Caleb Hillier Parry
Meddyg nodedig a aned yn Swydd Gaerloyw oedd Caleb Hillier Parry (21 Hydref 1755 – 9 Mawrth 1822); roedd o gefndir Cymreig. Mae'n cael ei adnabod fel awdur yr adroddiad cyntaf ar syndrom Parry-Romberg, a gyhoeddwyd ym 1815, yn ogystal â chyflwynydd un o'r disgrifiadau cynharaf o gyflwr llygatchwyddol a gyhoeddwyd ym 1825. Cafodd ei eni yn Cirencester, Lloegr ar 21 Hydref 1755 ac addysgwyd ef ym Mhrifysgol Caeredin. Bu farw yn 1822 yng Nghaerfaddon.
Caleb Hillier Parry | |
---|---|
Ganwyd | 21 Hydref 1755 Cirencester |
Bu farw | 9 Mawrth 1822 Caerfaddon |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg |
Tad | Joshua Parry |
Mam | Sarah Hillier |
Priod | Sarah Rigby |
Plant | Charles Henry Parry, Elizabeth Emma Parry, William Edward Parry, Mary Parry, Gertrude Trevor Parry |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Cefndir
golyguGaned Parry yn Cirencester, Swydd Gaerloyw, yn fab hynaf Joshua Parry, gweinidog anghydffurfiol Cymreig o Langan Sir Benfro a Sarah (née Hillier), ei wraig. Derbyniodd ei addysg mewn ysgol breifat yn Cirencester, ac ym 1770 aeth i Academi'r Anghydffurfwyr yn Warrington, lle bu'n astudio am dair blynedd. Ym 1773, dechreuodd Parry astudio meddygaeth yng Nghaeredin. Parhaodd â'i astudiaethau am ddwy flynedd yn Llundain, lle bu'n byw gyda Thomas Denman y meddyg obstetreg. Gan ddychwelyd i Gaeredin ym 1777, graddiodd Parry yn M.D. ym mis Mehefin 1778[1].
Gwobrau
golyguEnillodd Parry y gwobrau canlynol o ganlyniad i'w waith.
- Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Caleb Hiller Parry yn y DNB adalwyd 15 Chwefror 2018