C.P.D. Penrhyncoch
Clwb pêl-droed o bentref Penrhyncoch, Ceredigion ydy Clwb Pêl-droed Penrhyncoch sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Penrhyncoch | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | (Roosters) | ||
Sefydlwyd | 1965[1] | ||
Maes | Cae Baker | ||
Rheolwr | ? | ||
|
Ffurfiwyd y clwb ym 1965[1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref yng Nghae Baker. Mae logo'r clwb yn defnyddo Llew Gwaithfoed a welir ar faner Ceredigion.
Hanes
golyguDechreuodd y clwb eu hanes yng Nghynghrair Aberystwyth a'r Cylch gan ennill y gyngharir am y tro cyntaf yn eu hanes ym 1971-72[2]. Ar ôl ennill pum pencampwriaeth mewn 10 mlynedd, cafodd y clwb eu derbyn i Ail Adran Cynghrair Canolbarth Cymru ym 1982-83 gan ennill yr Adran a sicrhau dyrchafiad i'r Adran Gyntaf[3].
Ym 1990 roedd y clwb yn un o aelodau gwreiddiol y Gynghrair Undebol[1][4] ond am resymau arianol, penderfynodd y clwb ddisgyn yn ôl i Gynghrair Canolbarth Cymru ym 1998-99[1].
Ar ôl cipio dwy bencampwriaeth Canolbarth Cymru mewn tair blynedd[5][6] penderfynodd y clwb wneud cais am ddyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Undebol ac, ar ôl gorffen yn ail i Ail Dîm Aberystwyth yn 2003-04, llwyddodd y clwb i esgyn yn ôl i ail reng pyramid pêl-droed Cymru[7].
Ar ôl 10 tymor yn y Gynghrair Undebol disgynodd y clwb yn ôl i Gynghrair Canolbarth Cymru[8] cyn llwyddo i ennill pencampwriaeth Cynghrair Canolbarth Cymru a dyrchafiad yn ôl i'r Gynghrair Undebol wrth ddathlu 50 mlynedd o fodolaeth yn 2015-16[1].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "History of Penrhyncoch FC". Penrhyncoch FC.[dolen farw]
- ↑ "Aberystwyth & District League 1971-72". Welsh Football Data Archive.
- ↑ "Mid Wales League 1982-83". Welsh Football Data Archive.
- ↑ "Cymru Alliance History". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 2018-11-26. Unknown parameter
|publiasher=
ignored (help) - ↑ "Mid Wales League 2001-02". Welsh Football Data Archive.
- ↑ "Mid Wales League 2002-03". Welsh Football Data Archive.
- ↑ "Mid Wales League 2003-04". Welsh Football Data Archive.
- ↑ "Table 2012-14". Huws Gray Alliance. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-11. Cyrchwyd 2016-08-23.
Cynghrair Undebol, 2018-19 | ||
---|---|---|
Airbus UK |
Bangor |
Bwcle |
Cegidfa |
Conwy |
Dinbych |
Gresffordd |
Hotspur Caergybi | |