Caci
Lliw brown golau gydag arlliw gwyrdd neu felyn yw caci.[1] Defnyddir ar gyfer gwisgoedd y fyddin a chuddliw cerbydau milwrol.[2] Mae hefyd yn enw ar frethyn o'r un lliw, a wneir o gotwm, gwlân, neu gyfuniad ohonynt, a gyda ffibrau synthetig. Gwneir mewn nifer o wehyddiadau, megis sers.[3]
Math o gyfrwng | web color |
---|---|
Math | melyn, brown |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daw o'r gair Saesneg khaki, sydd yn dod o'r gair Hindi-Wrdw khākī, sef "llychlyd".[4] Rhoddwyd yr enw ar frethyn cotwm caerog[4] a gyflwynodd Syr Harry Burnett Lumsden a William Stephen Raikes Hodson ar gyfer lluoedd y Fyddin Brydeinig yn India ym 1848, a chydnabwyd yn addas iawn ar gyfer gwasanaeth yn y maes a'r maes brwydro. Wedi Gwrthryfel India 1857, daeth yn lliw swyddogol ar gyfer gwisgoedd lluoedd brodorol a threfedigaethol y Prydeinwyr yn India. Yn hwyrach cafodd caci ei fabwysiadu mewn rhannau eraill o'r Ymerodraeth Brydeinig, a gan wledydd eraill. Nid oedd caci cotwm yn addas i hinsawdd De Affrica yn ystod Ail Ryfel y Boer, felly cyflwynwyd sers gwlân neu wstid. Rhoddwyd arlliw olewydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf i guddio'n well yn erbyn y ddaear a deiliant.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [khaki].
- ↑ Richard Bowyer. Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 136.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) khaki (fabric). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Mehefin 2015.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) khaki. Oxford English Dictionary. Adalwyd ar 21 Mehefin 2015.