Kirklees
Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Kirklees.
![]() | |
Math | bwrdeistref fetropolitan ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Gorllewin Swydd Efrog |
Prifddinas | Huddersfield ![]() |
Poblogaeth | 438,727 ![]() |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Besançon, Bergkamen ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 408.5516 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 53.593°N 1.801°W ![]() |
Cod SYG | E08000034 ![]() |
GB-KIR ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Kirklees Metropolitan Borough Council ![]() |
![]() | |
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 409 km², gyda 439,787 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio Calderdale a Dinas Bradford i'r gogledd-orllewin, Dinas Leeds i'r gogledd-ddwyrain, Dinas Wakefield i'r dwyrain, De Swydd Efrog i'r de-ddwyrain, Swydd Derby i'r de, a Manceinion Fwyaf i'r gorllewin.

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn bum plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Huddersfield, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Batley, Cleckheaton, Dewsbury, Heckmondwike, Holmfirth, Meltham a Mirfield.
Enwir y fwrdeistref ar ôl Priordy Kirklees, sydd yng nghanol yr ardal.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 1 Awst 2020