Mathrafal

pentref bychan ym Cymru

Mathrafal (hefyd, erbyn heddiw, Castell Mathrafal) oedd prif lys brenhinoedd teyrnas Powys ac un o Dair Talaith Cymru, ynghyd ag Aberffraw a Dinefwr. Yno hefyd roedd eglwys bwysicaf y dalaith hyd y 13g. Roedd yn ganolfan weinyddol i gantref Caereinion yn ogystal.[1]

Mathrafal
Mathcastell, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6878°N 3.2865°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwMG044 Edit this on Wikidata
Arfbais Teyrnas Powys

Heddiw mae olion y safle i'w cael ar drwyn isel o dir ger aber Afon Banwy ac Afon Efyrnwy, 3 milltir i'r gogledd o bentref Llanfair Caereinion a 2 milltir i'r de o Feifod (tua 6 milltir i'r gorllewin o'r Trallwng), gogledd Powys. Ceir olion muriau pridd sylweddol ar ffurf sgwar amddiffynnol ar gefnen isel ar lan Afon Banwy. Fe'u atgyfnerthir gan ffos. Mae'r safle'n mesur tua 400 troedfedd ar draws ar ei letaf ac mae'r muriau'n amgau tua 100 medr sgwar o dir. Yn y gornel ddwyreiniol ceir adfeilion hen gastell Normanaidd (gweler isod).[2]

Credir i Fathafarn gael ei sefydlu fel prif lys Powys ar ôl i Bengwern gael ei chipio gan y Offa, brenin Mersia yn y 7g, digwyddiad a goffeir yn y cerddi enwog sy'n rhan o'r cylch sy'n adnabyddus dan yr enw 'Canu Llywarch Hen'. Mae Mathafarn yn gorwedd 7 milltir yn unig o Glawdd Offa.[1]

 
Maes Steddfod 2003, ar dir fferm Mathrafal

Cyfeirir at Fathrafal ym Mrut y Tywysogion am y flwyddyn 1212. Roedd yr arglwydd Normanaidd lleol Robert Vieuxpont wedi codi castell mwnt a beili ar gongl safle'r hen lys. Arweiniodd Llywelyn Fawr gyrch yn ei erbyn. Ni lwyddwyd ddinistrio'r castell ond cafodd ei ddifetha'n fwriadol wedyn ar orchymyn y brenin John o Loegr, a ofnai iddo syrthio i ddwylo'r Cymry. Ar ôl hynny symudodd y tywysog Gwenwynwyn ab Owain o Bowys, deiliad John, ei brif lys o Fathrafal i'r Trallwng.[1]

Ceir sawl cyfeiriad at Fathrafal yng ngwaith beirdd Cymraeg yr Oesoedd Canol, yn arbennig Beirdd y Tywysogion. Roedd y bardd enwog Cynddelw Brydydd Mawr yn gyfarwydd â Mathrafal a'i lys. Yn wir mae'n eithaf posibl ei fod yn trigo yno neu yn y cylch.

Cedwir yr enw 'Mathrafal' ar fferm fawr fymryn i'r gogledd o'r safle. Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2003 ar dir y fferm. Ceir yn ogystal y llecyn 'Ffridd Mathrafal' tua milltir i'r gorllewin, ar lethr bryn a goronir gan hen fryngaer.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988).
  2. N. Edwards ac A. Lane, Early Medieval Settlements in Wales Ad 400-1000 (Caerdydd a Bangor, 1988).