Magi Dodd
Cyflwynydd radio a cynhyrchydd o Gymru oedd Magi Dodd (8 Mawrth 1977 – Medi 2021).
Magi Dodd | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mawrth 1977 |
Bu farw | Medi 2021 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd radio, cynhyrchydd radio |
Yn wreiddiol o Bontypridd, bu'n byw yn ddiweddarach yn Nhrelluest, Caerdydd.[1] Mynychodd Ysgol Gyfun Rhydfelen yn Nhrefforest ac astudio ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.[2]
Cyhoeddwyd ei marwolaeth ar 22 Medi 2021. Roedd yn 44 oed.[3]
Gyrfa
golyguDaeth yn llais cyfarwydd ar raglenni C2 ar BBC Radio Cymru, i ddechrau fel gohebydd cerdd a throslais. Rhwng 2007 a 2010, cyflwynodd Dodd y brif slot nosweithiol rhwng 8 a 10yh. Fe’i clywyd yn cyflwyno ochr yn ochr â Glyn Wise, chyn-gystadleuydd Big Brother.
Yn ddiweddarach, bu'n cyflwyno Dodd Com, sioe nosweithiol ar gyfer gwefan Radio Cymru,[4] a rhaglen Cwis Pop Radio Cymru, gyda Ifan Sion Davies.
Wedi hynny, canolbwyntiodd ar ei gwaith cynhyrchu ar gyfer yr orsaf, gan gynnwys rhaglenni fel Bore Cothi, y sioe frecwast ar Radio Cymru 2, a rhaglen Llais y Maes yn ystod y Eisteddfod Genedlaethol.[5]
Torri Tir Newydd
golyguFe'i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen (Ysgol Gyfun Garth Olwg bellach) ger Pontypridd. Fe achosodd ei hacen Rhydfelen beth gwrthwynebiad gan rai o wrandawyr Radio Cymru, tra bod eraill yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi clywed eu hacen ar yr orsaf genedlaethol.[6]
Magwyd Magi ar aelwyd ddwyieithog ac er bod ei mam yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg, atgofiodd Magi ei barn ar gerddoriaeth Gymraeg ar y pryd, "o ni'n meddwl bo pawb oedd yn canu Cymraeg yn swnio fel Mabstant neu Triban". Bu gwrando ar fandiau poblogaidd yr 1990au fel Jess a Beganifs yn "agoriad llygad iddi" pan oedd oddeutu 14 oed.[7]
Mewn cyfweliad i'r cylchgrawn Y Selar yn Awst 2009, mae'n nodi ei hoff 5 albwm oedd yn cynnwys: Ni oedd y Genod Droog gan y Genod Droog; Boomania gan Betty Boo; O'r Gâd - Casgliad Amlgyfranog Ankst; Way to Blue, an introduction to Nick Drake gan Nick Drake; a, Ffraeth gan y Beganifs.[8]
Teyrngedau
golyguYn ogystal â theyrngedau gan gydweithwyr yn BBC Radio Cymru derbyniodd Magi a'i theulu negeseuon o hiraeth gan aelodau'r cyhoedd a phobl amlwg yn y Gymru Gymraeg megis Carys Eleri, Glyn Wise a Label Pyst.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ivan Rodrigues (11 Hydref 2007). Magi’s radio show is on the move. Pontypridd Observer.
- ↑ "Tributes to Radio Cymru producer and presenter Magi Dodd". The National (yn Saesneg). 2021-09-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-23. Cyrchwyd 2021-09-23.
- ↑ "Y cyflwynydd a'r cynhyrchydd radio Magi Dodd wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2021-09-22. Cyrchwyd 2021-09-22.
- ↑ https://www.bbc.co.uk/radiocymru/c2/oriel/dodd_com/
- ↑ "Llais y Maes - Celtic Music Festival". 4 May 2018. Cyrchwyd 23 September 2021.
- ↑ https://twitter.com/math_jones/status/1440741610195603460
- ↑ https://issuu.com/y_selar/docs/y_selar_awst_09
- ↑ https://issuu.com/y_selar/docs/y_selar_awst_09
- ↑ https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/58643562
Dolenni allanol
golygu- Magi Dodd, C2, Radio Cymru Archifwyd 2010-02-07 yn y Peiriant Wayback