Canolfan S4C Yr Egin

pencadlys S4C yng Nghaerfyrddin

Mae Canolfan S4C Yr Egin neu Yr Egin yn adeilad yng Nghaerfyrddin, yn bencadlys i S4C ac yn ganolfan i'r diwydiannau creadigol. Mae'n bartneriaeth rhwng S4C a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyda'r adeilad wedi ei leoli ar gampws y Brifysgol yn gyfagos i adeiladau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Theatr Genedlaethol Cymru.[1]

Canolfan S4C Yr Egin
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCaerfyrddin Edit this on Wikidata
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Canolfan S4C Yr Egin - Pencadlys S4C, yng Nghaerfyrddin

Ym mis Ebrill 2018 penodwyd Carys Ifan fel cyfarwyddwr Yr Egin.[2] Cynhelir gŵyl agor Yr Egin rhwng 22 Hydref a 3 Tachwedd 2018. Agorwyd yr adeilad yn swyddogol ar 25 Hydref 2018.[3]

Yn dilyn tendr cystadleuol am ddylunio'r adeilad cyhoeddwyd ar 6 Gorffennaf 2018 fod y gwaith wedi ei ddyfarnu i'r cwmni pensaernïol ROA o Gastell Newydd Emlyn a'r cwmni rhyngwladol BDP. Cychwynodd y gwaith adeiladu ar 30 Mawrth 2017 a chwblhawyd y gwaith erbyn Gwanwyn 2018. Mae'r adeilad ar siâp triongl a mae 3,700 metr sgwâr o ofod ar gael, gydag S4C yn brif denant a lle i nifer o gwmnïau eraill.[4] Yng Ngorffennaf 2018 cyhoeddwyd rhai o denantiaid cyntaf Yr Egin, casgliad amrywiol o gwmnïau sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol: Atebol; Big Learning Company; Captain Jac; Asset Finance Solutions; Gorilla; Highly; Lens 360; Moilin; Optimwm; a Trywydd[5]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. S4C.
  2. Penodi Carys Ifan yn gyfarwyddwr newydd Yr Egin , BBC Cymru Fyw, 19 Ebrill 2018. Cyrchwyd ar 12 Hydref 2018.
  3. Agor Canolfan S4C yng Nghaerfyrddin, Yr Egin yn swyddogol , BBC Cymru Fyw, 25 Hydref 2018.
  4.  Datgelu mwy am ganolfan 'arloesol' S4C, Yr Egin. BBC Cymru Fyw (2 Awst 2016).
  5. Cyhoeddi pwy fydd tenantiaid cyntaf Yr Egin, cartref newydd S4C , Golwg360, 19 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 12 Hydref 2018.