C.P.D. Tref Aberdâr
Mae Tref Aberdâr neu Aberdâr (Saesneg: Aberdare Town FC) yn glwb pêl-droed sy'n chwarae yn Adran Dau Nghynghrair Cymru (Y De). Maent yn chwarae ar Parc Aberaman ger tref Aberdâr.
Enw llawn | Aberdare Town Football Club | ||
---|---|---|---|
Sefydlwyd | 1892 | ||
Maes | Parc Aberaman (sy'n dal: 3,000) | ||
Cadeirydd | Garry Williams | ||
Cynghrair | Adran Dau Cynghrair Cymru (Y De) | ||
2016-17 | Adran Dau Cynghrair Cymru (Y De), 7fed | ||
Gwefan | Hafan y clwb | ||
|
Hanes
golyguMae gan y clwb hanes hir, anrhydeddus a chymleth.
Sefydlwyd y clwb yn 1892 ac ymunodd gyda'r Southern League (un o brif gynghreiriau Lloegr ar y pryd oedd yn cynnwys nifer o dimau o Gymru) yn 1919. Yn 1920 newidiodd Aberdâr ei henw i Athletig Aberdâr (Aberdare Athledig FC). Cafwyd tân difrifol ar faes y clwb ym mis Tachwedd 1923 a difrodwyr popeth gan gynnwys citiau'r tîm. Yn ôl y sôn, cyfrannodd Casnewydd cit iddynt a dyna ddechrau gwisgo du a melyn gan Aberdâr. yn sgîl Dirwasgiad Fawr yr 1920au gwelodd y clwb amser caled a eilyddwyd hwy yn system Gynghrair Lloegr gan Torquay United yn 1927. Yn sgîl y trafferthion yma penderfynwyd uno gyda'r clwb cyfagos Aberaman (sydd yn yr un cwm, ac nid i'w ddrysu gyda'r Aman yn Sir Gaerfyrddin).
Mae gan y clwb hanes aflwyddiannus o geisio ymuno i greu un tîm gydag Athletig Aberaman.[1]
- 1926 - ymuno ag Aberdare Athletic, oedd yn Third Division South Lloegr, i greu Aberdare & Aberaman Athletic. Ond cwympodd y tîm allan o Gynghrair Loegr yn 1927 a daeth yr uniad i ben. Dad-gysylltodd Aberaman o'r uniad a dechrau cystadlu fel tîm arwahân unwaith eto. Aeth Aberdâr i ben fel tîm.
- Aberaman yn parhau i gystadleu fel tîm tan 1945 yna ail-unwyd Aberdâr ac Aberaman Athletic am yr ail dro. Parhaodd hyn am ddim ond dwy flynedd.
- Yn 1947 datgymalwyd yr uniad eto. Aeth Aberaman ei ffordd ei hun. Dyna'r drefn hyd heddiw.
- 2004 - 2009 - Mabwysiadwyd yr enw ENTO Aberaman Athletic oherwydd nawdd. Daeth y cytundeb i ben ar ddiwedd tymor 2008–09 ac aeth y clwb nôl i'w henw gwreiddiol.
- Tymor 2012–13 - mabwysiadodd y clwb yr enw C.P.D. Tref Aberdâr (Aberdare Town F.C.).
Parc Aberaman
golyguMaes cartref y clwb yw Parc Aberaman.[2] Lleolir Parc Aberaman ar Ffordd Caerdydd, rhwng pentrefi Aberaman ac Abercwmboi ger Aberdâr yng Nghwm Cynon, CF44 6HA. Symudwyd o Barc Ynys oedd yng nghanol tref Aberdâr, a bu'n gartref Aberdâr Athletig am gyfnod hir.
Mae gan y maes lif-oleadau, eisteddle pwrpasol 250 sedd a thŷ clwb gyda bar ac adnoddau llogi i'r cyhoedd.
Anrhydeddau
golyguGan mai dim ond ers 2012-13 mae C.P.D. Tref Aberdâr wedi ei ffurfio ar ei newydd wedd, nodir isod anrhydeddau'r ddau glwb rhiant, Aberdâr ac Aberaman:[3]
Fel Aberdâr Gwreiddiol
golygu- 1907, 1909, 1912, 1921 - Cynghrair Cymru (Y De) yr hen drefn - Pencampwyr
- 1904, 1905, 1923 - Cwpan Cymru, Ail
- 2018 - Cwpan Gilbert Morgan, Enillwyr
Fel Aberaman
golygu- 2009 - Cynghrair Cymru (Y De) - Pencampwyr
- 1936 - Cynghrair Cymru (Y De) yr hen drefn - Ail
- 1903 - Cwpan Cymru - Ail
- 1994 - Tlws CBDC - Ail
- 1939 - Cwpan Her Cymru - Ail
- 1913 - Cwpan Amatur Cymru - Ail
Cyn-chwaraewyr Nodedig
golygu- Bryn Jones - chwaraewr rhyngwladol i Gymru a werthwyd i Wolves ac yna Arsenal am record o ffî hyd at y dyddiad hwnnw, sef, £14,000.
- Alf Sherwood - o pentref cyfagos, Abercwmboi, a gynrychiolodd Caerdydd a Chymru. Mae un o gapiau Alf nawr yn y tŷ clwb, yn rhodd gan ei fab, Robert.
- Jack Smith - cyn chwaraewr i Aberaman ac Aberdâr, aeth ymlaen i fod yn reolwr llawn amser cyntaf erioed West Bromwich Albion yn 1948.[1]
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- Twydell, Dave (1988). Rejected F.C.: Comprehensive histories of the ex-Football League clubs, Volume 1. D. Twydell. ISBN 0-9513321-0-4.
- Nodyn:Fchd (cyn-2004, 2009–)
- Nodyn:Fchd (2004–2009)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 http://www.aberdaretownfc.co.uk/history.htm
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-02. Cyrchwyd 2018-11-26.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-16. Cyrchwyd 2018-11-26.