbarth Cymru ac sydd adran yn is na'r Uwch Gynghrair.
Fformat
golyguMae'r fformat wedi newid sawl gwaith ers y tro cyntaf yn 1992-93.
Yn 2006-07 - newidiwyd y fformat.[1] Gan ddechrau ym mis Awst, holltwyd yr 18 tîm yn yr Uwch Gynghrair fewn i 6 grŵp rhanbarthol o 3 tîm. Roedd enillwyr y 6 grŵp a dau dîm yn yr ail safle yn mynd i rownd y chwarteri. Ceir wedyn rownd gyn-derfynol dwy gêm cyn y ffeinal ym mis Ebrill.
Yn 2014-15 cyflwynwyd y fformat gyfredon. Roedd yr Uwch Gynghrair bellach yn cynnwys ond 12 tîm (lawr o'r 18 blaenorol). Ychwanegwyr 6 tîm o'r ddau is-adran Cynghrair Cymru (Y De) a Cynghrair Undebol y Gogledd yn ogystal â 4 tîm annisgwyl. Bydd 24 tîm felly yn cystadlu yn Rownd 1 gyda'r 4 tîm oedd yn y rownd gyn-derfynol y flwyddyn gynt yn hepgor y rown gyntaf a mynd syth i Rownd 2. Mae'r dewis timau ar gyfer pob rownd yn rhanbarthol, gyda'r timau wedi eu rhannu rhwng y De a'r Gogledd.
Newidiwyd y fformat rhywfaint unwaith eto at 2018-19 gyda phob rownd hyd at y gêm gyn-derfynol yn rhai rhanbarthol a'r semi-ffeinal yn agored. Cynhelir y semi-ffeinal ar y penwythnos yn 2018-19 am y tro cyntaf, yn hytrach na chwarae ganol wythnos.
Hanes
golyguCP Afan Lido oedd enillwyr cyntaf y Gwpan yn 1992/93, gan guro C.P.D. Caersws 4–3 ar giciau o'r smotyn wedi iddynt gael gêm gyfartal 1–1 yn y ffeinal.[2] Clwb C.P.D. Y Seintiau Newydd sy'n dal y record ar gyfer y mwyaf o deitlau Cwpan Cynghrair gan ennill 6 cwpan. Mae C.P.D. Dinas Bangor wedi bod yn y mwyaf o gemau terfynol ond colli bob tro.
Datblygu
golyguCyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru bydd timau dan-21 oed C.P.D. Dinas Caerdydd a C.P.D. Dinas Abertawe yn cystadlu yng nghystadleuaeth 'cardyn hap' yn nhymor 2023-24. Bu Caerdydd yn chwarae C.P.D. Cambrian a Clydach ac Abertawe yn chwarae Caerfyrddin.[3]
Nawdd
golyguErs 2003 enwyd y Gwpan ar ôl y noddwyr:
- Cwpan Cynghrair Cymr Loosemores (2003 i 2012), noddwyd gan Cyfreithwyr Loosemores, Caerdydd
- Cwpan the Word, The Word Cup, (2012 i 2016), noddwyd gan theWord, cyflenwyrr telegyfathrebu i Gaerdydd
- Cwpan Nathaniel MG (2016 i'r presennol), noddwyd gan Nathaniel MG Cars, cwpan gwerthu ceir, Penybont-ar-Ogwr
Arian Nawdd
golyguGwerth cyfanswm y Gwpan yw £15,000. Bydd £1,000 yn mynd i'r timau cyn-derfynol; £3,000 i'r tîm sy'n ail a £10,000 i enillwyr y Cwpan.[1]
Enillwyr
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "The Loosemores League Cup". welshpremier.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-04. Cyrchwyd 23 December 2010.
- ↑ "Welsh League Cup Final – Match Report 1992/93". welsh-premier.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-01-24. Cyrchwyd 29 Awst 2009.
- ↑ Nodyn:Cite wen
- ↑ "List of Welsh League Cup Finals". The Rec.Sport.Soccer Statistics Foundation. Cyrchwyd 29 Awst 2009.
- ↑ "Welsh League Cup – All Time Results". welsh-premier.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-13. Cyrchwyd 7 Mai 2011.
- ↑ "Y Bala yn ennill Cwpan Nathaniel MG am y tro cyntaf yn eu hanes!". Sgorio ar Youtube. 2023.
Dolenni allanol
golygu- Tudalen Cwpan Nathaniel MG ar wefan [[Sgorio]