Geraint Thomas

seiclwr o Gymru

Seiclwr Cymreig, proffesiynol ydy Geraint Howell Thomas, OBE (ganwyd 25 Mai 1986), sydd yn aelod o Team Sky ar Gylchdaith Proffesiynol yr UCI.

Geraint Thomas
Thomas yn Harelbeke 2015
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnGeraint Howell Thomas
LlysenwGez, G, Crazy G, G Man
Ganwyd (1986-05-25) 25 Mai 1986 (37 oed)
Caerdydd
Taldra1.83 m (6 ft 0 in)[1]
Pwysau70 kg (154 lb; 11 st 0 lb)[1]
Gwybodaeth tîm
Tim presennolIneos Grenadiers
DisgyblaethFfordd a trac
RôlReidiwr
Math reidiwrAmryddawn (ffordd)
Ymlidwr (trac)
Tîm(au) amatur
0Maindy Flyers Youth Cycling Club /CC Cardiff
0Cardiff JIF
2005Team Wiesenhof (stagiaire)
2006Saunier Duval–Prodir (stagiaire)
Tîm(au) proffesiynol
2006Recycling.co.uk
2007–2009Barloworld
2010–2019Team Sky
2019-Ineos Grenadiers
Prif fuddugoliaethau
Teithiau Mawr
Tour de France
Dosbarthiad cyffredinol (2018)
3 cymal unigol (2017, 2018)

Cymalau ras

Critérium du Dauphiné (2018)
Paris–Nice (2016)
Bayern–Rundfahrt (2011, 2014)
Volta ao Algarve (2015, 2016)
Tour of the Alps (2017)

Rasus undydd a Clasuron

Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd (2010)
Pencampwriaethau Cenedlaethol Treial Amser (2018)
E3 Harelbeke (2015)

Mae Thomas wedi profi llwyddiant ar y trac ac ar y ffordd gan ennill Pencampwriaethau Trac y Byd a medal aur Olympaidd yn y Ras Ymlid i dimau yn Ngemau Olympaidd 2008 a 2012. Ar y ffordd mae wedi ennill ras y Junior Paris-Roubaix yn 2004, Pencampwriaethau Cenedlaethol Prydain yn 2010, medal aur yn Ras Lôn Gemau'r Gymanwlad 2014, ras Bayern-Rundfart yn 2011 a 2014, Ras E3 Harelbeke yn 2015, Paris–Nice yn 2016, Tour of the Alps yn 2017 a'r Critérium du Dauphiné yn 2018.

Yn 2017 daeth Thomas y Cymro cyntaf erioed a dim ond yr wythfed beiciwr o Ynysoedd Prydain i wisgo'r siwmper felen yn y Tour de France ond bu rhaid iddo adael y ras yn gynnar ar ôl torri pont ei ysgwydd mewn damwain ar y nawfed cymal[2].

Yn Tour de France 2018, cymerodd Thomas y crys melyn ar ôl ennill cymal 11, gan arwain y daith ers hynny. Cwblhaodd y cymal olaf o Houilles i Baris yn llwyddiannus, gan ddod y Cymro cyntaf i ennill y ras, a'r trydydd o wledydd Prydain.[3] Ar 16 Rhagfyr 2018, enillodd wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC, y Cymro cyntaf i ennill ers Ryan Giggs yn 2009.

Bywgraffiad golygu

Bywyd cynnar golygu

 
Geraint yn Cystadlu yn Ras Dringo Allt BSCA, Tongwynlais, 2001.

Ganwyd Thomas yng Nghaerdydd, Cymru, yn fab hynaf i Howell Thomas, mab ffermwr o Bancyfelin, Sir Gaerfyrddin,[4] ac yn frawd i Alun Lloyd Thomas. Magwyd yn ardal Llwyn Fedw ger yr Eglwys Newydd, mynychodd Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Dechreuodd seiclo gyda chlwb "Maindy Flyers Cycling Club" yn Canolfan Maendy pan yn 10 oed,[5] cyn mynd ymlaen i reidio dros glybiau lleol eraill, "Cycling Club Cardiff" a "Cardiff Just in Front". Cafodd lwyddiant mewn rasys ar gyfer rhai o dan 14 ac o dan 16 oed, gan gynnwys pencampwriaethau cenedlaethol Prydain, ond dechreuwyd sylwi ar ei botensial pan enillodd fedal arian yn y ras bwyntiau yn y pencampwriaethau Ewropeaidd.[6]

Bywyd personol golygu

Cyfarfu Thomas ei wraig, Sara Elen Thomas, drwy ffrind.[7] Priododd y cwpl yng Nghymru yn Hydref 2016 a maent yn byw yn Monaco,

Gyrfa golygu

Daeth Thomas yn aelod o Academi Olympaidd British Cycling. Enillodd Wobr Iau Carwyn James yn seremoni Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru. Gwnaeth gystadlu mewn rasys Cwpan y Byd o amgylch y byd. Fe gafodd ddamwain wrth ymarfer yn Sydney, Awstralia ym mis Chwefror 2005 ar ôl i'r reidiwr o'i flaen daro darn o fetel a gadawodd ei fflicio i olwyn Thomas. Dioddefodd o waedu mewnol ar ôl i ddarn o fetel fynd i'w gorff pan ddisgynnodd, torlengigodd ei ddueg, a bu'n rhaid cael llawdriniaeth i'w dynnu.[8][9]

Yn 2006, reidiodd y rhan fwyaf o'i rasus dros dîm Recycling.co.uk, ond tuag at ddiwedd 2006 ymunodd â Saunier Duval-Prodir. Reidiodd rai rasus hefyd dros Brydain, er enghraifft Tour of Britain.

Bu Geraint yn byw ac yn ymarfer yn Toscana yn yr Eidal, ynghyd â sawl seiclwr proffesiynol arall Prydeinig megis Mark Cavendish. Bydd seiclwyr proffesiynol yn ymarfer yn rheolaidd yn Awstralia er mwyn manteisio ar y tywydd.

2007 golygu

 
Thomas yng nghymal cyntaf Tour de France 2007.

Thomas oedd y reidiwr ifancaf yn Tour de France 2007, wedi i'w dîm Barloworld, gael un o'r tri safle wildcard sydd yn cael eu neilltuo ar gyfer y ras. Gorffennodd Geraint y Tour de France yn yr 140fed safle allan o 141,[10] wedi ugain niwrnod o rasio, er nad oedd disgwyl iddo wneud hynny ar y cynnig cyntaf. Honnir gan amryw mai hon yw'r ras seiclo ffordd, galetaf i gyd.. Geraint oedd y Cymro cyntaf i gymryd rhan yn y ras ers Colin Lewis yn 1968, a'r Cymro cyntaf i orffen y ras ras.[11] Derbyniodd gryn gefnogaeth gan ei gefnogwyr Cymreig yn y seremoni agoriadol yn Llundain, gyda nifer ohonynt yn mynd ymlaen i ddilyn yr holl ras.[12]

Fe dreuliodd Geraint chwe wythnos yn ymarfer yn Mherth, Awstralia yng ngaeaf 2007.[11] Enwebwyd ef ar gyfer gwobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn 2007, datganwyd yr enillwyr ar y teledu ar y 2 Rhagfyr a chafodd Geraint ei bleidleisio i'r drydydd safle gan y cyhoedd.[13]

2008 golygu

Ni chystadlodd Thomas yn Tour de France 2008, yn hytrach cystadlodd yn y Giro d'Italia yn gynharach yn y tymor cyn dychwelyd i Brydain er mwyn canolbwyntio ar baratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd 2008.[14] Wedi darganfod na fyddai baneri gwledydd nad oedd yn cymryd rhan o dan eu henwau eu hunain yn cael eu caniatáu yn y Gemau, dywedodd Thomas:

"It would be great to do a lap of honour draped in the Welsh flag if I win a gold medal, and I'm very disappointed if this rule means that would not be possible."[15][16]

Ar 17 Awst, roedd Thomas yn aelod o'r sgwad tîm dilyn a dorrodd record y byd yn y rowndiau cyn-derfynol yn y Gemau Olympaidd gydag amser o 3:55:202, gan guro eu gwrthwynebwyr Rwsiaiddyn gyfforddus i fynd ymlaen i'r rownd derfynol i gystadlu am yr aur a'r arian.[17] Y diwrnod canlynol, ar eu ffordd i ennill y fedal aur, torrodd y tîm Prydeinig record y byd eu hunain, gan osod amser newydd o 3:53:314, a churo eu gwrthwynebwyr Danaidd o 6.7 eiliad.[18] Roedd Thomas wedi bod yn un o'r cystadleuwyr posibl ar gyfer y dilyn unigol, ond penderfynodd beidio â chystadlu yn y ddwy gystadleuaeth gan nad oedd eisiau peryglu ymdrechion ei dîm. Roedd hefyd wedi cael ei gysidro i gystadlu yn y Madison gyda Bradley Wiggins, ond dewiswyd Mark Cavendish yn y pen draw; dywedodd Chris Boardman fod "Geraint keeps surpassing people's expectations".[19]

Yn dilyn diarddeliad ei gyd-aelod tîm Barloworld, Moises Duenas, o'r Tour de France, datgelodd Thomas ei farn cryf yn erbyn defnydd cyffuriau yn ei flog ar y wefan BBC 606: "..if someone is fraudulent in a business, wouldn’t they be facing a prison term? I don’t see how riders taking drugs to win races and lying to their teams is any different. Bang them up and throw away the key!"[20]

2009 golygu

Apwyntiwyd ef yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd yn 2009.[21]. Fe'i dyrchafwyd yn OBE yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd yn 2019[22]

Ni chafodd Thomas ddechrau da iawn i'w dymor rasio yn 2009, pan dorrodd ei belfis a'i drwy wrth ddisgyn ar ôl cam-farnu cornel a tharo'r barier diogelwch mewn cymal treial amser o'r Tirreno-Adriatico yn Macerata, yr Eidal. Daeth yn ddamwain yn fuan wedi i siec amser 8 km ddangos mai ef oedd yr ail cyflymaf ar y ffordd. Er y bu iddo allu dychwelyd i westy ei dîm o'r ysbyty'r un diwrnod, gorfodwyd iddo gymryd 20 diwrnod o orffwys cyfan gwbl cyn gallu dychwelyd at ymarfer.[23][24]

Ar 30 Hydref 2009, gosododd Thomas yr amser cyflymaf yn y dilyn o dan y rheolau presennol, pan gyflawnodd 4 km mewn 4 munud 15.105 eiliad yn rownd gyntaf y 2009–2010 UCI Track Cycling World Cup Classics yn Velodrome Manceinion. Rhagorir yr amser hwn gan Chris Boardman yn unig, gydag amser o 4 munud 11.114 eiliad, a osodwyd ym 1996 mewn safle ar y beic sydd eisoes wedi cael ei wahardd.[25] Ar 1 Tachwedd, ar ddiwrnod olaf y rownd hon o Gwpan y Byd, roedd Thomas yn aelod o'r sgwad dilyn tîm a osododd yr amser ail-gyflymaf yn y byd tra ar eu ffordd i ennill y fedal aur, gan osod record trac newydd yn y broses o 3:54.395.[26]

Daeth Thomas yn ail i Ryan Giggs yng ngwobr Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru yn 2009, wedi i'r enillwyr gael eu datgan ar 8 Rhagfyr.[27]

Gadawodd Thomas dîm Barloworld ar ddiwedd 2009 i ymuno â thîm proffesiynol newydd Prydeinig, sef Team Sky.[25]

2010 golygu

 
Geraint Thomas yn Tour de France 2010.

Dechreuodd Thomas ei dymor rasio yn 2010 fel aelod dîm treial amser Sky yn y Tour of Qatar. Wedi cystadlu yng nghlasuron seiclo'r gwanwyn, daeth i sylw gan orffen y Critérium du Dauphiné, gan orffen yn y deg uchaf yn y pedwar cymal cyntaf. Oherwydd hyn, fe oedd arweinydd y gystadleuaeth bwyntiau a gwisgodd y Crys Gwyrdd yng nghymalau dau, pedwar a chwech. Erbyn diwedd y ras, roed yn bumed yn y gystadleuaeth a 21ain yn y dosbarthiad cyffredinol.

Curodd Thomas ei gyd-aelod tîm, Peter Kennaugh, i ennill Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain 2010. Roedd mewn siâp da, a pharhaodd hyn drwy Tour de France 2010, lle gorffennodd yn bumed yn y Prologue ac ail yn y trydydd cymal, felly arweiniodd y gystadleuaeth reidiwr ifanc a gwisgo'r crys gwyn wedi'r trydydd cymal.

2011 golygu

Dechreuodd Thomas dymor rasio 2011 gyda perfformiadau addawol, gan gynnwys chweched safle yn y Classica Sarda ac ail yn y Dwars door Vlaanderen.[28] Cipiodd ei fuddugoliaeth proffesiynol cyntaf ym mis Mai 2011, gan ennill ras pum diwrnod Bayern-Rundfahrt,[29] wedi iddo orffen yn ail ar gymal 3, a pumed ar gymal 4. Ar 26 Mehefin 2011, daeth Thomas yn ail i Bradley Wiggins ym Mhencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain 2011.[30]

Arweiniodd Thomas y gystadleuaeth reidiwr ifanc unwaith eto yn Tour de France 2011, gan gwisgo'r crys gwyn wedi'r cymal cyntaf, a hyd y seithfed cymal. Yng nghymal 12, bu'n un o chwe reidiwr i ddianc oddi ar flaen y peleton wedi dim ond 2 km o'r cymal 211 km o Cugnaux i Luz-Ardiden. Ar un adeg roedd 7 munud o flaen y peleton ac yn arwain y ras fel oedd hi ar y ffordd. Cafodd ei ddal 7 km o ddiwedd y cymal ac enillodd y Wobr Brwydrol y cymal.[31] Gorffennodd y ras yn 31af, ei safle gorau yn y ras hyd yn hyn.

Bu Thomas yn llwyddiannus yn y Tour of Britain, gan ennill y dosbarthiad pwyntiau, a bu mewn safle uchel ar y dosbarthiad cyffredinol cyn iddo gael damwain a cholli amser. Roedd yn aelod o dîm Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Rasio Ffordd y Byd, gan arwain Mark Cavendish at ei fuddugoliaeth.

2012 golygu

Canolbwyntiodd Thomas ar rasio ar y trac ar gyfer tymor 2012 gan anelu at Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain[32]. O'r herwydd, Giro d'Italia 2012 oedd ei unig brif ras yn ystod y tymor ond roedd yn rhan o dîm Team Sky sicrhaodd fuddugoliaeth i Bradley Wiggins yn ras Paris-Nice[33][34].

Ar 4 Ebrill roedd yn aelod o dîm trac Prydain dorrodd record byd yn y ras ymlid wrth ennill medal aur ym Mhencampwriaethau Trac y Byd ym Melbourne[35] a chasglodd fedal arian gyda Ben Swift yn y madison[36].

Ar ôl ennill cymal agoriadol y Tour de Romandie [37] gorffennodd yn ail yng nghymal agoriadol yn erbyn y cloc y Giro d'Italia a hefyd yn ail yng nghymal ola'r Giro yn erbyn y cloc[38][39]

Cafodd Thomas ei ddewis yn aelod o dîm Ras Ymlid Prydain ar gyfer Gemau Olympaidd 2012 ynghyd â Steven Burke, Ed Clancy a Peter Kennaugh. Ar ôl torri'r record byd yng nghymal cyntaf y gystadleuaeth gosodwyd, llwyddodd y pedwarawd i dorri'r record unwaith eto yn y rownd derfynol yn erbyn Awstralia er mwyn cipio'r fedal aur[40][41]

2013 golygu

Dechreuodd Thomas dymor 2013 gyda'r Tour Down Under. Llwyddodd i ennill Cymal 2 a dal ar siwmper arweinydd y ras hyd nes y cymal olaf ond un. Gorffennodd yn drydydd, 25 eiliad tu ôl i'r Iseldirwr, Tom-Jelte Slagter, gan ennill y dosbarth pwyntiau[42].

Cafodd ei ddewis fel arweinydd Team Sky yn rasys y Clasuron ond heb llawer o lwyddiant. Gorffennodd yn ail yn Bayern-Rundfahrt ac yn 15ed yn y Critérium du Dauphiné wrth i Chris Froome a Richie Porte orffen yn gyntaf ac yn ail i Team Sky.

Cafodd ei ddewis i rasio yn Tour de France 2013 ac er iddo dorri ei belfis mewn damwain hegar ar y cymal cyntaf, parhaodd i rasio gan orffen yn y 140ed safle wrth i Team Sky sicrhau buddugoliaeth i Froome[43]

2014 golygu

 
Thomas yn dilyn ymosodiad gan Tom Boonen yn y Paris Roubaix 2014

Unwaith eto, dechreuodd Thomas ei dymor yn y Tour Down Under mewn rôl domestique i Richie Porte, a gorffennodd yn wythfed. Roedd Thomas i fod i gefnogi Porte yn y Paris–Nice hefyd ond yn dilyn anaf i Chris Froome cafodd porte ei symud i rasio yn y Tirreno–Adriatico gan adael Thomas i arwain Team Sky yn Ffrainc. Llwyddodd i fachu'r maillot jaune ar y pedwerydd cymal cyn disgyn i'r ail safle erbyn y chweched cymal. Cafodd ddamwain mawr ar y seithfed cymal welodd o'n gorffen dros saith munud tu ôl i'r ceffylau blaen, ac ni gymrodd rhan yn y cymal olaf.

Dechreuodd tymor y Clasuron yn gryf gan orffen yn drydydd yn y E3 Harelbeke cyn arwain Team Sky yn y Tour of Flanders lle gorffennodd yn wythfed, 47 eiliad tu ôl i Fabian Cancellara ac roedd yn seithfed yn y Paris–Roubaix, gan orffen 20 eiliad tu ôl i Niki Terpstra. Yn y Tour de France bu'n gweithio dros Richie Porte wedi i arweinydd Team Sky, Chrids Froome, adael y ras wedi anaf ar y pumed cymal. Thomas oedd yr unig seiclwr o ynysoedd Prydain i orffen y ras gan orffen yn 22in, ei ganlyniad gorau yn y Tour de France.

Wedi'r Tour, teithiodd Thomas i Glasgow i gynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow. Casglodd fedal efydd yn y Ras yn erbyn y cloc cyn casglu'r fedal aur yn y Ras Lôn mewn ras hynod gyffrous welodd Thomas yn gorfod newid olwyn ym munudau olaf y ras.[44]

2016 golygu

2017 golygu

 
Cipiodd Geraint y siwmper felen yn Tour de France 2017, wedi iddo ennill y cymal agoriadol.

Yn Ionawr cyhoeddodd Team Sky y byddai Geraint a Mikel Landa yn cyd-arwain yn y Giro d'Italia y flwyddyn honno.[45]

Ym Mawrth Geraint Thomas a arweiniodd y Tirreno–Adriatico ond amharwyd ar berfformiad Team Sky gydag anaf i Gianni Moscon, pan chwythodd ei deiar flaen a disgynnodd ar y tarmac.[46] Gorffennodd Team Sky 1' 41" yn is na'r safon. Enillodd Thomas yr ail gymal - 9 eiliad o flaen Tom Dumoulin. Ar ddiwedd y ras gorffennodd Geraint yn 5ed: 58 eiliad y tu ôl i Quintana.

Yn Ebrill, daeth Geraint y seiclwr cyntaf o Gymru, ac o Brydain, i ennill y Tour of the Alps (a adnabyddid cynt fel y Giro del Trentino).[47] Yn dilyn anaf i'w ysgwydd ac yna'n ddiweddarach i'w ben-glin, tynnodd o'r ras.[48]

Yn Tour de France 2017, enillodd Geraint y cymal agoriadol, gan ei wneud y Cymro cyntaf erioed i wisgo'r siwmper felen. Cadwodd honno amdano hyd at Gymal 5, pan disgynnodd i'r ail safle. Daeth ei gyfraniad i'r ras i ben pan gafodd ddamwain ar Gymal 9 gan dorri pont ei ysgwydd.[49]

2018 golygu

Yn 2018 cystadlodd Thomas fel 'cyd-arweinydd' gyda Chris Froome ar gyfer Team Sky. Yn sgil damwain yn y cymal cyntaf, collodd Froome amser i Thomas. Wedi hynny, bu ymgiprys am arweinyddiaeth y tîm. Enillodd Thomas cymal 11 ar La Rosière, Savoie a Chymal 12 fyny'r Alpe d'Huez mewn modd ddramatig. Yn dilyn hynny aeth ymlaen i ennill y Tour de France. Ef oedd y Cymro cyntaf erioed i ennill ras bwysicaf y byd seiclo. Fe'i gyfarchwyd mewn seremoni arbennig o flaen adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod yr Eisteddfod Caerdydd.

2021 golygu

 
Thomas yn y Tour de France, 2021

Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020 yn Japan (ym mis Gorffennaf 2021), tynnodd Thomas allan o'r Ras Ffordd gyda 60 km i fynd.[50] Ychydig wythnosau ynghynt, fe adlynodd ei ysgwydd ar ôl cwympo yn ystod wythnos gyntaf y Tour de France.

2022 golygu

Yn y Tour de Suisse, roedd yn rhan o dîm Ineos Grenadiers a oedd yn cynnwys Adam Yates, Daniel Martínez a Tom Pidcock.[51] Ar ôl ennill eiliadau bonws ar y trydydd cymal,[52] roedd tu ôl arweinydd y ras Aleksandr Vlasov o saith eiliad ar ôl y pumed cymal.[53] Yn dilyn prawf COVID-19 positif Vlasov cyn y chweched cam, symudodd Thomas i fyny i'r ail safle yn gyffredinol, un eiliad y tu ôl i Jakob Fuglsang.[54] Cafodd y ddau eu pasio gan Sergio Higuita ar y seithfed cymal, gyda Higuita yn arwain Thomas o ddwy eiliad i gam olaf y treial amser unigol yn Liechtenstein.[55] Gorffennodd Thomas yn ail ar y diwrnod i Remco Evenepoel, gyda Higuita yn gorffen mwy na munud i lawr, a roddodd y fuddugoliaeth gyffredinol i Thomas.[56] Hon oedd y bedwaredd ras fawr iddo’i hennill, a’i ddegfed podiwm, wyth ohonyn nhw’n dod ar ôl iddo droi'n 30 oed.

Tour de France 2022 fyddai’r 12fed tro i Thomas seiclo y Grand Boucle. Daeth i mewn i'r ras ynghyd â'i gyd-aelodau o'r tîm Adam Yates, Dani Martínez a Tom Pidcock ac nid oedd yr un beiciwr yn ffefryn amlwg. Profodd Thomas ei hun i fod y beiciwr cryfaf yn y ras, ac eithrio Jonas Vingegaard a Tadej Pogačar. Rhwng yr Alpau a'r Pyrenees roedd sïon bod Pogačar yn ceisio cynghreiro gyda Thomas, ac atebodd Thomas nad oeddent yn siarad y noson cynt yn trafod tactegau, ond mae beth bynnag sy'n digwydd yn ystod y ras, yn digwydd.[57] I mewn i'r drydedd wythnos fe seiclodd yn ddigon cryf i roi ei hun mewn sefyllfa i orffen ar bodiwm y Tour am y trydydd tro yn ei yrfa. Gyda'i berfformiad cryf yn ystod y treial amser terfynol ef oedd yr unig feiciwr i orffen o fewn +10:00 i Vingegaard a Pogačar, a sicrhaodd ei safle podiwm, yn y trydydd safle.[58][59]

Gyda Tesni Evans, dewiswyd ef i gludo baner Cymru yn seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad 2022.[60]

Canlyniadau golygu

Trac golygu

2004
1af Madison Cwpan Talent UIV Bremen (gyda Mark Cavendish)
1af Ras Scratch, Pencampwriathau Iau y Byd, Los Angeles
2il Ras Scratch, UCI Moscow World Cup
2il Ras Bwyntiau, Pencampwriaethau Ewropeaidd Iau
2005
1af   20km Ras Scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2006
1af Cwpan y Byd UCI, Moscow, Pursuit Tîm (gyda Paul Manning, Chris Newton ac Ed Clancy)
1af   Pencampwriaethau Trac Ewropeaidd, Pursuit Tîm dan 23, gyda (Ed Clancy, Ian Stannard, ac Andy Tennant)
2il Pencampwriaethau'r Byd Pursuit Tîm, (gyda Stephen Cummings, Rob Hayles a Paul Manning)
2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Pursuit Tîm, gyda (Ross Sander, Ian Stannard a Ben Swift)
2il Ras Scratch dan 23, Pencampwriaethau Trac Ewropeaidd
3ydd Points Race, Melbourne 2006 Commonwealth Games
3ydd Cwpan y Byd UCI, Sydney, Pursuit Tîm (gyda Ed Clancy, Ian Stannard, ac Andy Tennant)
3ydd Madison, UCI Sydney World Cup, (gyda Mark Cavendish)
4ydd Ras Bwyntiau dan 23, Pencampwriaethau Trac Ewropeaidd
5ed Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Pursuit
2007
1af   Pencampwriaethau'r Byd, Pursuit Tîm
2008
1af   Pencampwriaethau'r Byd, Pursuit Tîm
1af   Pursuit Tîm, Gemau Olympaidd
2009
1af   Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Pursuit
2012
1af   Pursuit Tîm, Gemau Olympaidd - Record y Byd
1af   Pencampwriaethau'r Byd, Pursuit Tîm
2il Pencampwriaethau'r Byd, Madison (gyda Ben Swift)

Ffordd golygu

2004
1af   Pecampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd, Cymru
1af, Ras Iau Paris-Roubaix
2005
1af   Pecampwriaethau Cenedlaethol Rasio Ffordd, Cymru[61]

Cafodd Thomas ddamwain ychydig ddydiau cyn ei debut rasio ffordd hyn yn Sydney ac roedd rhaid iddo gael llawdriniaeth i dynnu ei sblîn. Doedd o ddim yn gallu cystadlu llawer oherwydd hynnu yn 2005.

2006
1af Canlyniadau Terfynol, Fleche du Sud
1af Canlyniadau Pwyntiau, Fleche du Sud
1af Canlyniadau dan 21, Fleche du Sud
1af Cymal 2, Fleche du Sud
2il Cymal 3B, Fleche du Sud
3ydd Pencampwriaethau Rasio Ffordd Prydeinig
3ydd Canlyniadau Terfynol y Mynyddoedd, Giro d'Italia (Baby Giro)
4ydd Cymal 10, Giro d'Italia (Baby Giro)
4ydd Cymal 4, Fleche du Sud
5ed Cymal 4, Taith Prydain
5ed Cymal 2, Giro d'Italia (Baby Giro)
2007
5ed Canlyniadau dan 23, Tour Down Under
2008
1af Smithfield Nocturne
3ydd Cymal 1, Ster Elektrotoer
2009
5ed Coppa Bernocchi
2010
1af   Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
1af Cymal 1 TTT Tour of Qatar
2il Cymal 3 Tour de France
Deliodd   Crys Reidiwr Ifanc o Cymal 3–6
2011
2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain
2il Dwars door Vlaanderen
10fed Ronde van Vlaanderen
31af Tour de France
3ydd Cymal 2
5ed Cymal 5
Deilydd Crys Reidiwr Ifanc o gymal 1-7
Gwobr Brwydrol cymal 12
12fed Taith Prydain
1af Dosbarthiad Pwyntiau
3ydd Cymal 3
4ydd Cymal 4
2012
1af Prologue, Tour de Romandie
Giro d'Italia
2il Cymal 1, Treial amser
2il Cymal 21, Treial amser
2013
2il Bayern–Rundfahrt
3ydd Tour Down Under
1af   Sprints classification
1af Cymal 2
3ydd   Treial amser tîm, UCI Road World Championships
4ydd Omloop Het Nieuwsblad
4ydd E3 Harelbeke
10th Overall Tour of Qatar
2014
Commonwealth Games
1af   Road race
3rd   Treial amser
1af   Overall Bayern–Rundfahrt
1af Cymal 4 (treial amser)
2il treial amser, National Road Championships
3ydd E3 Harelbeke
6th Eneco Tour
7th Paris–Roubaix
8th Tour Down Under
8th Tour of Flanders
2015
1af   Volta ao Algarve
1af   Points classification
1af Cymal 2
1af E3 Harelbeke
1af Cymal 1 (Treial amser tîm) Tour de Romandie
2il Tour de Suisse
3ydd Gent–Wevelgem
5ed Paris–Nice
2016
1af   Paris–Nice
1af   Volta ao Algarve
9ydd Treial amser, Gemau Olympaidd
2017
1af   Overall Tour of the Alps
1af Cymal 3
Tour de France
1af Cymal 1 (Treial amser)
Held   after Stages 1–4
Held   after Stage 1
3ydd   Treial amser tîm, UCI Road World Championships
5ed Tirreno–Adriatico
1af Cymal 2
7th Taith Prydain
2018
1af   Treial amser, National Road Championships
1af   Overall Tour de France
1af Cymal 11 & 12
1af   Overall Critérium du Dauphiné
1af Cymal 3 (Treial amser tîm)
2il Volta ao Algarve
1af 3 (Treial amser)
3ydd Tirreno–Adriatico
4ydd UCI World Tour
2019
2il Tour de France
3ydd Tour de Romandie
2020
2il Tirreno–Adriatico
4ydd Treial amser, UCI Road World Championships
2021
1af   Tour de Romandie
3ydd Critérium du Dauphiné
1af Cymal 5
3rd Volta a Catalunya

Diwylliant poblogaidd golygu

Tour de France 2018 golygu

Yn sgil llwyddiant cynyddol Geraint Thomas yn ystod Tour de France 2018 rhannwyd clip fideo ar Facebook o ffans Geraint Thomas yn canu fersiwn hwyliog ohonynt yn canu cân Hogia'r Wyddfa, Titw Tomos Las[62] gyda Geraint yn dod allan o'i bws teithio i'w harwain yn y canu.[63]

Ynghanol holl hwyl llwyddiant Geraint yn y Tour, recordiodd BBC Radio Cymru fersiwn newydd o Titw Tomos Las[62] ar gyfer rhaglen foreuol Aled Hughes. Canwyd y fersiwn newydd gan ddau o aelodau Hogia'r Wyddfa, y bandi Siddi, Band Pres Llarebbug a phlant lleol.[64] a bu sylwi iddi ar Radio Cymru a'r we.[65]

Roedd cân Titw Tomos yn rhan o don o Ddathliadau Geraint Thomas yn Tour de France 2018 gan gynnwys cerddi a chân rap.

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Geraint Thomas profile". Nodyn:Ct. BSkyB. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Mai 2013. Cyrchwyd 3 Ebrill 2013.
  2. "Tour de France: Uran wins stage 9 in photo finish". CyclingNews. 10 Gorffennaf 2017.
  3. Y Cymro cyntaf ar fin ennill y Tour de France , Golwg360, 28 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 29 Gorffennaf 2018.
  4.  Village's pride at gold. This is South Wales (20 Awst 2008).
  5.  An interview with Geraint Thomas. cyclingnews.com (5 Gorffennaf 2007).
  6.  In the zone: Geraint Thomas. BBC Sport.
  7. "Geraint Thomas' girlfriend: "Why I've travelled thousands of miles to support Ger"". walesonline. 9 Gorffennaf 2011.
  8.  Larry Hickmott (27 Mawrth 2005). Geraint Thomas Recovering from Aussie Crash. British Cycling.
  9.  Thomas in hospital after crashing. BBC Sport (18 Chwefror 2005).
  10.  2007 Tour de France, Overall Standing. Le Tour de France (29 Gorffennaf 2007).
  11. 11.0 11.1  Thomas backed for Beijing glory. BBC (5 Rhagfyr 2007).
  12.  Ian Jenkins (17 Gorffennaf 2007). Maindy Flyers 'On Tour'!. Welsh Cycling.
  13.  Calzaghe claims BBC Wales award. BBC (2 Rhagfyr 2007).
  14.  THE BIG INTERVIEW: GERAINT THOMAS. Cycling Weekly (11 Mehefin 2008).
  15.  Gordon Rayner (6 Awst 2008). Beijing Olympics: Flags showing Cross of St George, Saltire or Welsh dragon banned. Telegraph.co.uk.
  16.  Martin Shipton (5 Awst 2008). Olympic officials ban Welsh athletes from flying national flag. South Wales Echo.
  17.  GB pursuit team set world record. BBC Sport (17 Awst 2008).
  18.  GB storm to gold in team pursuit. BBC Sport (18 Awst 2008).
  19.  Thomas & Cavendish fight for spot. BBC Sport (25 Gorffennaf 2008).
  20.  Motivation is high despite Tour dopers. BBC Sport (22 Gorffennaf 2008).
  21. London Gazette, rhifyn 58929, tud. 23, 31 Rhagfyr 2008
  22. Golwg360 Geraint Thomas ymysg y Cymry ar restr anrhydeddau’r Frenhines adalwyd 29 Rhagfyr 2018
  23.  Latest Cycling News: Broken bones for Thomas. CyclingNews (2009-03-16).
  24.  44th Tirreno-Adriatico - Stage 4 & 5 Comnments & Photos. Daily Peleton (15 Mawrth 2009).
  25. 25.0 25.1  William Fotheringham (31 Hydref 2009). Geraint Thomas sets second fastest individual pursuit time in history. The Guardian.
  26. BBC Live Cycling coverage, 1 Tachwedd 2009
  27.  Ryan Giggs wins BBC Wales Sports Personality 2009. BBC Sport (8 Rhagfyr 2009).
  28.  Geraint Thomas. Team Sky.
  29.  Thomas seals victory in Bavaria. Sky Sports (29 Mai 2011).
  30.  Wiggins Wins National RR Champ. British Cycling (26 Mehefin 2011).
  31.  Geraint Thomas in the thick of the Tour de France action. South Wales Echo (15 Gorffennaf 2011).
  32. Thomas, Graham (7 Hydref 2011). "Geraint Thomas considers quitting track after London Olympics". BBC Wales Sport.
  33. Callow, James (24 Hydref 2011). "Geraint Thomas to skip Tour de France in bid for Olympic gold". The Guardian. London.
  34. Howell, Andy (5 Mawrth 2012). "Geraint Thomas helps Bradley Wiggins claim Paris-Nice yellow jersey". WalesOnline. Media Wales.
  35. Richardson, Simon (2012-04-04). "Great Britain break team pursuit world record to win gold". Cycling Weekly. IPC Media Limited.
  36. "Belgians win world Madison crown". SBS Cycling Central. SBS. 8 Ebrill 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-02-19. Cyrchwyd 2014-08-10.
  37. "Tour de Romandie: Geraint Thomas wins on opening day". BBC Sport. BBC. 24 Ebrill 2012.
  38. Gallagher, Brendan (2012-05-05). "Taylor Phinney romps to victory in opening time-trial ahead of Team Sky's Geraint Thomas". The Guardian. Telegraph Media Group Limited.
  39. "Giro d'Italia 2012: Ryder Hesjedal is first Canadian to win the race". BBC Sport. BBC. 2012-05-27.
  40. "Track cycling: GB men set team pursuit world record". BBC Sport. 2 Awst 2012.
  41. Bevan, Chris (3 Awst 2012). "Olympics cycling: Team GB defend men's pursuit title". BBC Sport.
  42. "Tour Down Under: Geraint Thomas finishes third". BBC Sport. BBC. 27 Ionawr 2013.
  43. "Tour de France 2013: stage 21 results". guardian.co.uk. 2013-07-21.
  44. "Geraint Thomas wins Commonwealth gold for Wales". Guardian.co.uk.
  45. "Thomas and Landa to have joint leadership of Team Sky at Giro d'Italia - Cyclingnews.com".
  46. Windsor, Richard (8 Mawrth 2017). "Gianni Moscon's front wheel collapses in bizarre crash during Tirreno TTT (video)". Cycling Weekly. Time Inc. UK. Cyrchwyd 14 Mawrth 2017.
  47. "Geraint Thomas wins Tour of Alps: Welshman the first Briton to win event". BBC Sport. BBC. 21 Ebrill 2017. Cyrchwyd 21 Ebrill 2017.
  48. "Giro d'Italia: Geraint Thomas pulls out of race after crash on Sunday". 19 Mai 2017 – drwy www.bbc.co.uk.
  49. "Tour de France: Uran wins stage 9 in photo finish". Cyclingnews.com. Immediate Media Company. 9 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2017.
  50. "Dim medal yn y ras ffordd i Geraint Thomas ar ôl disgyn". BBC Cymru Fyw. 25 Gorffennaf 2021.
  51. Benson, Daniel (10 Mehefin 2022). "Ineos Grenadiers dispatch Tour de France leaders to Tour de Suisse". VeloNews. Outside. Cyrchwyd 25 Mehefin 2022.
  52. "Tour de Suisse stage 3: Peter Sagan blasts back with bunch sprint stunner". VeloNews. Outside. 14 Mehefin 2022. Cyrchwyd 25 Mehefin 2022.
  53. Fletcher, Patrick (16 Mehefin 2022). "Vlasov holds off Powless to win Tour de Suisse stage 5". Cyclingnews.com. Future plc. Cyrchwyd 25 Mehefin 2022.
  54. "Tour de Suisse leader Vlasov and Olympic champion Pidcock quit after new positive Covid cases". BBC Sport. BBC. 17 June 2022. Cyrchwyd 25 Mehefin 2022.
  55. Trifunovic, Pete (18 June 2022). "Thibaut Pinot wins Tour de Suisse stage seven as Sergio Higuita takes the overall lead". Cycling Weekly. Future plc. Cyrchwyd 25 June 2022.
  56. Walker-Roberts, James (20 Mehefin 2022). "Geraint Thomas 'easy' over Tour de France leadership for Ineos Grenadiers after Tour de Suisse win". Eurosport. Discovery, Inc. Cyrchwyd 22 Mehefin 2022.
  57. Benson, Daniel (17 Gorffennaf 2022). "Geraint Thomas: Possible Tour de France alliances but Pogačar isn't calling me the night before: 'I'm more looking ahead but you have to be aware of what's behind you,' Welshman tells VeloNews". Velo News by Outside Magazine. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2022.
  58. Ostanek, Daniel (23 Gorffennaf 2022). "Thomas 'over the moon' to seal Tour de France podium place". cyclingnews.com. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2022.
  59. "Geraint Thomas yn codi i'r trydydd safle yn y Tour de France". BBC Cymru Fyw. 8 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2022.
  60. "Gemau'r Gymanwlad: Evans a Thomas i gludo baner Cymru". BBC Cymru Fyw. 28 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2022.
  61. Thomas retains Welsh Road crown BBC 25 Mai 2005
  62. 62.0 62.1 https://www.youtube.com/watch?v=XIni2DrPGXk
  63. https://www.facebook.com/geraint.thomas.921/videos/676098202538132/
  64. ysgol.https://www.bbc.co.uk/programmes/p06fnknw
  65. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/44954312