Sant Cymreig oedd Sant Cadfan (fl.550?) a sefydlodd yr eglwys yn Nhywyn, Gwynedd, a gysegrir iddo, ac ef oedd abad cyntaf Ynys Enlli.

Cadfan
Cadfan.JPG
Ganwyd 530 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw 590 Edit this on Wikidata (60 oed)
Cymru Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth offeiriad Catholig Edit this on Wikidata
Blodeuodd 550 Edit this on Wikidata
Swydd abad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 1 Tachwedd Edit this on Wikidata

Daw y rhan fwyaf o'r wybodaeth amdano o awdl Canu Cadfan gan Llywelyn Fardd yn y 12g. Mae traddodiad iddo arwain mintai o seintiau Cymreig i Lydaw a dywedir ei fod yn fab i Eneas y Llydawr. Yn ôl Llyfr Llandaf, hwylio i Dywyn o Armorica wnaeth ef a deuddeg arall. Yn ôl traddodiad Llydaw yw Armorica, er bod rhai yn cynnig mai o ysgol Gristnogol ar lan y môr ym Mhrydain y daeth, megis Llanilltud Fawr. Yn ôl traddodiad ei glas yn Nhywyn oedd y cyntaf a sefydlwyd ganddo yng Nghymru.

Cadfan ydyw nawddsant Llangadfan, Sir Drefaldwyn. Ei waith pennaf oedd sefydlu'r ‘clas’ yn Nhywyn, Meirionnydd; yr oedd i'r sefydliad hwn abad mor ddiweddar â 1147, ac yr oedd yno nifer o glerigwyr yn 1291. Tywyn oedd mam-eglwys pob rhan o Feirionnydd-is-Dysynni .

Ei ddydd gŵyl yw 1 Tachwedd.

Llefydd cysylltiedigGolygu

Rhestr Wicidata:

# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Carreg Cadfan 52°35′17″N 4°05′07″W / 52.588°N 4.0853°W / 52.588; -4.0853 Gwynedd Q10957107
2 Eglwys Sant Cadfan 52°35′17″N 4°05′07″W / 52.588°N 4.0853°W / 52.588; -4.0853 Gwynedd Q7592734
3 Llangadfan 52°41′11″N 3°27′45″W / 52.686281°N 3.462404°W / 52.686281; -3.462404 Powys Q6661409
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

LlyfryddiaethGolygu

  • S. Baring-Gould & John Fisher, The Lives of the British Saints, [4 vols.] (1907-1913), ii, 1-9;
  • J. E. Lloyd, A History of Wales, (1911): 490;
  • The Royal Commission on Ancient Monuments, An Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouthshire. VI - County of Merioneth. (1921), 170-4;
  • (Ll.G.C. MS. 6680), Llawysgrif Hendregadredd, 42-8.

Gweler hefydGolygu