Caniadau Buddug
Mae Caniadau Buddug yn gyfrol o gerddi gan Catherine Jane Pritchard (née Prys 1842 –1909). Un o Gaergybi oedd Buddug ac roedd yn aelod o deulu o feirdd. Ei thad oedd Robert John Pryse ("Gweirydd ap Rhys") a'i brawd oedd John Robert Pryse ("Golyddan"). Roedd yn briod a'r bardd Owen Prichard (Cybi Velyn).[1]
Math o gyfrwng | gwaith llenyddol |
---|---|
Golygydd | Owen Morgan Edwards |
Awdur | Catherine Prichard |
Gwlad | Cymru |
Rhan o | Llyfrau ab Owen |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1911 |
Genre | barddoniaeth |
Cybi Velyn gasglodd y cerddi hyn ar ôl marwolaeth Catherine, ei wraig, gan eu cyflwyno i Syr Owen Morgan Edwards i'w cyhoeddi fel rhan o'i gyfres poced-dîn boblogaidd Llyfrau Ab Owen. Argraffwyd y gyfrol gan "Swyddfa Cymru", Caernarfon ym 1911.
Roedd Buddug yn cefnogi safle'r ferch fel un gyfartal mewn cymdeithas: mae ei chaneuon i Ann Griffiths a Cranogwen yn y gyfrol yn amlygu hyn.
“ | "Pwy bellach faidd wadu nas gall arucheledd A mawredd meddyliol breswylio mewn merch?" |
” |
Fel cynifer o ferched a ddaeth i amlygrwydd cenedlaethol yn y cyfnod hwn, daeth ei chyfle trwy'r mudiad dirwest, ac mae llawer o'i chaneuon yn rhai sy'n clodfori dirwest.
Cân enwocaf Buddug, mae'n debyg, yw O Na Fyddai'n Haf o Hyd, cân sy'n cael ei chanu fel cân fugeiliol o glod i'r hâf bellach, ond un a ysgrifennwyd yn wreiddiol fel cân bruddglwyfus uwchben gwely angau ei mam.[2]
Mae copi o Caniadau Buddug ar gael ar Wicidestun.
Y cerddi
golyguGweler Rhestr o gerddi yn y llyfr Caniadau Buddug
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "PRYSE, ROBERT JOHN ('Gweirydd ap Rhys '; 1807-1889), hanesydd a llenor | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-11-30.
- ↑ "Caniadau Buddug/Rhagymadrodd - Wicidestun". cy.wikisource.org. Cyrchwyd 2021-11-30.