C.P.D. Rhydaman

clwb pêl-droed yng Nghymru

Mae C.P.D. Rhydaman (Ammanford A.F.C. yn Saesneg) yn glwb pêl-droed o dref Rhydaman, Sir Gaerfyrddin. Maen nhw'n chwarae yng adran Cymru South sef, ail lefel system byramid pêl-droed Cymru. Eu maes chwarae cartref yw Maes Hamdden (Y Rec), Rhydaman. Mae'r clwb yn gysylltiedig â Chymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Cymdeithas Bêl-droed Gorllewin Cymru (WWFA), Cynghrair Bêl-droed Cymru a Chynghrair Bêl-droed Cymdeithas Sir Gaerfyrddin. Yn 2019-20 buont yn un o glybiau sefydliedig Cymru South, sef, ail lefel system byramid newydd CBDC.

Rhydaman
Sefydlwyd1992
MaesY Rec, Rhydaman
CadeiryddAdrian Bailey
RheolwrGruff Harrison
CynghrairCymru South
2022/23Cynghrair Cymru (Y De) 10fed
GwefanGwefan y Clwb Hafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Slogan y clwb yw Un Clwb, Un Teulu.

Hanes golygu

Chwaraewyd pêl-droed cystadleuol ym mhlwyf Rhydaman a'r Betws yn y 1920au gan Ammanford Thursdays (a chwaraeodd pan fyddai siopau'r dref ar gau ar brynhawn Iau yn unig). Yn y 1930au chwaraeodd Corinthiaid Rhydaman (Ammanford Corinthians) ar Barc Betws. Sefydlwyd tîm pêl-droed Betws Blackbirds tua 1946, gan ymuno â Chynghrair Sir Gaerfyrddin yn ddiweddarach. Etholwyd y clwb i gynghrair Cymru ac ym 1952 fe gyrhaeddon nhw rownd derfynol Cwpan Amatur Gorllewin Cymru. Yn nhymor 1958/9 enillodd y tîm ddyrchafiad i'r Adran Gyntaf.[1]

Yn 1960 newidiodd y clwb eu henw i Ammanford Town, er mwyn osgoi dryswch â thimau a enwir yn yr un modd. Fe wnaethant uno ag Ammanford Athletic A.F.C. ym 1992, gan newid eu henw i Ammanford A.F.C..[1]

Cyrhaeddodd y clwb bedwaredd rownd Cwpan Cymru ym 1991 a'i gyrraedd yn rownd yr wyth olaf ym mis Chwefror 1999.[2]

Teledu golygu

Ym mis Mai 2019 rhanwyd fideo yn cyflwyno'r clwb i ddilynwyr Twitter y rhaglen bêl-droed Sgorio ar S4C.[3] gyda chyflwyniad gan, ymysg pobl eraill, Rhys Fisher, Capten y Clwb, Gruff Harrison, Rheolwg; Stephen 'Dougie' Davies a sawl cefnogwr arall.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 name=history>"Ammanford Town History". Ammanford A.F.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-29. Cyrchwyd 2014-11-19.
  2. "Football: Rain's strike sinks Barry; Welsh Cup Round-up". Sunday Mirror. London. 14 February 1999. Cyrchwyd 2014-11-18.
  3. https://twitter.com/sgorio/status/1126556906506604549

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.