C.P.D. Ton Pentre

clwb pêl-droed o'r Rhondda

Mae C.P.D. Ton Pentre (Saesneg: Ton Pentre FC) yn glwb pêl-droed wedi ei lleoli ym mhentref Ton Pentre yn Y Rhondda.

Enw llawn Ton Pentre Football Club
Llysenw(au) Rhondda Bulldogs
Sefydlwyd 1896 & 1935
Maes Parc Ynys, Ton Pentre
Rheolwr Kevin Richards
Cynghrair Cynghrair Cymru (Y De)
2017/2018 Cynghrair Cymru (Y De), 16eg
Gwefan Gwefan y clwb

Mae'n un o brif dimau Cynghrair Cymru (Y De) a'u llysenw yw'r "Rhondda Bulldogs". Eu cartref yr Parc Ynys, Ton Pentre, Rhondda Cynon Taf. Eu cit chwarae cartref yw coch i gyd a'r cit oddi cartref yw glas gyda manylion gwyn.

Sefydlwyd y clwb presennol ym 1935 ond ceir o leiaf dau glwb Ton Pentre F.C. cynharaf gan ddyddio nôl i o leiaf 1896, pan oedd Ton Pentre yn ynys o bêl-droed mewn môr o rygbi. Cyrhaeddodd un o'r timau cynnar yma i arddel enw C.P.D. Ton Pentre ffeinal Cwpan Cymru yn 1922. Dyma'r unig dro i'r clwb gyrraedd y ffeinal a gollasant 2 - 0 i C.P.D. Dinas Caerdydd. Chwaraewyd y gêm yn Nhonypandy.

Wedi'r Ail Ryfel Byd ail-luniwyd Cynghrair Cymru (cynghrair ar gyfer timau de Cymru. Ychwanegwyd ail adran gyda rhaniad gorllewin a dwyrain. Enillodd Ton Pentre bencampwriaeth gyntaf yr ail adran gorllewin.

Record Chwarae a Thlysau

golygu

Uwch Gynghrair Cymru

golygu

Gwahoddwyd Ton (fel y'i gelwir yn gyffredin) i fod yn un o glybiau sylfaen cynghrair genedlaethol newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 1992. Gwrthododd y clwb y gwahoddiad gan ddymuno esgyn i'r gynghrair ar sail eu cryfder chwarae. Esgynnodd Ton Pentref i'r gynghrair newydd y flwyddyn ganlynol.

Yn ystod y ddau dymor gyntaf yn y Gynghrair genedlaethol, cyrhaeddodd y tîm y drydedd safle gan chwarae yng Nghwmpan Intertoto UEFA yn 1995.

Cwpan Cymru

golygu

Dydy Ton Pentre erioed wedi ennill Cwpan Cymru ond maen nhw wedi gwneud eu marc.

Cyrhaeddodd y clwb y rownd gyn-derfynol gan golli i'r Barri 2-0 wedi amser ychwanegol ac i Gwmbrân 2-1 er iddynt fod ar y blaen hyd at wyth munud o'r diwedd. Petai Ton wedi dal eu gafael ar y fuddugoliaeth byddant wedi cystadlu yng Nghwpan UEFA gan i'r Barri ennill eu ll drwy eu safle yn y Gynghrair.

Darlledwyd gêm 3ydd rownd Cwpan Cymru rhwng Ton Pentre a C.P.D. Dinas Bangor ar 10 Rhagfyr 2016 yn fyw ar S4C.[1] (gohiriwyd y gêm o'r 6 Rhagfyr oherwydd tywydd garw). Collodd Ton y gêm.

Cwpan Lloegr

golygu

Ar 15 Tachwedd 1986 chwaraeodd Ton Pentre yn erbyn C.P.D. Dinas Caerdydd ar Parc Ynys yn rownd gyntaf cwpal F.A. Lloegr. Roedd y maes yn llawn gyda thorf o 2,800 a darlledwyd yr uchafbwyntiau ar raglen deledu 'Match of the Day'. Enillodd Caerdydd 1 - 4 gyda gôl gysur Ton yn cael ei sgorio gan Gareth Rees.

Cynghrair Cymru (Y De)

golygu

Ers 1996, enillodd Ton Pentre bencampwriaeth Cynghrair Cymru (y Welsh League) chwech gwaith mewn wyth mlynedd (1997/98, 1998/99, 1999/2000, 2000/01, 2001/02 a 2004/05).

Maent hefyd wedi ennill y 'dwbl' gan ennill Cwpan Her Cynghrair Cymru (Y De) hefyd.

Ar ddiwedd tymor 2009-2010 cwympodd y Clwb i Ail Adran Cynghrair Cymru, De.

Dyfodol

golygu

Er bod Ton Pentre wedi bod yn ddigon da i esgyn i Uwch Gynghrair Cymru maent wedi gwrthod gwneud hynny ar sawl achlysur oherwydd yr angen i sicrhau sail ariannol gref i'r clwb a hefyd buddsoddiad yn y maes ar Barc Ynys.

Anrhydeddau

golygu
  • Cynghrair Cymru (Y De) Pencampwyr (6) [Adran 1]: 1907–08, 1914–15, 1957–58, 1960–61, 1973–74, 1981–82
  • Cynghrair Cymru (Y De) (wedi ad-drefnu) Pencampwyr: (7) [Adran 2]: 1992–93, 1997–98, 1998–99, 1999–2000, 2000–01, 2001–02, 2004–05
  • Cwpan Cymru Ail: 1921–22

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu