C.P.D. Prifysgol Met Caerdydd


Clwb pêl-droed Undeb Athletau Prifysgol Fetropolitan Caerdydd yng Nghaerdydd ydy C.P.D. Prifysgol Met Caerdydd (Saesneg: Cardiff Metropolitan University F.C.). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, y brif adran bêl-droed yng Nghymru.

Met Caerdydd
Enw llawn Clwb Pêl-droed Prifysgol Met Caerdydd
Llysenw(au) Met
Sefydlwyd 2000[1]
Maes Cyncoed
Rheolwr Baner Cymru Christian Edwards
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2022/22 7.

Ffurfiwyd y clwb yn 2000 wrth i glybiau Yr Athrofa ac Inter Caerdydd uno[1]. Newidiwyd yr enw i Met Caerdydd yn 2012.

Hanes golygu

Mae'r clwb wedi cael sawl enw yn ystod eu hanes gan adlewyrchu'r newidiadau i enw Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Fe'i sefydlwyd fel C.P.D. Coleg Addysg Caerdydd cyn dod yn C.P.D. Athrofa De Morgannwg ym 1979, C.P.D. Athrofa Caerdydd ym 1990 ac Yr Athrofa ym 1996[2].

Yn 2000 unodd C.P.D. Yr Athrofa gyda C.P.D. Inter Caerdydd er mwyn ffurfio C.P.D. Athrofa Inter Caerdydd gan newid eu henwau i C.P.D. Met Caerdydd yn 2012.

Yn 2014-15, llwyddodd Hwlffordd i rwystro Met rhag sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwrnod olaf y tymor[3], ond llwyddodd y clwb i sicrhau dyrchafiad wrth ennill Cynghrair Cymru (Y De) yn nhymor 2015-16[3].

Arwyddlun golygu

Mae arwyddlun trawiadol y Clwb yn dangos saethydd bwa saeth ar ffurf arwr Greogaidd gyda'r arwyddair,'I lwyddo, rhaid chwarae'.

Record yn Ewrop golygu

Canlyniadau i gyd (cartref ac oddi cartref) yn nodi goliau Caerdydd yn gyntaf.

As of 4 July 2019

Tymor Cystadleuaeth Cymal Clwb Cartref Oddi Cartref Agg.
1994–95 Cwpan UEFA PR   GKS Katowice 0–2 0–6 0–8
1997–98 Cwpan UEFA 1QR   Celtic 0–3 0–5 0–8
1999–2000 Cwpan UEFA QR   Gorica 1–0 0–2 1–2
2019–20 Cynghrair Europa UEFA PR   Progrès Niederkorn 2–1 0–1 2–2 (a)

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "UWIC Inter Cardiff". WelshPremier.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-20. Cyrchwyd 2016-08-22.
  2. "History: Met Cardiff". Welsh-Premier.com.[dolen marw]
  3. 3.0 3.1 "Cardiff Met FC: Welsh football's academics enjoy success at a price". BBCSport. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022

Aberystwyth | Caernarfon | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Hwlffordd | Met Caerdydd |
Pen-y-Bont | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Fflint | Y Seintiau Newydd