Canser colorectaidd
Mae canser colorectaidd (CRC), a elwir hefyd yn ganser y coluddyn a chanser y perfeddyn mawr, yn ddatblygiad canseraidd o'r coluddyn neu'r rectwm (rhannau o'r coluddyn mawr).[1] Twf annaturiol o gelloedd yw canser, ac maent â'r gallu i ymosod ar, neu ledaenu i rannau eraill o'r corff.[2] Gall arwyddion a symptomau gynnwys gwaed yn y carthion, newid mewn symudiadau'r coluddyn, colli pwysau a blinder cyson.[3]
Math o gyfrwng | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | colorectal neoplasm, canser y coluddyn mawr, clefyd |
Arbenigedd meddygol | Oncoleg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Deillia'r rhan fwyaf o ganserau colorectaidd o henaint a ffordd o fyw unigolyn, ac mewn gwirionedd nifer fechan o achosion sy'n datblygu o ganlyniad i anhwylderau genetig.[4] Ymhlith y ffactorau risg y mae diet gwael, gordewdra, ysmygu a diffyg ymarfer corff.[5] Ceir arferion dietegol penodol sy'n cynyddu'r risg hefyd gan gynnwys gormod o gig wedi ei brosesu a chig coch yn ogystal ag alcohol. Ffactor risg arall yw clefyd llid y coluddyn, sy'n cynnwys clefyd Crohn a llid briwiol y coluddyn. Ymhlith yr anhwylderau genetig a all achosi canser colorectaidd y mae polypedd chwyddol teuluol a chanser colonol di-polypedd etifeddol; fodd bynnag, mae'r rhain yn cynrychioli llai na 5% o achosion. Dechreua fel tiwmor diniwed, yn aml ar ffurf polyp, ond dros amser fe ddaw'n ganseraidd.
Gellir canfod canser y coluddyn trwy dynnu sampl o'r coluddyn mawr yn ystod sigmoidosgopi neu colonosgopi. Dilynir y broses hynny gan ddelweddu meddygol er mwyn archwilio lledaeniad y clefyd. Mae cynnig sgrinio yn ddull effeithiol o atal a lleihau marwolaethau yn deillio o ganser y coluddyn mawr. Argymhellir sgrinio a nifer o brosesau gwarchodol eraill i bobl rhwng 50 a 75 mlwydd oed.[6] Gellir dileu polypau bach yn ystod colonosgopi. Os canfyddir polyp neu diwmor mawr, perfformir biopsi er mwyn gwirio nad yw'n ganseraidd. Mae asbrin a chyffuriau gwrthlidiol di-steroidaidd eraill yn lleihau'r risg.[7] Fodd bynnag, ni argymhellir eu defnyddio mewn modd cyffredinol o ganlyniad i'w sgîl-effeithiau.[8]
Wrth drin canser colorectaidd gellir cyfuno llawdriniaethau, therapïau ymbelydredd, cemotherapi a therapïau targed. Mae modd trin a gwella canserau sydd wedi'u cyfyngu o fewn muriau'r coluddyn mawr gyda llawdriniaethau. Serch hynny, yn fwy aml na pheidio, ni ellir gwella canserau sydd wedi lledaenu'n eang, ac yn y fath achosion, rhoddir pwyslais cynyddol ar wella ansawdd bywyd a symptomau'r dioddefwr.[1] Mae oddeutu 65% o gleifion canser colorectaidd yn byw'n hirach na chyfnod o bum mlynedd wedi eu diagnosis yn yr Unol Daleithiau.[9] Dibynnir cyfraddau goroesi unigolion ar ddatblygiad y canser, y posibiliad o dynnu a dileu'r canser ar ffurf llawdriniaeth, ynghyd ag iechyd cyffredinol y person. Canser colorectaidd yw'r trydydd math mwyaf cyffredin o ganser ar draws y byd (10% o achosion).[10] Yn 2012 daeth 1.4 miliwn o achosion newydd i'r golwg, gan arwain at 694,000 o farwolaethau yn yr un flwyddyn. Mae'r cyflwr yn fwy cyffredin mewn gwledydd datblygedig, lle leolir 65% o'r achosion. Nid yw'n taro menywod ar yr un raddfa a dynion.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Colon Cancer Treatment (PDQ®)". NCI. Mai 12, 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Gorffennaf 5, 2014. Cyrchwyd Mehefin 29, 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Defining Cancer". National Cancer Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mehefin 25, 2014. Cyrchwyd Mehefin 10, 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "General Information About Colon Cancer". NCI. Mai 12, 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Gorffennaf 4, 2014. Cyrchwyd Mehefin 29, 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "Colorectal Cancer Prevention (PDQ®)". National Cancer Institute. Chwefror 27, 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Gorffennaf 5, 2014. Cyrchwyd Mehefin 29, 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ World Cancer Report 2014. World Health Organization. 2014. tt. Chapter 5.5. ISBN 9283204298.
- ↑ Bibbins-Domingo, Kirsten; Grossman, David C.; Curry, Susan J.; Davidson, Karina W.; Epling, John W.; García, Francisco A. R.; Gillman, Matthew W.; Harper, Diane M. et al. (21 Mehefin 2016). "Screening for Colorectal Cancer". JAMA 315 (23): 2564–75. doi:10.1001/jama.2016.5989. PMID 27304597.
- ↑ Thorat, MA; Cuzick, J (Dec 2013). "Role of aspirin in cancer prevention.". Current Oncology Reports 15 (6): 533–40. doi:10.1007/s11912-013-0351-3. PMID 24114189.
- ↑ "Routine aspirin or nonsteroidal anti-inflammatory drugs for the primary prevention of colorectal cancer: recommendation statement.". American Family Physician 76 (1): 109–13. 2007. PMID 17668849. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 14, 2014. http://www.aafp.org/afp/2007/0701/p109.html.
- ↑ "SEER Stat Fact Sheets: Colon and Rectum Cancer". NCI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mehefin 24, 2014. Cyrchwyd Mehefin 18, 2014. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ World Cancer Report 2014. World Health Organization. 2014. tt. Chapter 1.1. ISBN 9283204298.