Calderdale

bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog

Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Calderdale.

Calderdale
Mathbwrdeistref fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGorllewin Swydd Efrog
PrifddinasHalifax Edit this on Wikidata
Poblogaeth210,082 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGorllewin Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd363.9608 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.72°N 1.97°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE08000033 Edit this on Wikidata
GB-CLD Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Calderdale Metropolitan Borough Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 364 km², gyda 211,455 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Bradford i'r gogledd-ddwyrain, Kirklees i'r de-ddwyrain, Manceinion Fwyaf i'r de-orllewin, a Swydd Gaerhirfryn i'r gogledd-orllewin.

Calderdale yng Ngorllewin Swydd Efrog

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.

Rhennir y fwrdeistref yn saith plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Halifax, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Brighouse, Elland, Hebden Bridge, Mytholmroyd, Sowerby Bridge a Todmorden.

Enwir y fwrdeistref ar ôl Afon Calder, y mae ei dyfroedd uchaf yn llifo trwyddi.

Cyfeiriadau

golygu
  1. City Population; adalwyd 1 Awst 2020