Camille Paglia
Awdur a beirniad academaidd Americanaidd yw Camille Paglia (ganwyd 2 Ebrill 1947) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hanesydd celf, athro prifysgol, newyddiadurwr a beirniad ffilm. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Sexual Personae. Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o'r Blaid Ddemocrataidd. Mae Paglia wedi bod yn athro ym Mhrifysgol y Celfyddydau yn Philadelphia, Pennsylvania, er 1984.
Camille Paglia | |
---|---|
Ganwyd | Camille Anna Paglia 2 Ebrill 1947 Endicott |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd celf, athro cadeiriol, llenor, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, beirniad ffilm, awdur ysgrifau, academydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Sexual Personae |
Prif ddylanwad | Betty Friedan, Simone de Beauvoir |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Mudiad | anffyddiaeth |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Athenaeum |
Ysgrifennodd yn feirniaidol ar lawer o agweddau ar ddiwylliant fodern ac ar ffeministiaeth gyfoes America ôl-strwythuraeth (post-structuralism ) yn ogystal â sylwebaeth ar sawl agwedd ar ddiwylliant America fel celf weledol, cerddoriaeth, a hanes ffilm.
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Yale a Phrifysgol Binghamton. [1][2]
Magwraeth
golyguFe'i ganed yn Endicott, Efrog Newydd, yn blentyn hynaf i Pasquale a Lydia Anne (g. Colapietro) Paglia. Ganwyd pob un o'i phedwar taid a nain yn yr Eidal.[3] Ymfudodd ei mam i'r Unol Daleithiau yn bum mlwydd oed o Ceccano, yn nhalaith Frosinone, Lazio, yr Eidal.[4]
Bu ei thad, cyn-filwr yr Ail Ryfel Byd, yn dysgu yn ysgol uwchradd Academi Rhydychen, a chyflwynodd ei ferch ifanc i gelf trwy lyfrau am hanes celf Ffrainc. Ym 1957, symudodd ei theulu i Syracuse, Efrog Newydd, fel y gallai ei thad ddechrau gweithio mewn ysgol i raddedigion; yn y pen draw daeth ef yn athro ieithoedd Romáwns yng Ngholeg Le Moyne.[5]
Oedolyn
golyguAm fwy na degawd, roedd Paglia yn bartner i'r artist Alison Maddex.[6][7] Yn gyfreithiol, mabwysiadodd Paglia fab Maddex (a anwyd yn 2002). Yn 2007 gwahanodd y cwpl ond arhosodd y ddau gyda'i gilydd yn "gyd-rieni cytûn," yng ngeiriau Paglia, "a oedd yn byw dwy filltir ar wahân".[8][9]
Mae Paglia yn disgrifio'i hun fel person trawsryweddol a nododd nad yw "erioed wedi uniaethu o gwbl â bod yn fenyw".[10][11][12][13][14][15]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Lenyddol Athenaeum (1990)[16] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Galwedigaeth: Muck Rack. dyddiad cyrchiad: 3 Ebrill 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 17 Rhagfyr 2022.
- ↑ Anrhydeddau: http://web3.philaathenaeum.org/literary.html. dyddiad cyrchiad: 19 Awst 2022.
- ↑ Patterson, Christina (2012-08-25). "Camille Paglia - 'I don't get along with lesbians at all. They don't like me, and I don't like them'". The Independent (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-15. Cyrchwyd 2017-05-30.
- ↑ https://youtube.com/pg0hPidLPCk?t=41m37s[dolen farw]
- ↑ Duffy, Martha (13 Ionawr 1992). "The Bête Noire of Feminism: Camille Paglia". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-08-25. Cyrchwyd 2019-08-15.
- ↑
Hamilton, William L (11 Mawrth 1999). "In a New Museum, a Blue Period". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ionawr 2013. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Lauerman, Kerry (7 Ebrill 2005). "Camille Paglia: Warrior for the word". Salon. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-01-23. Cyrchwyd 2019-08-15.
- ↑ Wente, Margaret (18 Hydref 2007). "Camille Paglia: Hillary Clinton can't win – and shouldn't". The Globe and Mail. Toronto.
- ↑ "Camille Paglia: Gay Activists 'Childish' for Demanding Rights". Towleroad. 25 Mehefin 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-01. Cyrchwyd 28 Mehefin 2012.
- ↑ Rhyw: https://www.theatlantic.com/ideas/archive/2019/05/camille-paglia-uarts-left-deplatform/587125/. https://web.archive.org/web/20201019101729/https://www.washingtonexaminer.com/tag/donald-trump?source=%2Fweekly-standard%2Fcamille-paglia-on-trump-democrats-transgenderism-and-islamist-terror. https://www.wsj.com/articles/a-feminist-capitalist-professor-under-fire-11567201511.
- ↑ Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 13 Awst 2015. "Camille Paglia". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Camille Paglia". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Camille Paglia". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Grwp ethnig: https://www.thefamouspeople.com/profiles/camille-anna-paglia-958.php. dyddiad cyrchiad: 19 Awst 2022.
- ↑ "Modern Times: Camille Paglia & Jordan B Peterson" – drwy YouTube.
- ↑ "Camille Paglia on her controversial feminism". 7 Mai 2017 – drwy YouTube.
- ↑ "Camille Paglia: I am transgender, but sceptical about "transgender wave"". Marriage Alliance. 28 Mehefin 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-26. Cyrchwyd 11 Ebrill 2018.
- ↑ http://web3.philaathenaeum.org/literary.html. dyddiad cyrchiad: 19 Awst 2022.