Canolfan Maendy
Canolfan hamdden yn ardal Maendy, ger Cathays, Caerdydd, yw Canolfan Maendy, a adnabyddwyd gynt fel Stadiwm Maendy, mae'n cynnwys trac seiclo a phwll nofio dan do. Defnyddiwyd y trac seiclo yn Gemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad 1958 ac agorwyd y pwll nofio yn 1993.[1]
Math | lleoliad chwaraeon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4968°N 3.19°W |
Cyfleusterau
golyguNid yw'r trac seiclo 460 medr o hyd dan do, ond mae llifoleuadau yn galluogi defnyddio'r trac gyda'r hwyr, yn enwedig yn y gaeaf. Mae'n adnabyddus am fod ychydig yn anwastad, achoswyd hyn gan ymsuddiant, gan yr adeiladwyd ar safle hen domen sbwriel. Ar un adeg roedd trac rhedeg colsyn â chwe lôn wedi ei leoli o fewn y trac seiclo, ond tynnwyd hwn a'i ddisodli gan faes pêl-droed maint llawn.[1] Roedd cryn nifer o seddi ac ardal wedi ei orchuddio a blwch beirniaid yn yr 1960au, erbyn hyn mae llethr wedi ei orchuddio gyda glaswellt tu ôl i ran syth cefn y trac.[2] Y pryd hynnu, lleolwyd y llinell orffen ar yr ochr cyferbyniol iw lleoliad presennol.
Mae Maendy ynh parhau i gael ei ddefnyddio'n helaeth ar gyfer ymarfer a rasio ac yn gartref i nifer o ddigwyddiadau megis y Cardiff International Grand Prix.[3] Defnyddir yn arbennig ar gyfer hyfforddi plant ifanc i reidio beiciau ac i reidio ar drac. Mae'n 460 medr o hyd oamgylch y llinell datum a gyda llethrau 25 gradd ym mhob pen,[4] felly nid yw mor serth a'r rhan helaeth o draciau, ac felly'n berffaith ar gyfer dysgu. Mae'r arwyneb asffalt (concrid gynt), yn galluogi i'r trac gael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddi a rasio gyda beiciau ffordd yn ystod y gaeaf, yn hytrach na beiciau trac.
Cafodd y trac wyneb newydd yn gymharol ddiweddar, a disodlwyd y wyneb adnabyddadwy coch gyda asffalt du,[4] daeth yr arian ar gyfer gwneud hyn o gronfa goffa Eddie Smart.
Sefydlwyd clwb seiclo plant y Maindy Flyers er mwyn hybu a chefnogi seiclo ar gyfer plant ac mae'r clwb wedi ei seilio yn y stadiwm. Mae rhai o gyn-aelodau'r clwb yn cynnwys y seiclwr proffesiynol Cymreig, Geraint Thomas. Cynhaliwyd Pencampwriaethau Cenedlaethol Derny Prydain yno yn 2007, a bu rhai o gyn-aelodau'r clwb yn fuddugol, daeth Alex Greenfield a Katie Curtis yn ail ac yn drydydd, a daeth Matthew Rowe yn drydydd ym mhencampwriaeth y dynion.
Mae pwll nofio 25 medr o hyd gyda 6 lôn yng Nghanolfan Maendy. Agorwyd hwn yn 1993. Mae hefyd maes pêl-droed pump bob ochr.[1]
Cynhaliwyd gemau paffio yn Stadiwm Maendy rhwng Mai 1935 a Gorffennaf 1963.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 Maindy Centre. Cardiff Council.
- ↑ Photo of Cardiff, Maindy Stadium c1960. Francis Frith.
- ↑ 2008 Track Major Events Calendar. British Cycling (11 Ionawr 2008).
- ↑ 4.0 4.1 Bicycle Tracks & Velodromes. Bike Cult (25 Gorffennaf 2005).
- ↑ Maindy Stadium, Cardiff, Wales, United Kingdom. BoxRec (2 Ebrill 2011).