Cambyses II, brenin Persia

brenin Persia, mab Cyrus Fawr
(Ailgyfeiriad o Cambyses II)

Cambyses II (Hen Berseg: Kambūjia, Perseg: کمبوجیه (bu farw 522 CC) oedd ail frenin yr Ymerodraeth Achaemenaidd.

Cambyses II, brenin Persia
Ganwyd559 CC Edit this on Wikidata
Ecbatana Edit this on Wikidata
Bu farw522 CC Edit this on Wikidata
o madredd Edit this on Wikidata
Ecbatana Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
SwyddUwch Frenin, King of Kings, Pharo Edit this on Wikidata
TadCyrus Fawr Edit this on Wikidata
MamCassandane Edit this on Wikidata
PriodAtossa, Roxane, Phaedymia Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllyn yr Achaemenid Edit this on Wikidata

Roedd Cambyses yn fab i Cyrus Fawr. Pan goncrodd Cyrus Babilon yn 539 CC, ceir Cambyses yn arwain y gwasanaethau crefyddol, ac roedd datganiad Cyrus i drigolion Babilon yn cynnwys enw Cambyses gyda'i dad yn y gweddïau i Marduk. Gelwir ef yn frenin Babilon ar un dabled. Yn 530 CC, cyn i Cyrus gychwyn ar ei ymgyrch olaf, gwnaeth ei fab yn gyd-frenin.

Yn 525 CC, ymgyrchodd Cambyses yn erbyn yr Aifft, lle'r oedd Amasis II newydd farw, ac wedi ei olynu gan ei fab, Psammetichus III. Gorchfygodd fyddin yr Aifft mewn brwydr ger Pelusium, ac yn fuan wedyn cipiodd ddinas Memphis. Daliwyd Psammetichus a'i ddienyddio wedi iddo wrthryfela. Ceisiodd Cambyses goncro Kush, teyrnasoedd Napata a Meroe yn ne yr hyn sy'n awr yn Sudan, ond bu raid iddo ddychwelyd wedi i'w fyddin fethu croesi'r anialwch. Ceir nifer o hanesion amdano gan Herodotus, lle ceir traddodiad iddo ladd tarw Apis, a chael ei gosbi trwy ei yrru'n wallgof. Dywed hefyd iddo yrru byddin o 50,000 i ymosod ar oracl Amun yn Siwa, ond i'r fyddin ddiflannu mewn storm dywod enfawr ar y ffordd.

Tra'r oedd Cambyses yn ymgyrchu, gwrthryfelodd ei frawd Smerdis (Bardiya) yn ei erbyn. Ceir yr hanes gan Darius, a ddaeth i'r orsedd o ganlyniad i'r digwyddiadau hyn. Dywed Darius i Cambyses gychwyn yn ôl i wrthwynebu Smerdis, ond iddo ei ladd ei hun pan welodd nad oedd gobaith iddo ennill. Dywed Herodotus iddo farw mewn damwain. Claddwyd ef yn Pasargadae.

Rhagflaenydd:
Cyrus Fawr
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia
530 CC - 522 CC
Olynydd:
Smerdis
Rhagflaenydd:
Psammetichus III
Brenin yr Aifft
525 CC - 522 CC
Olynydd:
Smerdis